
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru (Sefydlu) a daw i rym ar 25 Mehefin 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
 y mae i “dyddiad gweithredol” yr ystyr a roddir i “operational date” ym mharagraff 5(5) o Atodlen 3 i'r Ddeddf;
 ystyr “dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 25 Mehefin 2008;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
 ystyr “gwasanaethau iechyd cymunedol” (“community health services”) yw unrhyw wasanaeth y dichon Gweinidogion Cymru ei ddarparu o dan adran 3(1) o'r Ddeddf neu Atodlen 1 iddi;
 ystyr “yr ymddiriedolaeth” (“the trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru a sefydlir gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.
2 
Sefydlir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol o'r enw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru neu the North Wales National Health Service Trust.
3 

(1) Sefydlir yr ymddiriedolaeth at y dibenion a bennir yn adran 18(1) o'r Ddeddf.
(2) Swyddogaethau'r ymddiriedolaeth fydd darparu nwyddau a gwasanaethau (gan gynnwys lle mewn ysbyty a gwasanaethau iechyd cymunedol) o
(a) Ysbyty Glan Clwyd, Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 5UJ;
(b) Ysbyty Wrecsam Maelor, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD;
ac ysbytai a mangreoedd cysylltiedig.
4 

(1) Bydd gan yr ymddiriedolaeth, yn ychwanegol at y cadeirydd, 7 cyfarwyddwyr anweithredol a 5 cyfarwyddwyr gweithredol.
(2) Gan fod rhaid ystyried fod i'r ymddiriedolaeth ymrwymiad arwyddocaol i addysgu o fewn ystyr paragraff 5(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf, y mae un o'r cyfarwyddwyr anweithredol i'w benodi o Brifysgol Caerdydd.
5 

(1) Dyddiad gweithredol yr ymddiriedolaeth fydd 1 Gorffennaf 2008.
(2) Dyddiad cyfrifyddu'r ymddiriedolaeth fydd 31 Mawrth.
6 
Rhwng dyddiad ei sefydlu a'i ddyddiad gweithredol y mae i'r ymddiriedolaeth y swyddogaethau canlynol—
(a) ymrwymo i gontractau'r GIG
(b) ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac
(c) gwneud y fath bethau eraill ag sy'n rhesymol angenrheidiol i'w alluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2008