
Cafodd Gweinidogion Cymru eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol ar fwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid neu y porthir anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd ag ef.

1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2008.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Gorffennaf 2008.
(3) Yn y rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Diwygir y Prif Reoliadau yn unol â'r paragraffau canlynol—
(a) yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o “awdurdod bwyd anifeiliaid” yn lle “adran 67(1)” rhodder “adran 67(1A)”;
(b) ym mharagraff (1) o reoliad 4 (gorfodi) hepgorer y geiriau “neu, yn ôl y digwydd, ei ddosbarth,”; ac
(c) yn rheoliad 5 (cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990) ym mharagraff (c) (sy'n ymwneud ag adran 32 — pwerau mynediad) hepgorer y geiriau “neu, yn ôl y digwydd, ei ddosbarth”.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Mehefin 2008