
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 19 Mehefin 2008.
2 
Yn rheoliad 17 o Reoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008 dileer yr ail gyfeiriad at “yr Ysgrifennydd Gwladol” ac yn ei le rhodder “Weinidogion Cymru”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
18 Mehefin 2008