
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Erthylu (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 17 Mehefin 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Erthylu 1991.
2 
Yn rheoliad 2 (dehongli) o'r prif Reoliadau, mewnosoder y diffiniadau canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—“
 “the Statistics Board” means the Statistics Board established under section 1 of the Statistics and Registration Service Act 2007;
 “the Chief Medical Officer for Wales” means the Chief Medical Officer to the Welsh Assembly Government;”.
3 
Yn rheoliad 4(2)(b) (sy'n ymwneud â hysbysiad o derfyniad a gwybodaeth ynghylch y terfyniad) o'r prif Reoliadau, yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Assembly Government”.
4 
Yn rheoliad 5 (cyfyngu ar ddatgelu gwybodaeth) o'r prif Reoliadau —
(a) ym mharagraff (a)(i), yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “the Welsh Assembly Government”;
(b) yn lle paragraff (a)(ii) rhodder—“
(ii) to the chairman of the Statistics Board or a member of the Statistics Board’s staff who has been duly authorised by the chairman.”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Mai 2008