
RHAN 1
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 13 Mehefin 2008.
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3 
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008.
4 
Diwygir Rheoliadau 2008 fel a ganlyn.
5 
Yn rheoliad 18(3), yn lle'r ffigur “25,580”, rhodder y ffigur “27,115”.
6 
Yn lle paragraffau 8(1)(b) ac 8(1)(c) o Atodlen 2 rhodder—“
(b) a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig yn union cyn gadael y Deyrnas Unedig i arfer hawl i breswylio;
(c) sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol;”.
7 
Ym mharagraff 4(2)(a) o Atodlen 3 hepgorer y geiriau “a delir gan y myfyriwr” ac “y myfyriwr”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Mai 2008