
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) 2008. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 6 Mehefin 2008.
2 

(1) Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2, hepgorer y diffiniad o “milfeddyg”.
(3) Yn lle paragraff (3) o erthygl 14, rhodder—“
(3) Rhaid i bob anifail sy'n cael ei symud o dan drwydded benodol gael ei gadw ar wahân i unrhyw anifail nad yw'n cael ei symud o dan awdurdod y drwydded honno, a hynny ar hyd y daith.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
14 Mai 2008