
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) 2008. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 10 Mai 2008.
2 
At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn—
(a) estynnir diffiniad “anifail” (“animal”) i gynnwys unrhyw fath o famal ac eithrio dyn, ac unrhyw greadur pedwartroed nad yw'n famal;
(b) estynnir diffiniad “dofednod” (“poultry”) i gynnwys unrhyw rywogaeth o aderyn; ac
(c) estynnir diffiniad “clefyd” (“disease”) i gynnwys unrhyw glefyd anifeiliaid a dofednod a all gael ei achosi gan un neu ragor o bathogenau anifeiliaid penodedig.
3 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae “anifail” (“animal”) yn cynnwys dofednod;
 ystyr “cludydd” (“carrier”) yw unrhyw greadur byw ac eithrio dyn a all gludo neu drosglwyddo pathogen anifail penodedig neu feinwe, meithriniad celloedd, hylif corff, ysgarthion, carcas, neu ran o garcas y cyfryw greadur y gellir trosglwyddo neu gludo pathogen anifail penodedig ganddo neu drwy ei gyfrwng;
 mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad neu le arall; ac
 ystyr “pathogen anifail penodedig” (“specified animal pathogen”) yw pathogen anifail a restrir yn Atodlen 1, gan gynnwys—
(a) pathogenau cyfan;
(b) pathogenau a wanhawyd neu a addaswyd yn enetig drwy unrhyw gyfrwng; ac
(c) unrhyw asid niwclëig sy'n deillio o bathogen anifail a restrir yn yr Atodlen honno a allai gynhyrchu'r pathogen hwnnw pan gâi ei gyflwyno i system fiolegol y mae'r asid niwclëig yn gallu dyblygu ynddo.
(2) Yn y Gorchymyn hwn nid yw “arolygydd” (“inspector”) yn cynnwys arolygydd a benodwyd gan awdurdod lleol.
(3) Rhaid i drwydded neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw adeg.
4 

(1) Ni chaiff neb feddu ar—
(a) unrhyw bathogen anifail a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1; neu
(b) unrhyw gludydd y gwyr fod y cyfryw bathogen ynddo,
ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru.
(2) Ni chaiff neb gyflwyno unrhyw bathogen anifail a bennir yn naill ai Rhan 1 neu Ran 2 o'r Atodlen honno i unrhyw anifail yn fwriadol, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i berson hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith os yw'r person hwnnw—
(a) yn meddu ar unrhyw beth yn ei gylch y mae ganddo sail resymol dros amau bod pathogen anifail a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 yn bresennol, a
(b) heb drwydded ar gyfer y pathogen hwnnw.
5 

(1) Nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw berson sy'n cludo pathogen neu gludydd ac nad yw'n berchen ar y pathogen na'r cludydd hwnnw neu nad oes ganddo unrhyw hawliau ynddynt.
(2) Nid yw erthygl 4 yn gymwys o ran unrhyw bathogen na chludydd a geir mewn cynnyrch—
(a) a awdurdodir i'w roi ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig fel cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol, neu a awdurdodir i'w roi i anifail yn y Deyrnas Unedig;
(b) a awdurdodir i'w roi ar y farchnad o dan Reoliadau Meddyginiaethau i'w Defnyddio gan Bobl (Awdurdodiadau Marchnata etc.) 1994;
(c) a drwyddedwyd yn unol â darpariaethau adran 7(2) o Ddeddf Meddyginiaethau 1968.
6 
Yn ychwanegol at y pwerau a nodir yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981, mae gan arolygydd sy'n gorfodi'r Gorchymyn hwn y pwerau a nodir yn Atodlen 2.
7 

(1) Os yw arolygydd yn barnu bod person—
(a) yn cyflawni unrhyw weithgaredd sy'n torri un neu ragor o amodau trwydded a ddyroddwyd o dan y Gorchymyn hwn, neu
(b) wedi torri un neu ragor o'r amodau hynny mewn amgylchiadau sy'n ei gwneud yn debygol y bydd y toramod yn parhau neu'n cael ei ailadrodd,
caiff yr arolygydd hwnnw gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gwella”) i'r person hwnnw.
(2) Rhaid i hysbysiad gwella—
(a) pennu amodau'r drwydded a dorrwyd;
(b) esbonio'r rhesymau paham y mae'r arolygydd o'r farn honno; ac
(c) ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw unioni'r toramod neu'r materion sydd yn ei achosi, cyn pen y cyfnod a gaiff ei bennu yn yr hysbysiad.
(3) Rhaid i hysbysiad gynnwys cyfarwyddiadau ynghylch y mesurau i'w cymryd i unioni unrhyw doramod neu fater y mae a wnelo'r hysbysiad ag ef; a chaniateir llunio'r cyfryw gyfarwyddiadau mewn dull sy'n rhoi dewis i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo rhwng ffyrdd gwahanol o unioni'r toramod neu'r mater.
8 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw weithgareddau y mae trwydded yn ofynnol ar eu cyfer o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Os yw arolygydd yn barnu bod y gweithgareddau yn cynnwys neu y gallant gynnwys risg o niwed difrifol i anifeiliaid, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gwahardd”) i'r person hwnnw.
(3) Rhaid i hysbysiad gwahardd—
(a) datgan bod yr arolygydd o'r farn honno;
(b) pennu'r materion sydd ym marn yr arolygydd yn achosi neu y gallant achosi risg o niwed difrifol i anifeiliaid; ac
(c) cyfarwyddo na chaniateir cyflawni'r gweithgareddau y mae a wnelo'r hysbysiad â hwy oni bai bod y materion a bennir yn yr hysbysiad wedi cael eu hunioni.
(4) Mae cyfarwyddyd a geir mewn hysbysiad gwahardd o dan is-baragraff (3)(c) yn effeithiol—
(a) ar ddiwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad; neu
(b) os yw'r hysbysiad yn datgan hynny, ar unwaith.
9 

(1) Caiff person y mae hysbysiad gwella neu wahardd yn cael ei gyflwyno iddo apelio yn erbyn yr hysbysiad cyn pen 21 o ddiwrnodau i'r person a benodir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i'r person penodedig ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru ac adrodd yn ysgrifenedig, gan argymell camau gweithredu, i Weinidogion Cymru.
(3) Yna caiff Gweinidogion Cymru naill ai ddiddymu'r hysbysiad neu ei gadarnhau, gyda neu heb addasiadau, a rhaid iddynt hysbysu'r apelydd gan roi'r rhesymau dros eu penderfyniad.
10 
Ni chaiff unrhyw berson dorri amod trwydded a osodir ar y person hwnnw.
11 
Gorfodir y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru.
12 
Dirymir y gorchmynion canlynol—
(a) Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998 wrth ei gymhwyso i Gymru; a
(b) Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2006.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
7 Mai 2008
ATODLEN 1
Erthygl 3
RHAN 1
1 
Feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau
2 
Feirws clwy Affricanaidd y moch
3 
Feirws clefyd Aujesky
4 
Feirysau ffliw adar sydd —
(a) heb eu nodweddu;
(b) Feirysau Teip A sydd â mynegrif pathogenedd mewnwythiennol mewn cywion chwe wythnos oed sy'n fwy na 1.2; neu
(c) Feirysau Teip A is-deip H5 neu H7 y mae dilyniannu niwcleotid wedi dangos amryw o asidau amino basig yn safle holltiad hæmaglwtinin.
5 
Babesia bovis
6 
Babesia bigemina
7 
Babesia caballi
8 
Bacillus anthracis
9 
Feirws y tafod glas
10 
Feirws lewcosis buchol
11 
Brucella abortus
12 
Brucella melitensis
13 
Brucella ovis
14 
Brucella suis
15 
Burkholderia mallei
16 
Feirws clwy clasurol y moch
17 
Cochliomyia hominivorax
18 
Feirysau enseffalomyelitis ceffylaidd Dwyreiniol a Gorllewinol
19 
Echinococcus multilocularis
20 
Echniococcus granulosus
21 
Ehrlichia ruminantium
22 
Feirws anemia heintus ceffylaidd
23 
Feirws clwy'r traed a'r genau
24 
Feirws clefyd Hendra
25 
Histoplasma farciminosum
26 
Feirws enseffalitis Siapaneaidd
27 
Feirws clefyd y croen talpiog
28 
Mycoplasma agalactiae
29 
Mycoplasma capricolum is-rywogaeth capripneumoniae
30 
Mycoplasma mycoides is-rywogaeth mycoides SC ac amrywolion mycoides LC
31 
Mycoplasma mycoides amr capri
32 
Feirysau clefyd Newcastle (paramycsofeirws adar teip 1) sydd—
(a) heb eu nodweddu; neu
(b) â mynegrif pathogenedd mewnymenyddol mewn cywion diwrnod oed o 0.4 neu ragor, pan roddir dim llai na 10 miliwn o ddosau wyau heintus 50% (EID50) i bob aderyn yn y prawf.
33 
Feirws clefyd Nipah
34 
Feirws peste des petits ruminants
35 
Feirws y gynddaredd a phob feirws o'r genws Lyssavirus
36 
Feirws twymyn y Dyffryn Hollt
37 
Feirws Rinderpest
38 
Feirws enseffalomyelitis ceffylaidd St. Louis
39 
Feirws brech y defaid a'r geifr
40 
Feirws clefyd pothellog y moch
41 
Feirws clefyd Teschen
42 
Theileria annulata
43 
Theileria equi
44 
Theileria parva
45 
Trichinella spiralis
46 
Trypanosoma brucei
47 
Trypanosoma congolense
48 
Trypanosoma equiperdum
49 
Trypanosoma evansi
50 
Trypanosoma simiae
51 
Trypanosoma vivax
52 
Feirws enseffalomyelitis ceffylaidd Venezuela
53 
Feirws stomatitis pothellog
54 
Feirws Nil Orllewinol
RHAN 2
55 
Y feirws byw sy'n achosi clefyd gwaedlifol firaol mewn cwningod
ATODLEN 2
Erthygl 6
1 

(1) Caniateir i unrhyw bersonau y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol fynd gyda'r arolygydd.
(2) At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn caiff arolygydd—
(a) cymryd unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau angenrheidiol i'r fangre;
(b) gwneud unrhyw archwiliad ac ymchwiliad a all fod yn angenrheidiol o dan unrhyw amgylchiadau, a chaiff gyfarwyddo na ddylid tarfu (p'un ai yn gyffredinol neu mewn agweddau penodol) ar y fangre, unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth yn y fangre cyhyd ag y bo'n rhesymol angenrheidiol at ddiben unrhyw archwiliad neu ymchwiliad;
(c) cymryd mesuriadau neu dynnu lluniau neu wneud recordiadau;
(ch) cymryd samplau o unrhyw eitemau neu sylweddau, neu'r atmosffer (yn y fangre ac wrth ymyl y fangre);
(d) achosi i unrhyw eitem neu sylwedd gael ei ddatgymalu neu ei ddarostwng i unrhyw broses neu brawf (ond nid er mwyn ei niweidio neu ei ddistrywio oni bai bod hynny'n angenrheidiol o dan yr amgylchiadau at ddiben y broses neu'r prawf);
(dd) cymryd meddiant o unrhyw eitem neu sylwedd a'i ddal dan gadw am gyhyd ag y bo'n angenrheidiol—
(i) i'w archwilio a gwneud unrhyw beth iddo y mae gan yr arolygydd bŵer i'w wneud;
(ii) i sicrhau nad ymyrrir ag ef cyn cwblhau'r archwiliad;
(iii) i sicrhau ei fod ar gael i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos sifil neu droseddol;
(e) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson y mae gan yr arolygydd achos rhesymol dros gredu y gall roi unrhyw wybodaeth (gan gynnwys enw a chyfeiriad y person hwnnw) sy'n berthnasol i unrhyw archwiliad neu ymchwiliad yn ateb (yn absenoldeb personau heblaw person a enwyd gan y person hwnnw i fod yn bresennol ac unrhyw bersonau y caniateir gan yr arolygydd i fod yn bresennol) unrhyw gwestiynau y mae'r arolygydd yn barnu ei bod yn briodol eu gofyn ac yn llofnodi datganiad o wirionedd yr atebion;
(f) gwneud y canlynol yn ofynnol, sef dangos unrhyw drwydded neu gofnod a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, eu harolygu a chymryd copïau ohonynt, neu eu symud ymaith er mwyn galluogi iddynt gael eu copïo a'u harchwilio;
(ff) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi'r cyfryw gyfleusterau a chymorth o ran unrhyw faterion neu bethau o dan reolaeth y person hwnnw neu y mae gan y person hwnnw gyfrifoldebau mewn perthynas ag ef sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi'r arolygydd i arfer unrhyw un o'r pwerau a roddir iddo gan yr Atodlen hon;
(g) cael mynediad at, archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion; ac at y diben hwn, caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sy'n ymwneud fel arall â gweithredu'r cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, roi unrhyw gymorth sy'n rhesymol ofynnol, a phan gedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol bod cofnodion yn cael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.
(3) Mae'n rhaid i arolygydd sy'n bwriadu arfer y pŵer a roddir iddo gan is-baragraff (2)(d) uchod yn achos eitem neu sylwedd y deuir o hyd iddo mewn unrhyw fangre, os gofynnir iddo gan berson sydd ar y pryd yn bresennol yn y fangre honno ac sydd â chyfrifoldebau mewn perthynas â'r fangre honno, achosi i unrhyw beth sydd i'w wneud yn rhinwedd y pŵer hwnnw gael ei wneud ym mhresenoldeb y person hwnnw.
(4) Cyn arfer y pŵer a roddir gan is-baragraff (2)(d) yn achos unrhyw eitem neu sylwedd, rhaid i arolygydd ymgynghori â'r personau hynny yr ymddengys ei bod yn briodol ymgynghori â hwy at ddiben canfod pa beryglon, os oes rhai, a all fod mewn gwneud unrhyw beth y bwriedir ei wneud o dan y pŵer hwnnw.
(5) Pan fo arolygydd yn cymryd meddiant o unrhyw eitem neu sylwedd y deuir o hyd iddo mewn unrhyw fangre, rhaid i'r arolygydd adael hysbysiad yno, naill ai gyda pherson cyfrifol neu, os yw hynny'n anymarferol, wedi ei osod mewn lle amlwg, a hwnnw'n hysbysiad sy'n rhoi manylion am yr eitem neu'r sylwedd hwnnw sy'n ddigonol i'w adnabod ac sy'n datgan ei fod wedi ei gymryd o dan y pŵer hwnnw; a chyn cymryd meddiant o'r cyfryw sylwedd o dan y pŵer hwnnw rhaid i arolygydd, os yw'n ymarferol i wneud hynny, gymryd sampl ohono a rhoi i berson cyfrifol yn y fangre gyfran o'r sampl wedi ei marcio mewn dull sy'n ddigonol i'w hadnabod.
(6) Nid yw unrhyw ateb a roddir gan berson yn unol â gofyniad a orfodir o dan is-baragraff (2)(e) yn dderbyniol mewn tystiolaeth yn erbyn y person hwnnw neu yn erbyn priod neu bartner sifil y person hwnnw mewn unrhyw achos.
2 

(1) Pan fo gan arolygydd sail resymol dros amau bod pathogen anifail penodedig neu gludydd ym meddiant person nad yw'n dal trwydded sy'n ofynnol gan y Gorchymyn hwn neu yn groes i amod trwydded a roddir o dan y Gorchymyn hwn, caiff yr arolygydd hwnnw ar unrhyw adeg ymafael yn, neu beri ymafael yn, y cyfryw bathogen, cludydd neu unrhyw ddeunydd y mae'r arolygydd yn amau yn rhesymol bod y cyfryw bathogen wedi cael ei gadw ynddo neu y mae'n amau yn rhesymol ei fod wedi cael ei gyflwyno iddo.
(2) Os yw'r arolygydd yn barnu ei bod yn hwylus i wneud hynny, caiff yr arolygydd hwnnw at ddiben atal cyflwyno neu ledaenu clefyd, ddal dan gadw, trin neu ddistrywio unrhyw bathogen, cludydd neu ddeunydd a ymafaelwyd.
3 

(1) Caiff arolygydd, drwy hysbysiad a gyflwynir i feddiannydd unrhyw fangre (gan gynnwys tŷ annedd) neu i berchennog neu berson sydd â gofal unrhyw gerbyd y mae pathogen penodedig, cludydd neu ddeunydd yn bresennol ynddo neu wedi bod yn bresennol ynddo yn groes i'r Gorchymyn hwn neu yn groes i drwydded a ddyroddir odano, ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo lanhau a diheintio'r cyfryw fangre, lle neu gerbyd mewn unrhyw ddull y caniateir i'r arolygydd drwy'r cyfryw hysbysiad ei bennu, ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo.
(2) Pan na chydymffurfiwyd â gofynion y cyfryw hysbysiad, caiff yr arolygydd wneud neu beri gwneud y gwaith glanhau a diheintio a bennir yn yr hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.