
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) (Rhif 2) 2008. Daw i rym ar 22 Mai 2008 ac y mae yn gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y dibenion statudol” (“the statutory purposes”) yw dibenion y rheoliadau sy'n ymwneud â gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio o dan adran 72(4)(a) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004;
 ystyr “y gofynion a bennir” (“the specified requirements”) yw'r gofynion a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; ac
 ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA state”) yw gwladwriaeth o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.
2 

(1) Mae dyfais yn ddyfais a gymeradwyir at y dibenion statudol os yw o fath sydd wedi ei ardystio gan Weinidogion Cymru fel un sy'n bodloni'r gofynion a bennir.
(2) Cymerir bod dyfais yn bodloni'r gofynion a bennir pan fo tystiolaeth wedi'i darparu sy'n bodloni Gweinidogion Cymru bod awdurdod cymwys mewn Gwladwriaeth AEE wedi canfod bod y ddyfais o dan sylw yn un sy'n bodloni gofynion safon AEE sy'n gofyn am lefel o berfformiad sy'n cyfateb i'r lefel o berfformiad sy'n ofynnol gan y gofynion a bennir.
(3) Ym mharagraff (2) ystyr “safon AEE” (“EEA standard”) yw—
(a) safon neu gôd ymarfer corff safonau gwladol neu gorff cyfatebol perthynol i unrhyw Wladwriaeth AEE;
(b) unrhyw safon ryngwladol a gydnabyddir ar gyfer ei defnyddio fel safon neu gôd ymarfer gan unrhyw Wladwriaeth AEE; neu
(c) manyleb dechnegol a gydnabyddir ar gyfer ei defnyddio fel safon gan awdurdodau cyhoeddus perthynol i unrhyw Wladwriaeth AEE.
3 
Dirymir Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008 drwy hyn.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
29 Ebrill 2008
YR ATODLEN
1 
Rhaid i'r ddyfais gynnwys camera—
(a) sydd wedi ei osod yn gadarn ar gerbyd, adeilad, postyn neu strwythur arall;
(b) sydd wedi ei osod yn y fath sefyllfa fel y gall weld cerbydau mewn perthynas â pha rai y mae tramgwyddau parcio yn cael eu cyflawni;
(c) sydd wedi ei gysylltu drwy ddolenni data diogel â system recordio; ac
(ch) sy'n gallu cynhyrchu mewn un llun neu fwy, ddelwedd neu ddelweddau gweladwy o'r cerbyd mewn perthynas â pha un y cafodd tramgwydd parcio ei gyflawni sy'n dangos ei nod cofrestru a digon o'i leoliad i ddangos amgylchiadau'r tramgwydd.
2 
Rhaid i'r ddyfais gynnwys system recordio—
(a) sy'n recordio'n awtomatig gynnyrch y camera neu'r camerâu sy'n gweld y cerbyd a'r man lle mae tramgwydd yn digwydd;
(b) lle defnyddir dull recordio cadarn a dibynadwy sy'n recordio ar gyfradd isafswm o 5 ffrâm yr eiliad;
(c) lle mae pob ffrâm o bob delwedd a ddelir wedi ei hamseru (mewn oriau, munudau ac eiliadau), wedi ei dyddio ac wedi ei rhifo'n olynol ac yn awtomatig drwy beiriant cyfrif gweledol; ac
(ch) pan nad yw'r ddyfais ar safle gosodedig, sy'n recordio'r lleoliad y mae'n cael ei weithredu ohono.
3 
Rhaid i'r ddyfais a'r peiriant cyfrif gweledol—
(a) bod wedi'u syncroneiddio â chloc safon genedlaethol annibynnol addas; a
(b) bod yn fanwl-gywir o fewn plws neu minws 10 eiliad dros gyfnod o 14 diwrnod a bod wedi ei ail-syncroneiddio â'r cloc safon genedlaethol annibynnol addas o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod hwnnw.
4 
Pan fo'r ddyfais yn cynnwys cyfleuster i argraffu delwedd lonydd, rhaid i'r ddelwedd honno pan y'i hargreffir ddwyn ardystiad o'r amser a'r dyddiad pan ddaliwyd y ffrâm a'i rhif unigryw.
5 
Pan fo'r ddyfais yn gallu recordio geiriau llafar neu ddata clywadwy eraill yn gyfamserol â delweddau gweledol, rhaid i'r ddyfais gynnwys dull o wirio bod y trac sain, mewn unrhyw recordiad a gynhyrchir ganddo, wedi ei syncroneiddio'n gywir â'r ddelwedd weledol.