
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Cychwyn) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
2 
Yn ddarostyngedig i erthyglau 3 a 4, daw adrannau 30 i 34 (ymchwil) o'r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2007.
3 
Daw adrannau 30 i 34 o'r Ddeddf i rym ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth o ran ymchwil i gael eu gwneud i gorff priodol ac i gael eu penderfynu ganddo.
4 
Daw adrannau 30 i 34 o'r Ddedd i rym ar 1 Hydref 2008 o ran unrhyw ymchwil a gaiff ei wneud fel rhan o brosiect ymchwil—
(a) sydd yn dechrau cyn 1 Hydref 2007; a
(b) sydd yn cael ei gymeradwyo cyn 1 Hydref 2007 gan bwyllgor a sefydlir i gynghori ar foeseg ymchwil, neu ar faterion sy'n cynnwys moeseg ymchwil mewn perthynas â phobl nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio iddo.
5 
Daw adrannau 35 i 41 (gwasanaeth eiriolwr annibynnol galluedd meddyliol) o'r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2007.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007