
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Mabwysiadu 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
2 Ebrill 2007 yw'r diwrnod a benodwyd i adran 13 o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006 ddod i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â mabwysiadau a darpar fabwysiadau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru godi ffi o dan adran 91A o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 mewn cysylltiad â hwy.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 .
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Mawrth 2007