
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “gweithdrefn gymwys” yw gweithdrefn gymwys o fewn yr ystyr sydd i'r term “qualifying procedure” yn adran 303A(1A) o Ddeddf 1990, ac a gynhelir mewn perthynas â'r ardal awdurdod cynllunio lleol y mae'r diddymiadau a geir yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 yn effeithiol mewn cysylltiad ag ef yn unol ag erthygl 2(g) o'r Gorchymyn hwnnw;
 ystyr “ymchwiliad cymwys” yw ymchwiliad cymwys o fewn yr ystyr sydd i'r term “qualifying inquiry” yn adran 303A(1) o Ddeddf 1990 (i'r graddau y mae'r adran honno'n parhau i fod ag effaith heb y diwygiad a fewnosodir gan adran 118 o Ddeddf 2004, a pharagraff 11(2) o Atodlen 6 iddi), ac a gynhelir mewn perthynas ag ardal awdurdod cynllunio lleol y mae'r darpariaethau a geir yn Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 yn parhau i fod yn effeithiol mewn cysylltiad ag ef yn unol ag erthygl 3(3) o'r Gorchymyn hwnnw;
 ystyr “ymchwiliad lleol” (“local inquiry”) yw ymchwiliad y mae gan y Cynulliad Cenedlaethol hawl i adennill ei gostau mewn perthynas ag ef a hynny o dan neu yn rhinwedd adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (darpariaeth gyffredinol o ran costau ymchwiliadau) neu o dan adran 69(5) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno).
3 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—
(a) ymchwiliad lleol;
(b) unrhyw berson sydd wedi'i benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal ymchwiliad cymwys, neu wedi'i benodi fel unrhyw un o'r personau a benodwyd felly ac sydd i gynnal ymchwiliad cymwys; ac
(c) unrhyw berson sydd wedi'i benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal gweithdrefn gymwys.
4 
Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 ar gyfer ymchwiliad lleol yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £722.
5 
Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer ymchwiliad cymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £679.
6 
Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer gweithdrefn gymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £640.
7 

(1) Dirymir Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad yr oedd y Rheoliadau hynny 'n gymwys iddo ac a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2007 ac sy'n parhau wedi'r dyddiad hwnnw.
(2) Dirymir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005 ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad cymwys yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys iddo ac a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2007 ac sy'n parhau wedi'r dyddiad hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Mawrth 2007