
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) 2007 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;
 ystyr “y cyfnod cychwynnol” (“the initial period”) yw the initial period fel y'i diffinnir yn adran 161(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y mae wedi'i chyfansoddi gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;
 ystyr “pobl hŷn berthnasol” (“relevant older persons”) yw unrhyw bobl hŷn sy'n preswylio yng Nghymru sy'n cael eu dethol at ddibenion penodiad penodol—
(a) yn y fath fodd a chan y fath fodd ag y gellid ei benderfynu gan y pwyllgor perthnasol yn unol â chylch gwaith y pwyllgor, neu
(b) yn absenoldeb penderfyniad o'r fath, yn y fath fodd ag y caiff y Prif Ysgrifennydd ei benderfynu;
 ystyr “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) yw'r person a benodir o dro i dro yn Brif Weinidog Cymru yn unol ag adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
 ystyr “y Prif Ysgrifennydd” (“the First Secretary”) yw'r person a etholir o dro i dro yn Brif Ysgrifennydd y Cynulliad yn unol ag adran 53(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;
 ystyr “pwyllgor perthnasol” (“relevant committee”) yw unrhyw bwyllgor y gellid ei sefydlu o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 54(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 er mwyn darparu cyngor a phenderfynu materion sy'n berthnasol i benodi'r Comisiynydd.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad —
(a) at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw;
(b) mewn rheoliad at baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw.
3 

(1) Hyd at ddiwedd y cyfnod cychwynnol caiff y Comisiynydd ei benodi gan y Prif Ysgrifennydd.
(2) Dim ond ar ôl cymryd y canlynol i ystyriaeth y caiff y Comisiynydd ei benodi o dan baragraff (1) —
(a) cyngor pwyllgor perthnasol,
(b) barn pobl hŷn berthnasol ynghylch unrhyw ymgeiswyr a gaiff eu cyfweld ar gyfer y penodiad, ac
(c) cyngor unrhyw banel dewis, a sefydlwyd er mwyn cyfweld ymgeiswyr, ynghylch eu priodoldeb ar gyfer y penodiad.
(3) Ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol caiff y Comisiynydd ei benodi gan y Prif Weinidog.
(4) Ni ellir penodi'r Comisiynydd o dan baragraff (3) ond ar ôl cymryd y canlynol i ystyriaeth —
(a) barn y bobl hŷn hynny sy'n preswylio yng Nghymru ac a ddewiswyd gan y Prif Weinidog am unrhyw ymgeiswyr a gyfwelir ar gyfer y penodiad; a
(b) cyngor unrhyw banel dewis, a sefydlwyd at ddiben cyfweld ag ymgeiswyr ynghylch eu priodoldeb ar gyfer y penodiad.
(5) Yn ddarostyngedig i reoliad 4, pedair blynedd fydd cyfnod swydd y Comisiynydd a benodir o dan y Rheoliadau hyn.
(6) Caniateir i berson a gafodd ei benodi am un cyfnod yn Gomisiynydd gael ei benodi am ail gyfnod (boed yn olynol neu beidio) ond ddim am unrhyw gyfnod ychwanegol.
4 

(1) Hyd at ddiwedd y cyfnod cychwynnol caiff y Prif Ysgrifennydd ryddhau'r Comisiynydd o'i swydd cyn i gyfnod y swydd ddod i ben —
(a) ar gais y Comisiynydd,
(b) ar sail camymddwyn, neu
(c) os bydd wedi'i fodloni nad yw'r Comisiynydd yn alluog oherwydd gwendid meddyliol neu gorfforol i gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd.
(2) Ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol caiff unrhyw swyddogaethau a oedd yn arferadwy yn union cyn diwedd y cyfnod cychwynnol gan y Prif Ysgrifennydd o dan baragraff (1) eu harfer gan y Prif Weinidog.
5 

(1) Os bydd y Prif Ysgrifennydd yn arfer swyddogaethau a roddir gan y Rheoliadau hyn, bydd arfer y swyddogaethau hynny'n cael ei drin fel pe bai'n arfer gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Mae unrhyw beth a gaiff ei wneud gan y Prif Ysgrifennydd o dan y Rheoliadau hyn i'w drin ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol fel pe bai wedi cael ei wneud gan y Prif Weinidog.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2007