
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2007, daw i rym ar 1 Mawrth 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Gorchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 1974 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:
(a) yn Erthygl 3(1) yn lle'r gair “Wales” rhodder y geiriau “an agricultural wages committee for the combination of all the counties in Wales”;
(b) yn Rhan I o'r Atodlen, dileer y geiriau “Counties in Wales Clwyd Dyfed Gwent Gwynedd Powys”; ac
(c) yn Rhan II o'r Atodlen, dileer y geiriau “Counties in Wales Mid Glamorgan, South Glamorgan and West Glamorgan”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2007