
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2007, a deuant i rym ar 1 Mawrth 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn lle paragraff (1) o Reoliad 7 (Datganiad o gyfrifon) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 rhodder—“
(1) Rhaid i gorff y mae paragraffau (3) a (4) yn gymwys iddo baratoi yn unol ag arferion priodol o ran cyfrifon ddatganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn, gyda rhagair esboniadol, y mae'n rhaid iddo gynnwys y datganiadau cyfrifyddu canlynol hynny sy'n berthnasol i swyddogaethau'r corff—
(a) cyfrif refeniw tai;
(b) cronfa bensiwn diffoddwyr tân, os oes un;
(c) unrhyw ddatganiadau eraill sy'n ymwneud â phob cronfa y mae'n ofynnol i'r corff o dan unrhyw ddarpariaeth statudol gadw cyfrif ar wahân ynglyn â hi.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Chwefror 2007