
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Rhagfyr 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru)1995.
3 

(1) Diwygir y prif Orchymyn yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Yn Rhan I o Atodlen 2 i'r prif Orchymyn, yn lle—“
Pembrokeshire Coast National Park Authority
Local authority members 10
Secretary of State members 5
Total number of members 15”
 rhodder“
Pembrokeshire Coast National Park Authority
Local authority members 12
Members appointed by the Welsh Ministers 6
Total number of members 18”
(3) Yn Rhan II o Atodlen 2 i'r prif Orchymyn, yn lle “Pembrokeshire County Council 10” rhodder “Pembrokeshire County Council 12”.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
4 Rhagfyr 2007