
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar y 14 Rhagfyr 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fydd awdurdod tai lleol yng Nghymru yn ymgymryd ag adolygiad o anghenion tai yn ei ardal o dan adran 8 o Ddeddf Tai 1985.
2 
At ddibenion adran 225 o Ddeddf Tai 2004 (dyletswyddau awdurdodau tai lleol: anghenion llety sipsiwn a theithwyr) ystyr “sipsiwn a theithwyr” (“gypsies and travellers”) yw —
(a) personau sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn carafan; a
(b) pob person arall ag arferion byw nomadaidd, beth bynnag fo eu hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—
(i) y personau hynny sydd, ddim ond ar sail anghenion addysg neu anghenion iechyd nhw eu hunain, eu teulu neu eu dibynyddion neu oherwydd henaint, wedi rhoi'r gorau i deithio naill ai dros dro neu'n barhaol; a
(ii) aelodau o grwp trefnedig o bobl sioe neu bobl syrcas sy'n teithio (p'un a ydynt yn teithio gyda'i gilydd felly ai peidio).
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2007