
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 5 Rhagfyr 2007.
(2) Mae rheoliadau 2 i 11 yn gymwys i unrhyw HMO yng Nghymru sy'n HMO y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys iddo ac mae rheoliad 12 yn gymwys i unrhyw HMO yng Nghymru y mae Rhan 2 o'r Ddeddf honno (trwyddedu tai amlfeddiannaeth) yn gymwys iddo.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004;
(b) gosodion, ffitiadau neu gyfarpar” (“fixtures, fittings or appliances”) yw—
(i) cyfarpar goleuo, gwresogi gofod neu wresogi dŵr;
(ii) toiledau, baddonau, cawodydd, sinciau, neu fasnau ymolchi neu unrhyw gypyrddau, silffoedd neu ffitiadau a ddarparwyd mewn ystafell ymolchi neu doiled;
(iii) cypyrddau, silffoedd neu gyfarpar a ddefnyddir i storio, paratoi neu i goginio bwyd; a
(iv) peiriannau golchi dillad neu gyfarpar golchi dillad arall; ac
(c) ystyr “y rheolwr” (“the manager”), o ran HMO, yw'r person sy'n rheoli yr HMO.
3 

(1) Mae rheoliadau 4 i 10 yn gymwys yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau canlynol—
(a) nid yw dyletswydd y rheolwr yn gymwys ond mewn perthynas â'r rhannau hynny o'r HMO y byddai'n rhesymol disgwyl i ddeiliad y drwydded, o dan yr holl amgylchiadau, arfer rheolaeth drostynt; a
(b) mae dyletswydd y rheolwr i gynnal a chadw neu drwsio i'w dehongli fel dyletswydd sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y safon cynnal a chadw neu drwsio yn un sy'n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, o gymryd i ystyriaeth oed, cymeriad ac oes ragolygol y ty a'r ardal lle y mae'r ty.
(2) Nid oes dim yn rheoliadau 4 i 10—
(a) a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw beth gael ei wneud mewn cysylltiad â'r cyflenwad dwr neu'r draenio neu'r cyflenwad nwy neu drydan neu'n ei awdurdodi i gael ei wneud onid yw'n unol ag unrhyw ddeddfiad; neu
(b) a fydd yn gorfodi'r rheolwr, mewn cysylltiad â'r materion hynny, i gymryd unrhyw gamau y mae awdurdod lleol neu unrhyw berson arall yn gyfrifol am eu cymryd, ac eithrio'r camau hynny a all fod yn angenrheidiol i ddwyn y mater yn ddiymdroi i sylw'r awdurdod neu'r person o dan sylw.
4 
Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod ei enw, ei gyfeiriad ac unrhyw rif ffôn cyswllt yn cael eu harddangos mewn man amlwg yn rhannau cyffredin yr HMO fel y gall pob meddiannwr eu gweld.
5 

(1) Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod pob modd i ddianc rhag tân yn yr HMO—
(a) yn cael ei gadw'n rhydd rhag rhwystr; a
(b) yn cael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr da a'i drwsio.
(2) Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod unrhyw gyfarpar diffodd tân a larymau tân yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da a'u bod yn gweithio.
(3) Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod pob hysbysiad sy'n dangos lleoliad y modd i ddianc rhag tân yn cael ei arddangos mewn llefydd ym mannau cyffredin yr HMO sy'n sicrhau bod pob meddiannwr yn gallu eu gweld yn glir.
(4) Rhaid i'r rheolwr gymryd y camau hynny sy'n rhesymol ofynnol i ddiogelu meddianwyr yr HMO rhag niwed, gan roi sylw i—
(a) dyluniad yr HMO;
(b) cyflyrau yn yr HMO o ran ei strwythur; a
(c) nifer y fflatiau neu nifer y meddianwyr yn yr HMO.
(5) Wrth gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (4) rhaid i'r rheolwr yn benodol—
(a) o ran unrhyw do neu falconi nad yw'n ddiogel, naill ai sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn ddiogel neu gymryd pob cam rhesymol i rwystro mynediad ato cyhyd ag y bydd yn anniogel; a
(b) o ran unrhyw ffenestr y mae ei sil ar lefel y llawr neu'n agos at lefel y llawr, sicrhau bod bariau neu'r cyfryw amddiffyniadau eraill ag y gall fod eu hangen yn cael eu darparu i amddiffyn y meddianwyr rhag y perygl o ddamweiniau a allai gael eu hachosi mewn cysylltiad â ffenestri o'r fath.
6 

(1) Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod y cyflenwad dŵr a'r system ddraenio sy'n gwasanaethu'r HMO yn cael eu cynnal mewn cyflwr da a glân a'u bod yn gweithio a rhaid i'r Rheolwr sicrhau yn benodol—
(a) bod unrhyw danc, seston neu gynhwysydd tebyg arall a ddefnyddir i storio dŵr yfed neu ddwr at ddibenion domestig eraill yn cael ei gadw neu ei chadw mewn cyflwr da a glân a'i fod neu ei bod yn gweithio, a bod clawr yn cael ei gadw arno neu arni i gadw'r dŵr mewn cyflwr glân a phriodol; a
(b) bod unrhyw ffitiad dwr sy'n agored i niwed gan rew yn cael ei ddiogelu rhag niwed gan rew.
(2) Rhaid i'r rheolwr beidio yn afresymol â pheri neu ganiatáu unrhyw doriad yn y cyflenwad dŵr neu'r draenio a gaiff ei ddefnyddio gan unrhyw feddiannydd yn yr HMO.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “ffitiad dŵr” (“water fitting”) yw pibell, tap, dwsel, falf, amgarn, meter, seston, baddon, toiled dŵr neu bowlen garthion a ddefnyddir mewn cysylltiad â chyflenwi neu ddefnyddio dŵr, ond nid yw'r cyfeiriad at bibell yn y diffiniad hwn yn cynnwys pipell orlifo neu bibell ddŵr o'r prif gyflenwad.
7 

(1) Rhaid i'r rheolwr roi i'r awdurdod tai lleol o fewn 7 niwrnod ar ôl cael cais ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw y dystysgrif profi cyfarpar nwy ddiweddaraf y mae'r rheolwr wedi ei chael o ran profi unrhyw gyfarpar nwy yn yr HMO gan beiriannydd cydnabyddedig.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “peiriannydd cydnabyddedig” (“recognised engineer”) yw peiriannydd y cydnabyddir gan y Cyngor Gosodwyr Nwy Cofrestredig ei fod yn gymwys i ymgymryd â phrofion o'r fath.
(3) Rhaid i'r rheolwr—
(a) sicrhau bod pob gosodiad trydan sydd wedi'i osod yn cael ei arolygu a'i brofi ac nad yw'r cyfnodau rhwng bob tro y gwneir hynny'n fwy na phum mlynedd ac y gwneir hynny gan berson sy'n gymwysedig i ymgymryd ag arolygu a phrofi o'r fath;
(b) cael tystysgrif gan y person sy'n cynnal y prawf hwnnw, yn dweud yn benodol beth yw canlyniadau'r prawf; ac
(c) rhoi'r dystysgrif honno i'r awdurdod tai lleol o fewn 7 niwrnod ar ôl cael cais ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw yn gofyn amdani.
(4) Rhaid i'r rheolwr beidio yn afresymol â pheri neu ganiatáu toriad yn y cyflenwad nwy neu drydan a gaiff ei ddefnyddio gan unrhyw feddiannydd yn yr HMO.
8 

(1) Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod holl rannau cyffredin yr HMO—
(a) yn cael eu cynnal a'u cadw o ran eu haddurno mewn cyflwr da a glân;
(b) yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr diogel a'u bod yn gweithio; ac
(c) yn cael eu cadw'n rhesymol glir rhag rhwystr.
(2) Wrth gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1), rhaid i'r rheolwr sicrhau'n benodol—
(a) bod pob canllaw a banister yn cael eu cadw mewn cyflwr da bob amser;
(b) bod y cyfryw ganllawiau neu fanisters ychwanegol ag sy'n angenrheidiol ar gyfer diogelwch meddianwyr yr HMO yn cael eu darparu;
(c) bod unrhyw orchuddion grisiau yn cael eu gosod yn ddiogel a'u bod yn cael eu cadw mewn cyflwr da;
(ch) bod pob ffenestr a dull arall o awyru yn y rhannau cyffredin yn cael eu cadw mewn cyflwr da;
(d) bod ffitiadau goleuo digonol yn cael eu gosod yn y rhannau cyffredin a'u bod ar gael bob amser i'w defnyddio gan bob un o feddianwyr yr HMO; ac
(dd) yn ddarostyngedig i baragraff (3), bod gosodion, ffitiadau neu gyfarpar a ddefnyddir ar y cyd gan ddwy aelwyd neu fwy yn yr HMO yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da a diogel a'u bod yn lân ac yn gweithio.
(3) Nid yw'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (2)(dd) yn gymwys o ran gosodion, ffitiadau neu gyfarpar y mae gan y meddiannydd yr hawl i'w symud o'r HMO neu sydd fel arall y tu allan i reolaeth y rheolwr.
(4) Rhaid i'r rheolwr sicrhau—
(a) bod adeiladau y tu allan, buarthau a chyrtiau blaen a ddefnyddir ar y cyd gan ddwy aelwyd neu fwy sy'n byw yn yr HMO yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da, glân a threfnus;
(b) y cedwir unrhyw ardd sy'n perthyn i'r HMO mewn cyflwr diogel a thaclus; ac
(c) bod y waliau terfyn, ffensys a rheiliau (gan gynnwys unrhyw reiliau yn ardal yr islawr), i'r graddau y maent yn perthyn i'r HMO, yn cael eu cadw a'u cynnal mewn cyflwr da a diogel fel na fyddant yn beryglus i feddianwyr.
(5) Os oes unrhyw ran o'r HMO nad yw'n cael ei defnyddio rhaid i'r rheolwr sicrhau bod y rhan honno, gan gynnwys unrhyw gyntedd a grisiau sy'n rhoi mynediad uniongyrchol iddi, yn cael ei chadw'n rhesymol lân ac yn rhydd o sbwriel a sorod.
(6) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “rhannau cyffredin” (“common parts”) yw—
(i) y drws mynediad i'r HMO a'r drysau mynediad sy'n arwain at bob uned lety i fyw ynddi yn yr HMO; a
(ii) pob un o'r rhannau hynny o'r HMO sy'n risiau, lifftiau, cynteddau, coridorau, neuaddau, lobïau, mynedfeydd, balconïau, portshys ac yn stepiau a ddefnyddir gan feddianwyr yr unedau llety i fyw ynddynt yn yr HMO i allu mynd at ddrysau mynediad eu huned lety berthnasol i fyw ynddi.
9 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r rheolwr sicrhau bod pob uned lety i fyw ynddi yn yr HMO ac unrhyw ddodrefn a gyflenwir gyda'r uned mewn cyflwr glân pan fydd person yn dechrau meddiannu'r lle.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid i'r rheolwr sicrhau, mewn perthynas â phob rhan o'r HMO a ddefnyddir fel llety i fyw ynddi—
(a) bod y strwythur mewnol yn cael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr da;
(b) bod unrhyw osodion, ffitiadau neu gyfarpar sydd yn y rhan yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da a glân a'u bod yn gweithio; ac
(c) bod pob ffenestr a dulliau eraill o awyru yn cael eu cadw mewn cyflwr da.
(3) Nid yw'r dyletswyddau a osodir o dan baragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r rheolwr wneud unrhyw waith trwsio y cododd yr angen amdano o ganlyniad i ddefnyddio llety i fyw ynddo gan y meddiannydd mewn modd nad yw'n ddisgwyliedig gan denant.
(4) Nid yw'r dyletswyddau a osodir o dan baragraffau (1) a (2) yn gymwys mewn perthynas â dodrefn, gosodion, ffitiadau neu gyfarpar y mae gan y meddiannydd yr hawl i'w symud o'r HMO neu sydd fel arall y tu allan i reolaeth y rheolwr.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn bernir bod person yn defnyddio'r llety i fyw ynddo mewn modd nad yw'n ddisgwyliedig gan denant os bydd y person yn methu â thrin yr eiddo yn unol â'r cyfamodau neu'r amodau a geir yn y les neu'r drwydded neu fel arall os yw'n methu ag ymddwyn fel tenant neu drwyddedai rhesymol.
10 
Rhaid i'r rheolwr—
(a) sicrhau bod digon o finiau neu gynwysyddion addas eraill yn cael eu darparu sy'n ddigonol i ofynion pob aelwyd sy'n meddiannu'r HMO ar gyfer storio sbwriel a sorod cyn iddynt gael eu gwaredu; a
(b) gwneud y cyfryw drefniadau pellach ar gyfer gwaredu sbwriel a sorod o'r HMO ag y gall fod angen amdanynt, gan gofio am unrhyw wasanaeth ar gyfer gwaredu o'r fath a ddarperir gan yr awdurdod lleol.
11 
Rhaid i bob meddiannydd HMO—
(a) ymddwyn mewn modd na fydd yn rhwystro neu'n llesteirio'r rheolwr wrth iddo gyflawni dyletswyddau rheolwr;
(b) caniatáu i'r rheolwr fynd i mewn, at unrhyw ddiben sy'n gysylltiedig â chyflawni unrhyw ddyletswydd a osodir ar y rheolwr gan y Rheoliadau hyn ac ar bob adeg resymol, i unrhyw lety ar gyfer byw ynddo neu le arall a feddiannir gan y person hwnnw;
(c) rhoi i'r rheolwr, ar gais y rheolwr, y cyfryw wybodaeth ag y gall fod yn rhesymol i'r rheolwr ei mynnu at ddibenion cyflawni unrhyw ddyletswydd o'r fath;
(ch) cymryd camau rhesymol i osgoi peri niwed i unrhyw beth y mae'n ddyletswydd ar y rheolwr i'w gyflenwi, ei gynnal a'i gadw neu i'w drwsio o dan y Rheoliadau hyn;
(d) storio a gwaredu sorod yn unol â'r trefniadau a wneir gan y rheolwr o dan reoliad 10; ac
(dd) cydymffurfio â chyfarwyddiadau rhesymol y rheolwr mewn cysylltiad ag unrhyw fodd i ddianc rhag tân, ag atal tân ac â defnyddio cyfarpar tân.
12 

(1) Mae Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) (cymhwyso) hepgorer y geiriau “ac eithrio bloc o fflatiau a gafodd ei drosi y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo, ”.
(3) Yn rheoliad 2 (dehongli) ar ôl “2004” mewnosoder—“
 ; ac
 ystyr “HMO adran 257” (“section 257 HMO”) yw HMO sy'n floc o fflatiau a droswyd ac y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo”.
(4) Yn lle rheoliad 8 (safonau rhagnodedig ar gyfer penderfynu ar addasrwydd ty ar gyfer amlfeddiannaeth gan uchafswm nifer penodol o aelwydydd neu o bersonau) rhodder—“
8 

(1) Y safonau a ragnodwyd ar gyfer HMOs ac eithrio HMOs adran 257 at ddiben adran 65 o'r Ddeddf (profion o ran pa mor addas yw HMO ar gyfer amlfeddiannaeth) yw'r rhai a geir yn Atodlen 3.
(2) Mae'r safonau a ragnodir ar gyfer HMOs adran 257 at ddiben adran 65 o'r Ddeddf fel a ganlyn—
(a) bod pob ystafell ymolchi a thoiled sydd ym mhob fflat yn ddigonol o ran maint a dyluniad, a bod pob basn golchi dwylo wedi'i leoli mewn man addas ac yn addas ar gyfer y diben, o ystyried oedran a chymeriad yr HMO, maint a dyluniad pob fflat a'r ddarpariaeth bresennol sydd ynddo ar gyfer basnau golchi dwylo, toiledau ac ystafelloedd ymolchi;
(b) y safonau hynny a geir ym mharagraff 4(1) o Atodlen 3, i'r graddau y mae cydymffurfio â hwy'n rhesymol ymarferol; ac
(c) y safonau hynny a geir ym mharagraff 5 o Atodlen 3.”
(5) Yn rheoliad 11 (cofrestrau o drwyddedau)—
(a) ym mharagraff (2) yn lle “Mae'r” rhodder y “Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r”; a
(b) ar ôl paragraff (2), mewnosoder—“
(3) Ni ragnodir y manylion a grybwyllir yn is-baragraffau (b), (c)(ii), (ch) a (d) o baragraff (2) ar gyfer unrhyw gofnod mewn cofrestr y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw mewn cysylltiad â thrwydded a roddwyd mewn perthynas ag HMO adran 257.”
(6) Yn rheoliad 13 (cofrestrau o orchmynion rheoli)—
(a) ym mharagraff (2) yn lle “Mae'r” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r”; a
(b) ar ôl paragraff (3) ychwaneger—“
(4) Ni ragnodir y manylion a grybwyllir yn is-baragraffau (b) ac (c)(ii) i (v) o baragraff (2) ar gyfer unrhyw gofnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw mewn cysylltiad â gorchymyn rheoli a wnaed mewn perthynas ag HMO adran 257.”.
(7) Yn Atodlen 2 (cynnwys ceisiadau o dan adrannau 63 ac 87 o'r Ddeddf)—
(a) ym mharagraff 2(1)(dd)—
(i) ar ôl “y gwneir y cais amdano” mewnosoder “, ac eithrio mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad ag HMO adran 257”;
(ii) ym mharagraff (dd)(xi) yn lle “hyfforddiant arall diogelu” rhodder “gwybodaeth arall am ddiogelu”;
(b) ar ôl paragraff 2(1)(dd) mewnosoder—“
(e) os mewn cysylltiad ag HMO adran 257 y gwneir y cais, yr wybodaeth a ganlyn—
(i)  nifer y lloriau sydd yn yr HMO a'r lefelau y mae'r lloriau hynny wedi'u lleoli arnynt;
(ii) nifer y fflatiau hunangynhaliol ac, o blith y rheini, y nifer—(aa) y mae'r ceisydd o'r farn eu bod yn ddarostyngedig i les o fwy na 21 o flynyddoedd; a(bb) nad yw'n rhesymol i'r ceisydd allu arfer rheolaeth drostynt;
(iii) mewn perthynas â phob fflat hunangynhaliol nad yw'n cael ei berchen-feddiannu ac sydd o dan reolaeth y deiliad trwydded arfaethedig neu sy'n cael ei reoli ganddo, ac mewn perthynas â rhannau cyffredin yr HMO—(aa) manylion cyfarpar rhagofalon tân, gan gynnwys nifer a lleoliad y larymau mwg;(bb) manylion llwybrau dianc rhag tân a gwybodaeth arall am ddiogelu rhag tân a ddarperir ar gyfer meddianwyr; ac(cc) datganiad bod y dodrefn yn yr HMO neu'r ty a ddarperir o dan delerau unrhyw denantiaeth neu drwydded yn bodloni unrhyw ofynion diogelwch a geir mewn unrhyw ddeddfiad; a
(iv) datganiad bod unrhyw gyfarpar nwy mewn unrhyw rannau o'r HMO y gellir yn rhesymol ddisgwyl i'r deiliad trwydded arfaethedig arfer rheolaeth drostynt yn bodloni unrhyw ofynion diogelwch a geir mewn unrhyw ddeddfiad.”
(8) Yn Atodlen 3 (safonau rhagnodedig ar gyfer penderfynu ar addasrwydd HMO i'w feddiannu gan uchafswm nifer penodol o aelwydydd neu o bersonau)—
(a) yn lle paragraff 2(1) a (2) rhodder—“
2 

(1) Pan fo pob un o'r unedau llety i fyw ynddynt mewn HMO neu rai ohonynt heb gyfleusterau cael bath neu heb doiled i'w defnyddio gan bob un aelwyd unigol a neb arall, rhaid cael nifer digonol o ystafelloedd ymolchi, toiledau a basnau golchi dwylo sy'n addas at ddiben ymolchi ar gyfer nifer y personau sy'n rhannu'r cyfleusterau hynny, o ystyried oedran a chymeriad yr HMO, maint a dyluniad pob fflat a'r ddarpariaeth sydd ynddo eisoes o ran basnau golchi dwylo, toiledau ac ystafelloedd ymolchi.”; a
(b) ar ôl paragraff 4(1), mewnosoder—“
(1A) Nid yw'r safonau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) ac (dd) o is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag uned lety—
(a) pan nad yw'r landlord yn rhwym drwy gontract i ddarparu offer neu gyfarpar o'r fath;
(b) pan fod gan feddiannydd yr uned lety yr hawl i symud offer neu gyfarpar o'r fath o'r HMO; neu
(c) pan fo'r offer neu'r cyfarpar fel arall y tu hwnt i reolaeth y landlord.”
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2007