
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 9 Chwefror 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Plant Cymru.
 “y cyfnod cychwynnol” (“the initial period”) yw y cyfnod cychwynnol fel y'i diffinir yn adran 161(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
 “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 yn unol â'r darpariaethau a ganlyn o'r rheoliad hwn.
(2) Yn dilyn dod i ben y cyfnod cychwynnol, ar gyfer y dehongliad o “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) rhodder y diffiniad canlynol:—
 ystyr “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) yw'r person a benodir o dro i dro fel Prif Weinidog Cymru o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
(3) Diwygier rheoliad 13 fel a ganlyn —
(a)  Ar ôl rheoliad 13(2), ychwaneger—“
(2A) Os bydd y Comisiynydd a'r Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru yn cyflawni eu priod swyddogaethau o dan y Ddeddf ac o dan Ddeddf Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn (Cymru) 2006 ynghylch yr un mater caiff y Comisiynydd lunio adroddiad ar y cyd â'r Comisiynydd ar gyfer Pobl Hyn yng Nghymru.”
(b) Yn rheoliad 13(3), yn lle “(1) neu (2)” rhodder “(1), (2) neu (2A).”
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Chwefror 2007