
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007; a
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 yrtyr “Deddf 1968” (“the 1968 Act”) yw Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968; ac
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Lles Anifeiliaid 2006.
2 
Daw'r darpariaethau canlynol yn Neddf 2006 i rym ar 24 Hydref 2007—
(a) adrannau 14 a 16; a
(b) adran 65 ac Atodlen 4, i'r graddau y maent yn ymwneud â—
(i) adrannau 2, 3, 6, 7 ac 8 o Ddeddf 1968; a
(ii) paragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 3, bydd cod argymhellion ar gyfer lles da byw a ddyroddwyd o dan adran 3 o Ddeddf 1968—
(a) yn effeithiol yn ystod y cyfnod trosiannol o ran anifeiliaid a ffermir o rywogaeth y mae'r cod yn berthnasol iddo megis petai'r cod wedi'i ddyroddi o dan adran 14 o Ddeddf 2006;
(b) yn un y caniateir ei adolygu yn unol ag adrannau 14 a 15 o Ddeddf 2006; ac
(c) yn un y caniateir ei ddiddymu yn unol ag adran 17 o Ddeddf (2006)
(2) Ym mharagraff 1(a), ystyr cyfnod trosiannol ar gyfer cod argymhellion yw'r cyfnod rhwng dyfodiad y Gorchymyn hwn i rym a dirymiad y cod argymhellion hwnnw o dan adran 17 o Ddeddf 2006.
(3) O ran cod argymhellion—
(a) y mae'n gymwys i anifeiliaid a ffermir o rywogaeth y mae'r cod hwnnw'n ymwneud ag ef p'un ai yw'r anifail ar dir amaethyddol fel y'i diffinnir yn adran 8(1) o Ddeddf 1968 ai peidio; a
(b) nid yw'n cynnwys y “Cod Argymhellion ar gyfer Lles Dofednod Domestig” a ddaeth i rym ar 1 Medi 1987.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
23 Hydref 2007