
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Chwefror 2007.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “awdurdod tân ac achub” yr ystyr a roddir i “fire and rescue authority” yn adran 1 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004;
 mae i “darparydd dull cyfathrebu” yr ystyr a roddir i “communications provider” yn adran 405 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Priffyrdd 1980;
 ystyr “fforwm mynediad lleol” (“local access forum”) yw fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;
 ystyr “priffordd yr effeithir arni” (“affected highway”) yw priffordd sy'n ddarostyngedig i orchymyn gatio neu i gais am orchymyn gatio;
 ystyr “Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru” (“Welsh Ambulance Services NHS trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (Sefydlu) 1998 (O.S. 1998/678);
 mae i “ymgymerwr statudol” yr ystyr a roddir i “statutory undertaker” yn adran 98(6) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
3 
Cyn gwneud gorchymyn gatio o dan adran 129A o'r Ddeddf, rhaid i gyngor—
(a) peri i hysbysiad gael ei gyhoeddi ar ei wefan—
(i) sy'n dynodi'r briffordd yr effeithir arni drwy—(aa) enw neu ddisgrifiad, a(bb) cyfeirnod grid Arolwg Ordnans chwe ffigur o ran pob pen i'r briffordd yr effeithir arni;
(ii) sy'n gosod effaith gyffredinol gwneud y gorchymyn gatio;
(iii) yn dynodi llwybrau amgen (os oes rhai) a fyddai ar gael i gerddwyr ac i gerbydau pe bai'r gorchymyn arfaethedig yn cael ei wneud;
(iv) yn gosod drafft o'r gorchymyn arfaethedig; a
(v) yn gwahodd sylwadau ysgrifenedig parthed a ddylid gwneud gorchymyn gatio ai peidio, o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad (fydd yn gyfnod o ddim llai na 28 o ddiwrnodau o'r dyddiad pan gyhoeddir yr hysbysiad gyntaf yn unol â'r paragraff hwn);
(b) peri gosod ar holl fynedfeydd cyhoeddus y briffordd yr effeithir arni hysbysiadau o fath y mae'n eu hystyried yn ddigonol i dynnu sylw aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r briffordd honno at effaith gwneud y gorchymyn arfaethedig .
4 
Rhaid i'r cyngor roi copïau o'r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(a) i—
(a) pob un o feddianwyr mangreoedd sy'n gyfagos i neu'n gyffiniol â'r briffordd yr effeithir arni;
(b) pob cyngor cymuned y mae'r ffordd yr effeithir arni yn mynd drwy ei ardal;
(c) pob prif swyddog o heddlu y mae'r ffordd yr effeithir arni yn mynd drwy ardal ei heddlu;
(ch) pob awdurdod tân ac achub y mae'r ffordd yr effeithir arni yn mynd drwy ei ardal;
(d) Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;
(dd) unrhyw fforwm mynediad lleol y mae'r ffordd yr effeithir arni yn mynd drwy ei ardal;
(e) unrhyw ymgymerwr statudol sy'n cynnal gwasanaethau yn y man lle mae'r ffordd yr effeithir arni;
(f) unrhyw ddarparwr gwasanaethau nwy, trydan neu ddwr yn y man lle mae'r ffordd yr effeithir arni;
(ff) unrhyw ddarparwr dull cyfathrebu yn y man lle mae'r ffordd yr effeithir arni;
(g) unrhyw berson y mae'r cyngor yn rhesymol ystyried y gall cael ei heffeithio gan y gorchymyn arfaethedig;
(ng) unrhyw berson sy'n gofyn am gopi o'r hysbysiad; a
(h) unrhyw berson sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu o unrhyw orchmynion gatio arfaethedig.
5 
Rhaid i gyngor ystyried unrhyw sylwadau y mae'n ei gael o fewn y cyfnod a bennir yn unol â rheoliad 3(a)(v) cyn gwneud gorchymyn gatio.
6 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) caiff y cyngor beri cynnal ymchwiliad cyhoeddus mewn perthynas â gorchymyn gatio arfaethedig.
(2) Rhaid i'r cyngor beri cynnal ymchwiliad cyhoeddus os yw—
(a) prif swyddog o heddlu y mae'r ffordd yr effeithir arni yn mynd drwy ardal ei heddlu;
(b) awdurdod tân ac achub y mae'r ffordd yr effeithir arni yn mynd drwy ei ardal; neu
(c) Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru,
yn gwrthwynebu'r gorchymyn gatio arfaethedig.
7 
Rhaid i gyngor beidio gwneud gorchymyn gatio cyn—
(a) bod 28 o ddiwrnodau, sy'n cychwyn ar y diwrnod pan gyhoeddir y rhybudd gyntaf yn unol â rheoliad 3 wedi mynd heibio;
(b) bod unrhyw ymchwiliad cyhoeddus a gynhelir o dan reoliad 6 wedi dod i ben.
8 
Rhaid i orchymyn gatio—
(a) dynodi'r briffordd yr effeithir arni drwy—
(i) enw neu ddisgrifiad, a
(ii) cyfeirnod grid Arolwg Ordnans chwe ffigur o ran pob pen i'r briffordd yr effeithir arni;
(b) cynnwys datganiad fod y Cyngor wedi ei fodloni ei hun mewn perthynas â'r materion yn adran 129A(3) o'r Ddeddf;
(c) pennu'r amseroedd, y dyddiau neu'r cyfnodau y mae hawl tramwy'r cyhoedd dros y briffordd yr effeithir arni wedi ei gyfyngu;
(ch) pennu'r disgrifiad o bersonau (os oes rhai) sydd wedi'u heithrio rhag effaith y cyfyngiad a osodir gan y gorchymyn.
9 
Cyn amrywio neu ddirymu gorchymyn gatio rhaid i'r cyngor—
(a) beri i hysbysiad gael ei gyhoeddi ar ei wefan—
(i) sy'n dynodi'r briffordd yr effeithir arni drwy—(aa) enw neu ddisgrifiad, a(bb) cyfeirnod grid Arolwg Ordnans chwe ffigur o ran pob pen i'r briffordd yr effeithir arni;
(ii) sy'n gosod effaith gyffredinol yr amrywiad neu'r dirymiad arfaethedig (yn ôl y digwydd) i'r gorchymyn gatio sy'n cael ei wneud;
(iii) sy'n gosod, yn achos cynnig i amrywio gorchymyn gatio, drafft o'r gorchymyn fel y byddai petai'r amrywiad arfaethedig yn cael ei wneud; a
(iv) sy'n gwahodd sylwadau ysgrifenedig o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad (nad yw yn llai na 28 o ddiwrnodau sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y caiff yr hysbysiad ei gyhoeddi gyntaf yn unol â'r paragraff hwn), parthed a ddylai'r amrywiad neu'r dirymiad (yn ôl y digwydd) ddigwydd ai peidio;
(b) peri gosod ym mhob mynedfa gyhoeddus i'r briffordd yr effeithir arni hysbysiadau o fath y mae'n eu hystyried yn ddigonol i dynnu sylw aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r briffordd yr effeithir arni at effaith digwydd y gorchymyn neu'r amrywiad arfaethedig ( yn ôl y digwydd).
10 
Mae'n rhaid i'r cyngor roi copïau o'r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 9(a) i'r personau a bennir yn rheoliad 4 ac i unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) sydd yn nhyb y cyngor yn debyg o gael eu heffeithio gan yr amrywiad neu'r dirymiad (yn ôl y digwydd).
11 
Rhaid i gyngor ystyried unrhyw sylwadau y mae'n ei gael o fewn y cyfnod a bennir yn unol â rheoliad 9(a)(iv) cyn amrywio neu ddirymu (yn ôl y digwydd) gorchymyn gatio.
12 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) gall cyngor beri cynnal ymchwiliad cyhoeddus mewn perthynas â chynnig i amrywio neu i ddirymu gorchymyn gatio.
(2) Rhaid i gyngor gynnal ymchwiliad cyhoeddus os yw—
(a) prif swyddog o heddlu y mae'r ffordd yr effeithir arni yn mynd drwy ardal ei heddlu;
(b) awdurdod tân ac achub y mae'r ffordd yr effeithir arni yn mynd drwy ei ardal; neu
(c) Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru,
yn gwrthwynebu'r amrywiad neu'r dirymiad arfaethedig (yn ôl y digwydd) i orchymyn gatio.
13 
Rhaid i gyngor beidio ag amrywio na dirymu gorchymyn gatio—
(a) cyn bod 28 o ddiwrnodau, sy'n cychwyn ar y diwrnod pan gyhoeddir y rhybudd gyntaf yn unol â rheoliad 9 wedi mynd heibio;
(b) cyn bod unrhyw ymchwiliad cyhoeddus a gynhelir o dan reoliad 12 wedi dod i ben.
14 

(1) Rhaid i ymchwiliad gychwyn dim llai na 42 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad cyhoeddi gyntaf yr hysbysiad a roddir o dan reoliad 3 neu 9.
(2) Rhaid i gyngor—
(a) cyhoeddi o leiaf unwaith mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal lle mae'r briffordd yr effeithir arni hysbysiad sy'n cynnwys y manylion a bennir yn rheoliad 15;
(b) rhoi hysbysiad ysgrifenedig sy'n cynnwys y manylion a bennir yn rheoliad 15 i bob person sydd wedi gwneud sylwadau parthed gwneud, amrywio neu ddirymu (yn ôl y digwydd) gorchymyn gatio; ac
(c) cymryd y fath gamau eraill ag y mae'n eu hystyried yn briodol er mwyn sicrhau bod cyhoeddusrwydd digonol ynglŷn â'r ymchwiliad yn cael ei roi i bersonau sy'n debyg o gael eu heffeithio gan ddarpariaethau'r gorchymyn y mae'n ymwneud ag ef, ac heb leihau cyffredinolrwydd yr is-baragraff hwn, gall camau eraill o'r fath gynnwys—
(i) arddangos hysbysiadau ar ffyrdd neu mewn mannau eraill y mae'r gorchymyn yn effeithio arnynt;
(ii) anfon hysbysiadau neu lythyrau i fangreoedd neu i fangreoedd a feddiennir gan bersonau yr ymddengys i'r cyngor y bydd unrhyw ddarpariaeth yn y gorchymyn yn effeithio arnynt;
15 
Dyma'r manylion sydd i'w cynnwys yn yr hysbysiad a bennir yn rheoliad 14(2)—
(a) enw'r gorchymyn gatio neu'r gorchymyn gatio arfaethedig
(b) enw'r cyngor;
(c) enw neu ddisgrifiad o'r briffordd yr effeithir arni;
(ch) cyfeirnod grid Arolwg Ordnans chwe ffigur o ran pob pen i'r briffordd yr effeithir arni;
(d) datganiad sy'n cyfeirio at yr hysbysiad o gynigion i wneud, i amrywio neu i ddiddymu (yn ôl y digwydd) y gorchymyn gatio ac sy'n dweud y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal ynglyn â'r cynnig;
(dd) datganiad cryno o natur gyffredinol ac effaith gwneud, amrywio neu ddirymu (yn ôl y digwydd) y gorchymyn gatio;
(e) dyddiad, amser a lle'r ymchwiliad ac enw'r person sydd wedi'i hapwyntio i arwain yr ymchwiliad;
(f) datganiad fod dogfennau sy'n rhoi manylion llawn o'r cynigion i wneud, i amrywio neu i ddirymu (yn ôl y digwydd) y gorchymyn gatio ar gael i'w harchwilio ac o'r cyfeiriadau lle gellir archwilio'r dogfennau hynny ac o'r amseroedd pryd y gall archwilio ddigwydd ym mhob cyfeiriad;
(ff) y cyfeiriad lle gall unrhyw berson sy'n dymuno gwneud sylwadau anfon unrhyw sylwadau ysgrifenedig iddo i gael eu hystyried gan y person sydd wedi'i hapwyntio i arwain yr ymchwiliad; ac
(g) erbyn pa bryd y mae'n rhaid i unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wneir o dan baragraff (i) neu fel arall fod wedi cyrraedd.
16 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), y person sydd wedi'i hapwyntio i arwain yr ymchwiliad fydd yn penderfynu ar y weithdrefn mewn ymchwiliad cyhoeddus.
(2) Caiff unrhyw berson sydd â buddiant ym mhwnc yr ymchwiliad cyhoeddus ymddangos yn yr ymchwiliad drosto'i hun neu drwy fargyfreithiwr, cyfreithiwr neu gynrychiolydd arall.
(3) Caiff unrhyw berson sydd â buddiant o'r fath p'un ai a yw'r person hwnnw yn bwriadu ymddangos yn yr ymchwiliad ai peidio, anfon sylwadau ysgrifenedig i gael eu hystyried gan y person sydd wedi'i hapwyntio i arwain yr ymchwiliad i'r cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad o dan reoliad 15(ff).
(4) Gall y person sydd wedi'i hapwyntio i arwain yr ymchwiliwad wrthod rhoi gwrandawiad i unrhyw berson, neu wrthod ystyried unrhyw wrthwynebiad neu sylw, os yw ef neu hi o'r farn fod safbwyntiau'r person hwnnw neu honno neu'r gwrthwynebiad neu'r sylw yn amherthnasol neu fod eisoes ddigon o ddatgan wedi bod arnynt yn yr ymchwiliad.
17 

(1) Rhaid i gyngor gadw cofrestr o orchmynion gatio dros ei ardal.
(2) Rhaid i gofrestr gynnwys mynegai a chopïau wedi'u diweddaru o orchmynion gatio sydd mewn grym.
(3) Rhaid i gopi caled o gofrestr fod ar gael a bod yn agored i'w archwilio ym mhrif swyddfa'r cyngor yn ystod oriau gwaith arferol.
(4) Rhaid i fersiwn electronig o gofrestr fod ar gael ar wefan cyngor.
(5) Rhaid i gyngor roi copi o orchymyn gatio i unrhyw berson sy'n gofyn am gopi ac sy'n talu ffi resymol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Chwefror 2007