
1 
Enw'r Gorchymyn hwn—
(a) yw Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2007;
(b) mae'n gymwys o ran Cymru; ac
(c) daw i rym am 4:45 p.m. 18 Hydref 2007.
2 
Mae Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) 2003 wedi ei ddiwygio yn unol â'r Atodlen.
Rhodri Morgan AC/AM
Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2007
YR ATODLEN
Erthygl 2
1 
Yn erthygl 2 o'r diffiniad o “Prif Swyddog Milfeddygol” (“Chief Veterinary Officer”) yn lle'r geiriau “Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig” rhodder y geiriau “a benodir gan Weinidogion Cymru”.
2 
Hepgorer erthygl 8(2)(c)
3 
Yn is-baragraff 9(1)(ch) yn lle “.” ar ddiwedd yr is-baragraff rhodder “;” a mewnosoder is-baragraff newydd (d) fel a ganlyn—“
(d) ei gwneud yn ofynnol i gigydda unrhyw anifail sydd wedi ei effeithio gan y clefyd neu unrhyw anifail y mae'n amau ei fod wedi ei effeithio gan y clefyd neu ei fod wedi bod yn agored i gael ei heintio gan y clefyd.”
4 
Yn lle erthyglau 10, 11 a 12 rhodder—“
10 

(1) Os bydd y Prif Swyddog Meddygol yn cadarnhau bod y tafod glas ar dir ac adeiladau yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan bod ardal yn barth rheolaeth.
(2) Rhaid i barth rheolaeth a ddatgenir o dan baragraff (1)—
(a) gael ei ganoli ar y man brigo; a
(b) yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), fod â radiws o 20 cilometr.
(3) Pan fo'r erthygl hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddatgan parth rheolaeth a phan fo ardal y parth hwnnw yn cynnwys tir yn Lloegr, rhaid iddynt ddatgan parth o'r rhan honno o'r ardal ag sydd yng Nghymru.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru estyn neu leihau ardal parth rheolaeth gan roi sylw i'r ffactorau—
(a) epidemiolegol;
(b) daearyddol;
(c) ecolegol; neu
(ch) meteorolegol,
sydd yn eu barn hwy yn berthnasol.
(5) Ni chaiff neb symud anifail i dir ac adeiladau neu o dir ac adeiladau mewn parth rheolaeth, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddir gan arolygydd.
(6) Ni chaiff arolygydd ond rhoi trwydded o dan baragraff (5) mewn perthynas â symudiad a ganiateir o dan Benderfyniad y Comisiwn.
(7) Rhaid i delerau ac amodau'r drwydded honno fod gyfryw ag i sicrhau bod y symudiad yn cael ei wneud yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn.
(8) Yn yr erthygl hon—
(a) ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/393/EC ar barthau gwarchod a gwyliadwriaeth mewn perthynas â'r tafod glas ac amodau sy'n gymwys i symudiadau o'r parthau hyn neu drwyddynt, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd; a
(b) ystyr “y man brigo” (“the breakout point”) yw'r rhan o'r tir a'r adeiladau sydd wedi ei heintio o le mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylid mesur y parth rheolaeth.
11 

(1) Pan fo'r Prif Swyddog Milfeddygol yn cadarnhau bod y tafod glas ar dir ac adeiladau yng Nghymru—
(a) o ran Gweinidogion Cymru—
(i) rhaid iddynt ddatgan ardal yn barth gwarchod, a
(ii) cânt ddatgan ardal yn barth gwyliadwriaeth; a
(b) mae paragraffau (2) i (5) yn gymwys i'r parthau hynny.
(2) Ni chaiff neb symud anifail allan o'r parth gwarchod neu'r parth gwyliadwriaeth, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddir gan arolygydd.
(3) Ni chaiff arolygydd ond rhoi trwydded o dan baragraff (2) mewn perthynas â symudiad a ganiateir o dan Benderfyniad y Comisiwn.
(4) Rhaid i delerau ac amodau'r drwydded honno fod gyfryw ag i sicrhau bod y symudiad yn cael ei wneud yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn.
(5) Pan fo parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth yn cwmpasu ardal sy'n cynnwys tir yn Lloegr, rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan parth gwarchod a chânt ddatgan parth gwyliadwriaeth o'r rhan honno o'r ardal sydd yng Nghymru.
(6) Yn yr erthygl hon, mae i “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yr un ystyr ag sydd iddo yn erthygl 10.
12 

(1) Pan fo parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth wedi ei ddatgan o dan erthygl 11, mae gan arolygwyr milfeddygol a swyddogion a awdurdodir gan Weinidogion Cymru y pwerau sydd ganddynt o dan erthygl 9 o ran tir ac adeiladau o fewn y parth gwarchod neu'r parth gwyliadwriaeth.
(2) Hefyd, caiff arolygydd milfeddygol—
(a) ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd tir ac adeiladau mewn parth gwarchod neu geidwad unrhyw anifail ar y dir ac adeiladau hynny ganiatáu brechu unrhyw anifail a gedwir yno; a
(b) ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu i'r ceidwad—
(i) cadw'r anifeiliaid i'w defnyddio yn anifeiliaid rhybuddio, neu
(ii) caniatáu gadael i anifeiliaid rhybuddio ddod i'r tir ac adeiladau hynny.
12A 
Os bydd y Prif Swyddog Meddygol yn cadarnhau bod y tafod glas ar dir ac adeiladau yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, caiff Gweinidogion Cymru ddatgan bod ardal yn barth rheolaeth, yn barth gwarchod neu'n barth gwyliadwriaeth yng Nghymru.
12B 
O ran datganiadau parthau rheolaeth, parthau gwarchod a pharthau gwyliadwriaeth o dan erthyglau 10, 11 neu 12A—
(a) rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig;
(b) caniateir eu diwygio gan ddatganiad pellach ar unrhyw adeg;
(c) rhaid iddynt ddynodi hyd a lled y parth a ddatgenir; ac
(ch) ni chaniateir eu dirymu ond drwy ddatganiad pellach.”.
5 
Yn lle erthygl 14 rhodder ——“
14 

(1) Onid awdurdodir fel arall gan drwydded a ddyroddir gan arolygydd neu gan Weinidogion Cymru, rhaid i feddiannydd tir ac adeiladau y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo a cheidwad unrhyw anifail ar y tir ac adeiladau hynny—
(a) cydymffurfio â gofynion mewn hysbysiadau a gyflwynir iddo;
(b) caniatáu i arolygydd fynd i'r tir ac adeiladau y cyfeirir atynt mewn hysbysiadau a gyflwynir iddo;
(c) llunio a chadw unrhyw gofnodion y caiff arolygydd fynnu yn rhesymol eu llunio a'u cadw a dangos y cofnodion hynny i arolygydd ar ei gais;
(ch) ymatal rhag difrodi unrhyw drapiau a osodir i gasglu fectorau a rhag ymyrryd â hwy neu eu symud;
(d) ymatal rhag difwyno, dileu neu dynnu unrhyw farc a wneir gan arolygydd milfeddygol o dan erthygl 9; a
(dd) darparu unrhyw gymorth a gwybodaeth resymol ag y caiff arolygydd eu mynnu yn rhesymol at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau o dan y Gorchymyn hwn.”