
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2007 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2007.
2 

(1) Mae'r cyrff a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gyrff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy at ddibenion paragraff 21(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
(2) Dyma'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a) Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth; a
(b) Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheolaeth.
Andrew Davies
Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru.
15 Hydref 2007