
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd (Tribiwnlysoedd a Restrir) (Cymru) 2007; mae'n gymwys o ran Cymru ac mae'n dod i rym ar 1 Tachwedd 2007.
2 
Mae'r tribiwnlysoedd a welir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn dribiwnlysoedd a restrir at ddibenion Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007.
Rhodri Morgan
Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru
3 Hydref 2007
YR ATODLEN


Tribiwnlys Deddfwriaeth
Pwyllgorau Cymru. Adran 27 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p.10).
Pwyllgorau Asesu Rhenti yng Nghymru. Adran 65 ac Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977 (p.42).
Tribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru. Rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 11 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41).
Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru neu Special Educational Needs Tribunal for Wales Adran 336ZA o Ddeddf Addysg 1996 (p.56).
Dyfarnwyr parcio yng Nghymru. Adran 73 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40).
Panelau apelau derbyn yng Nghymru. Adran 94(5) neu 95(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).
Tribiwnlys. Paragraff 10(2) o Atodlen 26 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).
Tribiwnlysoedd achosion neu dribiwnlysoedd achosion interim a dynnir o'r panel dyfarnu ar gyfer Cymru. Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).
Panelau apelau yn erbyn gwaharddiadau. Paragraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3227).
Tribiwnlys. Atodlen 3 i Ddeddf Addysg 2005 (p.18).
Panelau annibynnol yng Nghymru. Rheoliad 21(1) o Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3366).
Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru mewn cysylltiad â'u swyddogaethau o dan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaeth a Thribiwnlys) 1992 (1992/664). Adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).
Panelau annibynnol yng Nghymru. Rheoliad 4 o Reoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3100).
Panel o ganolwyr meddygol. Paragraff 3 of Atodiad 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1072).