
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau i Reoliadau ynghylch Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 20 Hydref 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Ym mharagraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 yn lle'r geiriau “Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC ar system gyffredinol i gydnabod diplomâu addysg-uwch a ddyfernir i'r sawl sy'n cwblhau addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n parhau am dair blynedd o leiaf” rhodder “Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007”.
3 
Ym mharagraff 11 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 yn lle'r geiriau “Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau o leiaf dair blynedd o addysg a hyfforddiant proffesiynol” rhodder “Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007”.
4 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005 yn y diffiniad o “Rheoliadau 2005” yn lle'r geiriau “Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005” rhodder “Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007.”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
25 Medi 2007