
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 15 Hydref 2007.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 1995 yn unol â pharagraff (2) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.
(2) Yn rheoliad 22 (tramgwyddau a gorfodi)—
(a) ym mharagraff (1) mewnosoder ar y dechrau y geiriau “Subject to paragraph (2B),”; a
(b)  yn syth ar ôl paragraff (2A) ychwaneger y paragraff canlynol—“
(2B) A person shall not be considered to have contravened or failed to comply with the provisions contained in regulation 2 where the sale which would otherwise have constituted a contravention of or a failure to comply with those provisions is the sale of an infant formula falling within the derogation set out in Article 1 of Commission Regulation (EC) No. 1609/2006 authorising the placing on the market of infant formulae based on hydrolysates of whey protein derived from cows' milk protein for a two-year period.”.
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Cyfyngu-ar-ynni er mwyn Colli Pwysau 1997 yn unol â pharagraff (2) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.
(2) Yn rheoliad 4 (labelu, hysbysebu a chyflwyno) hepgorer y geiriau “or to a reduction in the sense of hunger or an increase in the sense of satiety”.
4 

(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) rhodder y diffiniad canlynol—“
 ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig fel y'i diwygiwyd gan y Ddeddf ynghylch amodau ymaelodaeth y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia, a chan addasiadau i'r Cytuniadau sy'n sail i'r Undeb Ewropeaidd a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2006/82/EC sy'n addasu Cyfarwyddeb 91/321 ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol a Chyfarwyddeb 1999/21/EC ar fwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Rwmania;”.
5 

(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 yn unol â pharagraff (2).
(2) Ym mharagraff (5) o reoliad 3 (cyfyngiadau ar werthu) yn lle'r geiriau “1 Ionawr 2007” rhodder y geiriau “1 Ionawr 2010”.
6 

(1) Diwygir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004 yn unol â pharagraff (2).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) rhodder y diffiniad canlynol—“
 “ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/125/EC ar fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc;”.
G Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Medi 2007