
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 4 Medi 2007.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau 2001 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle diffiniadau “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000”, “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000”, “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001”, “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001”, “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002” a “Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999” rhodder y diffiniadau canlynol—“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000” (“Commission Regulation (EC) No. 1622/2000”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000 sy'n nodi rheolau manwl penodol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin a sefydlu cod Cymunedol ar arferion a phrosesau gwinyddol, a rhaid dehongli'r cyfeiriadau yn Atodlenni 2 a 5 at “Reoliad 1622/2000” yn unol â hynny;”;“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000” (“Commission Regulation (EC) No. 1623/2000”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin o ran mecanweithiau'r farchnad, a rhaid dehongli'r cyfeiriad yn Rhan I o Atodlen 2 at “Reoliad 1623/2000” yn unol â hynny;”;“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001” (“Commission Regulation (EC) No. 883/2001”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 o ran masnach gyda thrydydd gwledydd mewn cynhyrchion yn y sector gwin, a rhaid dehongli'r cyfeiriad yn Rhan V o Atodlen 2 at “Reoliad 883/2001” yn unol â hynny;”;“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001” (“Commission Regulation (EC) No. 884/2001”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001 sy'n gosod rheolau cymhwyso manwl ynghylch y dogfennau sydd i fynd gyda'r cynhyrchion gwin wrth iddynt gael eu cludo, a'r cofnodion sydd i'w cadw yn y sector gwin, a rhaid dehongli'r cyfeiriad yn Rhan I o Atodlen 2 at “Reoliad 884/2001” yn unol â hynny;”;“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002” (“Commission Regulation (EC) No. 753/2002”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002 sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 o ran disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu cynhyrchion penodol y sector gwin;”;“
 ystyr “Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999” (“Council Regulation (EC) No. 1493/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, a rhaid dehongli'r cyfeiriadau yn Atodlenni 2 a 5 at “Reoliad 1493/1999” yn unol â hynny;”.
(3) Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(4) Yn Atodlen 3, mewnosoder y cofnodion canlynol yn y mannau priodol—“

Enw'r Amrywogaeth Enwau cyfystyr Lliw'r grawnwin
Acolon  Du
Cabernet Sauvignon  Du
Frühburgunder Pinot Noir Précoce Du
Merlot  Du”
(5) Yn Atodlen 5 hepgorer—
(a) paragraff 2; a
(b) brawddeg gyntaf paragraff 7.
(6) Yn Atodlen 6, hepgorer y cofnod yng ngholofnau 1 a 2 o'r tabl sy'n ymwneud â chyfanswm echdyniad sych (a geir drwy ddwysfesureg).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Awst 2007
ATODLEN
Rheoliad 2(3)

“
ATODLEN 1
Rheoliad 2(1)
1 
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 357/79 ar arolygon ystadegol o arwynebeddau sydd o dan winwydd.
2 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) 1907/85 ar y rhestr o amrywogaethau o winwydd a'r rhanbarthau sy'n darparu gwin wedi'i fewnforio ar gyfer gwneud gwinoedd pefriol yn y Gymuned.
3 
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2392/86.
4 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 649/87 yn gosod rheolau manwl ar gyfer sefydlu cofrestr o winllannoedd y Gymuned.
5 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2676/90.
6 
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/91 yn gosod rheolau cyffredinol ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctels o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru.
7 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2009/92 yn pennu dulliau dadansoddi Cymunedol ar gyfer ethyl alcohol o darddiad amaethyddol a ddefnyddir i baratoi diodydd gwirodydd, gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctels o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru.
8 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 122/94 yn gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) 1601/91 ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru, a choctels o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru.
9 
Penderfyniad y Cyngor 94/184/EC ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Awstralia ar fasnachu gwin.
10 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999.
11 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1227/2000 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, o ran y potensial ar gyfer cynhyrchu.
12 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1607/2000 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad win, yn benodol y Teitl sy'n ymwneud â gwin o safon a gynhyrchir mewn rhanbarthau penodedig.
13 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000.
14 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000.
15 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2729/2000 yn gosod rheolau gweithredu manwl ar ddulliau rheoli yn y sector gwin.
16 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001.
17 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001.
18 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1037/2001 yn awdurdodi cynnig a danfon i bobl eu hyfed yn uniongyrchol winoedd penodol sydd wedi'u mewnforio ac sydd wedi mynd drwy brosesau gwinyddol na ddarparwyd ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999.
19 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1282/2001 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 o ran crynhoi gwybodaeth i adnabod cynhyrchion gwin ac i fonitro'r farchnad win ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1623/2000.
20 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2597/2001 yn agor cwotâu tariff Cymunedol ar gyfer gwinoedd penodol yn deillio o Weriniaeth Croatia, cyn Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia a Gweriniaeth Slofenia ac sy'n darparu ar gyfer gweinyddu'r cwotâu hynny, i'r graddau y mae'n cyfeirio at Weriniaeth Croatia.
21 
Penderfyniad y Cyngor 2002/51/EC ar wneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth De Affrica ar fasnachu gwin.
22 
Penderfyniad y Cyngor a'r Comisiwn Rhif 2002/309/EC o ran y Cytundeb ar Gydweithredu Gwyddonol a Thechnolegol ar wneud saith Cytundeb gyda Chydffederasiwn y Swistir, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodiad 7 ar fasnachu cynhyrchion y sector gwin a atodwyd i'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swistir ar Fasnachu Cynhyrchion Amaethyddol.
23 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002.
24 
Penderfyniad y Cyngor 2002/979/EC ar lofnodi a chymhwyso dros dro ddarpariaethau penodol Cytundeb sy'n sefydlu Cyd-gysylltiad rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n cyfeirio at fasnachu gwin, gwin wedi'i bersawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctels wedi'u seilio ar gynhyrchion gwin wedi'i bersawru.
25 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 527/2003 yn awdurdodi cynnig a danfon i bobl eu hyfed yn uniongyrchol winoedd penodol sydd wedi'u mewnforio o'r Ariannin ac a allai fod wedi mynd drwy brosesau gwinyddol na ddarparwyd ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999.
26 
Penderfyniad y Cyngor 2004/91/EC ar wneud cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chanada ar fasnachu gwinoedd a diodydd gwirodydd.
27 
Penderfyniad y Cyngor 2006/136/EC ar wneud Cytundeb ar ffurf Cyfnewid Llythyrau rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Chile ynghylch diwygiadau i'r Cytundeb ar Fasnachu Gwinoedd a atodwyd i'r Cytundeb sy'n sefydlu Cyd-gysylltiad rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall.
28 
Penderfyniad y Cyngor 2006/232/EC ar wneud y Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America ar fasnachu gwin.
29 
Penderfyniad y Cyngor 2006/567/EC ar wneud Cytundeb ar ffurf Cyfnewid Llythyrau rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Chile ynghylch diwygiadau i Atodiadau I, II, III a IV i'r Cytundeb ar Fasnachu Gwinoedd a atodwyd i'r Cytundeb Cyd-gysylltiad rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall.
30 
Penderfyniad y Cyngor 2006/568/EC ar wneud Cytundeb ar ffurf Cyfnewid Llythyrau rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Chile ynghylch diwygiadau i Atodiad II i'r Cytundeb ar Fasnachu Diodydd Gwirodydd a Diodydd wedi'u Persawru a atodwyd i'r Cytundeb Cyd-gysylltiad rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall, i'r graddau y mae'n cyfeirio at ddiodydd wedi'u persawru.
31 
Penderfyniad y Comisiwn 2006/569/EC ar wneud Cytundeb ar ffurf Cyfnewid Llythyrau rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Chile ynghylch diwygiadau i Atodiad VI i'r Cytundeb ar Fasnachu Gwinoedd a atodwyd i'r Cytundeb Cyd-gysylltiad rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall.
32 
Penderfyniad y Cyngor 2006/580/EC ynghylch llofnodi a gwneud y Cytundeb Interim ar fasnach a materion sy'n gysylltiedig â masnach rhwng y Gymuned Ewropeaidd ar y naill law, a Gweriniaeth Albania ar y llall, i'r graddau y mae'n cyfeirio at win a diodydd wedi'u persawru.
33 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1416/2006 sy'n nodi rheolau penodol ar weithredu Erthygl 7(2) o'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America ar fasnachu gwin ynghylch diogelu enwau tarddleoedd o'r Unol Daleithiau yn y Gymuned.”
