
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 7 Medi 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002.
3 

(1) Yn rheoliad 3(3)(f) o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau “neu berson arall”.
(2) Yn rheoliad 4(1)(b) o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau “neu berson arall”.
(3) Yn rheoliad 4A o'r Prif Reoliadau hepgorer y geiriau “neu berson arall”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Awst 2007