
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2007 ac y maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae “addysg” (“education”) yn cynnwys ymchwil ôl-raddedig, heblaw yng nghwrs cyflogaeth;
 ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal a ffurfir gan Wladwriaethau'r AEE;
 ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis yn dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr pan y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn dibynnu ar a yw'r flwyddyn academaidd honno'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst, neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu chyn 31 Rhagfyr, yn eu trefn;
 ystyr “CCAUC” (“HEFCW”) yw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
 ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth lawnamser neu ran-amser:
 ystyr “darparwr hyfforddiant” (“training provider”) yw person sy'n darparu hyfforddiant i aelodau o weithlu'r ysgolion o dan Ran 3 o Ddeddf 2005;
 ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005;
 ystyr “dyfarniad” (“award”) yw dyfarniad ffioedd neu ddyfarniad cynhaliaeth neu'r ddau;
 ystyr “dyfarniad addysg ôl-orfodol” (“post-compulsory education award”) yw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari neu lwfans arall a roddir gan awdurdod addysg lleol o dan Reoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002;
 ystyr “dyfarniad cynhaliaeth” (“maintenance award”) yw unrhyw ddyfarniad heblaw dyfarniad ffioedd;
 ystyr “dyfarniad ffioedd” (“fees award”) yw dyfarniad sydd yn unig ar gyfer unrhyw ffioedd sy'n daladwy, gan eithrio unrhyw elfen o'r ffioedd hynny sy'n dâl cynhaliaeth;
 ystyr “y Gymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw'r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd, fel y'i chyfansoddir o bryd i'w gilydd;
 ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla; Aruba; Bermuda, Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Montserrat; Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius a Sint Maarten); Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynysoedd Ascension a Tristan de Cunha); St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; Ynysoedd Turks a Caicos a Wallis a Futuna;
 ystyr “yr Ynysoedd” (“the Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
(2) Er gwaethaf adran 11 o Ddeddf Dehongli 1978 ni fydd adran 3(2) o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 (lle mae'r cyfeiriadau at y Deyrnas Unedig yn cynnwys cyfeiriadau at yr Ynysoedd) yn gymwys at ddibenion dehongli'r Rheoliadau hyn.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn, ac unrhyw berson sydd yn gofalu am blentyn, a dylid dehongli “plentyn” (“child”) yn unol â hynny.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, dylid trin person fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci, pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni-
(a) ei fod ef;
(b) bod ei briod neu ei bartner sifil;
(c) bod ei riant; neu
(ch) yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,
mewn cyflogaeth dros dro neu wedi bod mewn cyflogaeth felly y tu allan i'r ardal dan sylw.
(5) At ddibenion paragraff (4), mae cyflogaeth dros dro yn cynnwys—
(a) yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig;
(b) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir; ac
(c) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.
(6) At ddibenion rheoliadau 6, 7 ac 8, dylid trin person fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci, pe byddai'r wedi bod yn preswylio felly oni bai-
(a) ei fod ef;
(b) bod ei briod neu ei bartner sifil;
(c) bod ei riant; neu
(ch) yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,
yn cael addysg lawnamser dros dro y tu allan i'r ardal dan sylw.
(7) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir mae ardal—
(a) nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd nac o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond
(b) sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall o'r ardaloedd hyn, neu o'r ddwy ohonynt,
i gael ei hystyried fel petai wedi bod erioed yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
3 

(1) Os oes gwahaniaethu yn codi o ganlyniad i hepgor y cyfan neu ran o unrhyw ffi (ar sail caledi ariannol neu fel arall), ni fydd dim sydd yn y Rheoliadau hyn yn cael ei ddehongli fel pe bai'n gwneud y gwahaniaethu hwnnw yn anghyfreithlon, pe bai wedi bod yn gyfreithlon oni fyddai'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.
(2) Os oes gwahaniaethu yn codi o ganlyniad i unrhyw reol cymhwyster ar gyfer dyfarniad, ni fydd dim sydd yn y Rheoliadau hyn yn cael ei ddehongli fel pe bai'n gwneud y gwahaniaethu hwnnw yn anghyfreithlon, pe bai wedi bod yn gyfreithlon oni fyddai'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.
4 

(1) Bydd yn gyfreithlon i'r sefydliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) i godi ffioedd uwch yn achos person nad yw'n dod o fewn yr Atodlen, nag a godir yn achos person sydd yn dod o fewn yr Atodlen.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn dod o fewn yr Atodlen os yw'n dod o'i mewn ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs.
(3) Y sefydliadau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn yw'r sefydliadau—
(a) sydd o fewn y sector addysg uwch, gan gynnwys coleg, ysgol neu neuadd sy'n rhan o sefydliad o'r fath;
(b) sydd o fewn y sector addysg bellach:
(c) sy'n ddarparwyr hyfforddiant ac yn cael cymorth ariannol o dan adran 86 o Ddeddf 2005;
(ch) sy'n darparu addysg bellach ac a gynhelir gan awdurdod addysg lleol.
(4) Nid yw'r rheoliad hwn yn gwneud yn gyfreithlon codi ffi sydd yn anghyfreithlon oherwydd amod a osodir o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Uwch 2004
5 

(1) Bydd yn gyfreithlon i awdurdod addysg lleol fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau o dan adrannau 1(6) neu 2 o Ddeddf Addysg 1962 neu ar gyfer dyfarniadau addysg ôl-orfodol—
(a) nad ydynt yn ystyried rheoliad 2(4);
(b) sy'n cyfyngu cymhwyster yn achos dyfarniadau ffioedd i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen, ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn paragraff 5, neu
(c) sy'n cyfyngu cymhwyster yn achos dyfarniadau cynnal i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen, ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn paragraffau 5 a 9.
6 

(1) Bydd yn gyfreithlon i'r Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion o dan adran 78 o Ddeddf 2005, a CCAUC o dan adran 86 o Ddeddf 2005, fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau gan unrhyw ddarparwr hyfforddiant y rhoddant grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.
(2) Bydd yn gyfreithlon i ddarparwr hyfforddiant sy'n cael cymorth ariannol o dan adran 78 a neu adran 86 o Ddeddf 2005 fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.
7 

(1) Bydd yn gyfreithlon i CCAUC fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sydd i'w gwneud i fyfyrwyr a hyfforddir (ac eithrio ar gwrs sy'n arwain at radd gyntaf) i addysgu personau dros oedran ysgol gan sefydliad y mae CCAUC yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo o dan adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.
(2) Bydd yn gyfreithlon i sefydliad y mae CCAUC yn talu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo i'r pwrpas a ddisgrifir ym mharagraff (1) fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.
8 

(1) Bydd yn gyfreithlon i Weinidogion Cymru fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau gan sefydliad y maent yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo o dan adran 34 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.
(2) Bydd yn gyfreithlon i sefydliad y mae Gweinidogion Cymru yn talu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau (pa fodd bynnag y'u disgrifir) sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.
9 

(1) Dirymir y Rheoliadau canlynol o ran Cymru—
(a) Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1997;
(b) Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Chymorth i Fyfyrwyr) (Y Swistir) 2003;
(c) Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) 2006; ac
(ch) Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) (Cymru) 2006.
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
4 Awst 2007
ATODLEN
1 
At ddibenion yr Atodlen hon—
 ystyr “aelod o'r teulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) —
(a) mewn perthynas â gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunan-gyflogedig ffin yr AEE neu berson hunan-gyflogedig yr AEE yw—
(i) ei briod neu ei bartner sifil;
(ii) ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu
(iii) perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
(b) o ran person Swisaidd cyflogedig, person Swisaidd cyflogedig y ffin, person Swisaidd hunangyflogedig y ffin neu berson Swisaidd hunangyflogedig—
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;
(c) o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 —
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil —
(aa) sydd o dan 21 mlwydd oed; neu
(bb) sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;
(ch) o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 —
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
(aa) sydd o dan 21 mlwydd oed; neu
(bb) sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu ei bartner sifil;
(iii) perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
(d) o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9 —
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
(aa) sydd o dan 21 mlwydd oed; neu
(bb) sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;
 ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud ac i breswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;
 ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill barti, a'r Conffederasiwn Swisaidd, o'r llal, ar Rydd Symudiad Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
 ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951 fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967;
 ystyr “gweithiwr” (“worker”) o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;
 ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE—
(a) sy'n weithiwr yn y Deyrnas Unedig; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig, ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
 ystyr “gweithiwr mudol AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
 ystyr “gweithiwr o Dwrci” (“Turkish worker”) yw gwladolyn o Dwrcai—
(a) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig; a
(b) sydd, neu sydd wedi bod mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;
 ystyr “gwladolyn o'r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;
 ystyr “gwladolyn o'r GE” (“EC national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd;
 ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State) yw Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;
 ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;
 ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
 ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw —
(a) o ran gwladolyn AEE, person sy'n hunan-gyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu
(b) o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
 ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunan-gyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
 ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE—
(a) sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig, ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
 ystyr “person Swisaidd cyflogedig” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd yn berson cyflogedig, ac eithrio person Swisaidd cyflogedig y ffin, yn y Deyrnas Unedig;
 ystyr “person Swisaidd cyflogedig y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—
(a) sy'n berson cyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
 ystyr “person Swisaidd hunangyflogedig” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunangyflogedig, heblaw person Swisaidd hunangyflogedig y ffin, yn y Deyrnas Unedig;
 ystyr “person Swisaidd hunangyflogedig y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd —
(a) sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bo dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
 ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person—
(a) a gafodd ei hysbysu gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn neu aros yn y Deyrnas Unedig er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei adnabod fel ffoadur;
(b) a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros yn unol â hynny; ac
(c) nad yw ei gyfnod o ganiatâd i ddod i mewn neu aros wedi dod i ben, neu ei fod wedi ei adnewyddu ac nad yw cyfnod yr adnewyddiad wedi dod i ben, neu fod apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002) mewn perthynas â'i ganiatâd i ddod i mewn neu aros; ac
(ch) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers pan gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros;
 ystyr “wedi setlo” (“settled”) yw'r ystyr a roddir iddo gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971.
2 

(1) Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs —
(a) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio am y rheswm ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b) yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;
(c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), person na fu ei breswyliad yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â rheoliad 2(4).
3 
Person —
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd caffael yr hawl i breswylio'n barhaol ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd o'r cwrs;
(b) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) mewn achos pan fu ei breswyliad fel y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser, person a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
4 

(1) Person —
(a) sy'n ffoadur;
(b) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd ei gydnabod yn ffoadur; ac
(c) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person —
(a) sydd yn briod neu'n bartner sifil i ffoadur;
(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i ffoadur ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches;
(c) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac
(ch) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person —
(a) sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;
(b) a oedd yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;
(c) a oedd o dan 18 mlwydd oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;
(ch) sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a
(d) sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
5 

(1) Person—
(a) sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros; a
(b) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) sydd yn briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros;
(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw ei gais am loches; ac
(c) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a) sydd yn blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu aros neu sy'n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b) a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;
(c) a oedd o dan 18 mlwydd oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches; ac
(ch) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
6 

(1) Person —
(a) sydd —
(i) yn weithiwr mudol AEE neu yn berson hunangyflogedig AEE;
(ii) yn berson Swisaidd cyflogedig neu'n berson Swisaidd hunan-gyflogedig;
(iii) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);
(iv) yn weithiwr ffin yr AEE neu yn berson hunangyflogedig ffin yr AEE;
(v) yn berson Swisaidd cyflogedig y ffin neu'n berson Swisaidd hunangyflogedig y ffin; neu
(vi) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);
(b) yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), sy'n preswylop fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) sydd yn wladolyn o'r GE ac yn dod o fewn paragraff (a)(i) neu (a)(iv) o is-baragraff (1);
(b) yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Nid yw paragraff (b) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys os yw'r person yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).
7 
Person sydd—
(a) yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b) sydd wedi bod fel arfer yn preswylio yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd â hawl i gymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar rydd symudiad gweithwyr, fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.
8 

(1) Person—
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(b) sydd wedi ymadael â'r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(c) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd;
(ch) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) mewn achos pan oedd ei breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson sydd a chanddo hawl i breswylio'n barhaol ymhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae'n wladolyn ohoni, neu y mae'r person y mae ef yn aelod o'i deulu mewn perthynas yn wladolyn ohoni.
9 

(1) Person —
(a) sydd naill ai —
(i) yn wladolyn o'r GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu
(ii) yn aelod o deulu'r cyfryw berson;
(b) sydd yn dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig
(c) yn achos person sy'n dod o fewn is-baragraff (1)(a)(i), sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(ch) yn achos person sy'n dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth berthnasol yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraffau (c) neu (ch) yn llwyr neu'n bennaf er mwyn cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel person sydd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y diriogaeth berthnasol yn unol â rheoliad 2(4).
10 

(1) Person—
(a) sy'n wladolyn o'r GE ac eithrio gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) mewn achos pan oedd ei breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf er mwyn cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod y person yn wladolyn o'r GE ac eithrio gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.
11 
Person —
(a) sy'n blentyn i wladolyn o'r Swistir y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b) sy'n preswylio fel arfer y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) mewn achos lle'r oedd y preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf er mwyn cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
12 
Person —
(a) sy'n blentyn i weithiwr o Dwrci;
(b) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.