
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 3 Awst 2007.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac eithrio nad yw'n cynnwys y Trysorydd priodol y cyfeirir ato yn adran 5(1)(c) o'r Ddeddf honno (sy'n ymwneud â'r Deml Fewnol a Chanol);
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 ar fesurau brys sy'n atal defnyddio E 128 Red 2G fel lliw bwyd;
 ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod bwyd, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig ganddo, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd yn cael eu haseinio—
(a) drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, i awdurdod iechyd porthladd;
(b) drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936, i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig; neu
(c) drwy orchymyn o dan baragraff 15(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985, i awdurdod sengl ar gyfer sir fetropolitanaidd,
mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u haseinio felly iddo.
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn fel y'i diwygiwyd o dro i dro.
3 

(1) Er gwaethaf darpariaethau Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau canlynol Rheoliad y Comisiwn neu'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd—
(a) Erthygl 1(1) (atal defnyddio lliw E 128 Red 2G mewn bwyd);
(b) Erthygl 1(2) (atal rhoi ar y farchnad fwyd sy'n cynnwys y lliw E 128 Red 2G); neu
(c) Erthygl 1(3) (atal mewnforio bwyd sy'n cynnwys y lliw E 128 Red 2G).
(2) Mae person yn euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn atebol o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.
4 
Dyletswydd pob awdurdod iechyd bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
5 
Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(b) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 3(1)(b) fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 a bod cyfeiriadau yn is-adran (4)(b) at “sale or intended sale” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at “placing on the market”;
(c) adran 32 (pwerau mynediad);
(ch) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(d) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(dd) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(e) adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);
(f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ff) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac
(g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Awst 2007