
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Awst 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn lle'r diffiniad o “Directive 92/33/EEC” rhodder—“
 “Directive 92/33/EEC” means Council Directive 92/33/EEC on the marketing of vegetable propagating and planting material other than seed;”.
(3) Yn rheoliad 3 (deunyddiau planhigion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt)—
(a) ym mharagraff (1)(a), yn lle “Schedule 1” rhodder “Annex II to Directive 92/33/EEC”;
(b) ym mharagraff (1)(b), yn lle “Schedule 1” rhodder “that Annex”.
(4) Yn rheoliad 8 (gwybodaeth i fynd gyda'r deunyddiau planhigion)—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “Council Directive 77/93/EEC” rhodder “Council Directive 2000/29/EC”;
(b) ym mharagraff (4), yn lle “Schedule 1” rhodder “Schedule 2”.
(5) Hepgorer Atodlen 1 (genera a rhywogaethau y mae Rheoliadau yn gymwys iddynt).
I. W. Jones
Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
25 Gorffennaf 2007