
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffurfiau Cymraeg Llwon a Chadarnhadau (Deddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 mae i “Aelod Cynulliad” yr ystyr sydd i “Assembly member” yn adran 1(3) o Ddeddf 2006; ac
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Llywodraeth Cymru) 2006.
(3) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 18 Gorffennaf 2007.
2 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo person yn cymryd y llw sy'n ofynnol gan adran 55(1) o Ddeddf 2006.
(2) Caiff y person hwnnw gymryd y llw swyddogol yn ffurf hon —“
 Yr wyf i,, yn tyngu y gwasanaethaf Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail gydag iawnder a didwylledd yn swydd  Cynorthwyed Duw fi.”
3 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo person yn gwneud y cadarnhad cyfatebol sy'n ofynnol gan adran 55 (1) o Ddeddf 2006.
(2) Caiff y person hwnnw wneud y cadarnhad cyfatebol yn y ffurf hon —“
 Yr wyf i,  yn datgan ac yn cadarnhau yn ddifrifol, yn ddiffuant ac yn ddidwyll, y gwasanaethaf Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail gydag iawnder a didwylledd yn swydd ”
4 

(1) Pan fo person yn cymryd y llw teyrngarwch sy'n ofynnol gan adran 55(2) o Ddeddf 2006 caiff y person hwnnw gymryd y llw yn y ffurf a osodir yn erthygl 5(2).
(2) Pan fo person yn gwneud y cadarnhad cyfatebol sy'n ofynnol gan adran 55(2) o Ddeddf 2006 caiff wneud y cadarnhad hwnnw yn y ffurf a osodir yn erthygl 6(2).
5 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo Aelod Cynulliad yn cymryd y llw teyrngarwch sy'n ofynnol gan adran 23(1) o Ddeddf 2006.
(2) Caiff yr Aelod Cynulliad hwnnw gymryd y llw teyrngarwch yn y ffurf hon —“
 Yr wyf i, , yn tyngu y byddaf yn ffyddlon ac yn wir deyrngar i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail, ei hetifeddion a'i holynwyr, yn unol â'r gyfraith. Cynorthwyed Duw fi.”
6 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo Aelod Cynulliad yn gwneud y cadarnhad cyfatebol sy'n ofynnol gan adran 23(1) o Ddeddf 2006.
(2) Caiff yr Aelod Cynulliad hwnnw wneud y cadarnhad cyfatebol yn y ffurf hon —“
 Yr wyf i,  yn datgan ac yn cadarnhau yn ddifrifol, yn ddiffuant ac yn ddidwyll, y gwasanaethaf Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail, ei hetifeddion a'i holynwyr, yn unol â'r gyfraith.”
7 
Pan fo enw Ei Mawrhydi y Frenhines bresennol yn ymddangos yn ffurfiau y llwon ffurfiol a'r cadarnhadau a ragnodir gan y Gorchymyn hwn, fe'i hamnewidir ag enw Brenin neu Frenhines y Deyrnas hon o bryd i'w gilydd.
8 
Dirymir Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Y Llw Teyrngarwch yn Gymraeg).
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros y Gyllideb a Rheoli Busnes, un o Weinidogion Cymru
17 Gorfennaf 2007