
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 9 Chwefror 2007.
2 
Diwygir Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002 fel a ganlyn.
3 

(1) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn lle'r diffiniad o “Gwladwriaeth AEE” rhodder “ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein”;
(b) ar ddiwedd y diffiniad o “y Gyfarwyddeb EIA” ychwaneger “fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/35/EC”;
(c) ar ddiwedd y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” ychwaneger “fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan yr Act sy'n ymwneud ag amodau ymaelodi y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithuania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i selio arnynt”.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwgiwyd o dro i dro.
4 
Yn rheoliad 3—
(a) ar ôl “rhag” ym mharagraff (3) yn lle “y” mewnosoder “rheoliadau 4 i 26 o'r”; a
(b) ar ôl paragraff (4) ychwaneger—“
(5) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (3) rhaid iddo—
(a) ystyried a fyddai unrhyw asesiad o'r prosiect yn briodol, ac eithrio asesiad o'r math a fyddai'n ofynnol, petai rheoliadau 4 i 26 o'r Rheoliadau hyn i'w cymhwyso i'r prosiect, cyn gwneud penderfyniad sgrinio o dan rheoliad 5(4) neu benderfyniad i roi neu i wrthod caniatâd o dan reoliad 13(1); a
(b) cymryd y fath gamau ag y mae'n eu hystyried yn briodol i ddwyn y canlynol i sylw'r cyhoedd—
(i) yr wybodaeth a gafodd ei hystyried wrth wneud y cyfarwyddyd a'r rhesymau dros wneud hynny, a
(ii) yr wybodaeth a ddaeth o unrhyw asesiad o'r prosiect a wnaed o dan is-baragraff (a).”.
5 
Yn rheoliad 8, yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Nid yw paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ymgynghori ryddhau i'r ceisydd unrhyw wybodaeth—
(a) y caiff wrthod ei datgelu o dan reoliad 12(1) o'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004; neu
(b) y'i rhwystrir rhag ei ddatgelu gan reoliad 13(1) o'r Rheoliadau hynny.
(4) Pan nad yw corff ymgynghori yn awdurdod cyhoeddus o fewn ystyr rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, mae paragraff 3 i'w gymhwyso fel petai'n gorff cyhoeddus o'r fath.”.
6 
Yn rheoliad 9(3)(b)—
(a) ar ôl “cyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn ardal y tir perthnasol mewnosoder “ac ar wefan briodol”;
(b) yn is-baragraff (ii) ar ôl “cyhoeddi'r hysbysiad” hepgorer “a”;
(c) ar ôl is-baragraff (iii) ychwaneger—“
(iv) yn datgan fod rhaid i unrhyw ganiatâd a roddir fod yn ddarostyngedig i'r amodau a bennir yn rheoliad 13(11) ac i unrhyw amodau ychwanegol a wêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda; a
(v) yn datgan, pan fo'n berthnasol, â pha rai eraill o Wladwriaethau'r AEE, yr awdurdodau y cyfeirir atynt yn erthygl 6(1) o'r Gyfarwyddeb EIA a'r cyhoedd sydd â buddiant mewn unrhyw gyfryw Wladwriaeth AEE yr ymgynghorir â hwy ynglŷn â'r cais.”.
7 
Yn rheoliad 10(3), ar ôl “gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn ardal y tir perthnasol” mewnosoder “ac ar wefan briodol”.
8 
Yn rheoliad 11 —
(a) ym mharagraff (2), yn lle “wybodaeth amgylcheddol ychwanegol”, rhodder “wybodaeth bellach y mae'n ei hystyried yn berthnasol i'r cais”;
(b) ar ôl paragraff (6) ychwaneger—“
(7) Pan fo Gwladwriaeth AEE arall wedi gwneud penderfyniad i roi neu i wrthod caniatâd datblygu ac wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r penderfyniad hwnnw yn unol ag Erthygl 9(2) o'r Gyfarwyddeb EIA, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y fath gamau ag y mae'n eu hystyried yn briodol i ddwyn unrhyw wybodaeth a gafwyd gan y Wladwriaeth EEA honno mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw i sylw'r cyhoedd.”.
9 
Yn rheoliad 13 —
(a) ym mharagraff (12)(a), yn lle “o'i benderfyniad ynghyd â'r rhesymau a'r ystyriaethau llawn sy'n sail i'r penderfyniad”, rhodder—“
(i) o'r penderfyniad;
(ii) o'r rhesymau a'r ystyriaethau llawn y mae'r penderfyniad wedi'i seilio arnynt; a
(iii) o unrhyw sylwadau a wnaed gan y cyhoedd sydd â buddiant ar y cais.”
(b) ym mharagraff (12)(c), ar ddiwedd is-baragraff (ii), hepgorer “a”;
(c) ym mharagraff (12)(c), ar ddiwedd is-baragraff (iii), ychwaneger—“
(iv) o grynodeb o unrhyw sylwadau a wnaed gan y cyhoedd sydd â buddiant ar y cais; a
(v) o wybodaeth ynghylch yr hawl i herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Ionawr 2007