
RHAN 1
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Heidiau Bridio Dofednod a Deorfeydd (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2007.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys cwt, ac unrhyw ran o adeilad y mae ganddi ei system awyru ei hun ac y mae wedi'i gwahanu oddi wrth rannau eraill o'r adeilad gan bared solet;
 ystyr “bridiwr cig” (“meat breeder”) yw dofednyn a gedwir i gynhyrchu wyau ar gyfer eu gori a'u deor i gynhyrchu cywion—
(a) a gaiff eu magu i gynhyrchu cig i'w fwyta gan bobl, neu
(b) y caiff eu hepil eu magu i gynhyrchu cig i'w fwyta gan bobl;
 ystyr “cyw” (“chick”) yw aderyn sydd yn iau na 72 awr ac nad yw wedi'i fwydo;
 ystyr “dodwywr fridiwr” (“layer breeder”) yw dofednyn a gedwir er mwyn cynhyrchu wyau ar gyfer eu gori a'u deor i gynhyrchu cywion—
(a) a gaiff eu magu i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl, neu
(b) y caiff eu hepil eu magu i gynhyrchu wyau i'w bwyta gan bobl;
 ystyr “dofednod” (“poultry”) yw ffowls domestig, twrcïod, gwyddau a hwyaid;
 ystyr “haid” (“flock”) yw dofednod o'r un statws iechyd â'i gilydd, a gedwir ar yr un daliad neu yn yr un caeadle, sy'n un uned epidemiolegol ar ei phen ei hun, ac sy'n cynnwys, yn achos dofednod a gaiff eu lletya, bob aderyn sy'n rhannu'r un gofod awyr;
 ystyr “haid fridio” (“breeding flock”) yw haid a gedwir ar gyfer cynhyrchu wyau ar gyfer eu gori;
 ystyr “labordy a gymeradwywyd” (“approved laboratory”) yw labordy a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Gorchymyn hwn;
 ystyr “meddiannydd” (“occupier”), mewn perthynas ag unrhyw ddeorfa neu ddaliad, yw'r person sydd â gofal y ddeorfa neu'r daliad.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.
3 
Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion—
(a) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus a Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 sy'n ei ddiwygio (y cyfeirir ato, yn y Gorchymyn hwn, fel “Rheoliad y Comisiwn”); a
(b) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gofynion ar gyfer defnyddio dulliau rheoli penodol yn fframwaith y rhaglenni cenedlaethol ar gyfer rheoli salmonela mewn dofednod (y cyfeirir ato, yn y Gorchymyn hwn, fel “Rheoliad y Comisiwn 1177/2006”).
RHAN 2
4 

(1) Rhaid i feddiannydd deorfa ddofednod â chyfanswm capasiti deor o 1000 neu fwy o wyau roi'r wybodaeth a geir yn Atodlen 1, paragraff 1 i Weinidogion Cymru—
(a) o fewn tri mis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym; neu
(b) yn achos y cyfryw ddeorfa a sefydlir ar ôl y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, o fewn tri mis ar ôl i'r ddeorfa gael ei sefydlu.
(2) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.
(3) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth honno o dan unrhyw ddeddfiad arall.
5 

(1) Rhaid i feddiannydd daliad lle y cedwir un neu fwy o heidiau bridio o 250 o leiaf o ddofednod o unrhyw un rhywogaeth unigol roi'r wybodaeth a geir yn Atodlen 1, paragraff 2 i Weinidogion Cymru —
(a) o fewn tri mis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym; neu
(b) yn achos y cyfryw ddaliad a sefydlir ar ôl y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, o fewn tri mis ar ôl sefydlu'r daliad.
(2) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth honno neu unrhyw ychwanegiad ati a hynny o fewn tri mis ar ôl gwneud y newid neu'r ychwanegiad.
(3) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw feddiannydd sydd wedi rhoi'r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru o dan unrhyw ddeddfiad arall.
RHAN 3
PENNOD 1
6 
Mae'r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddaliad lle y cedwir un neu fwy o heidiau bridio o 250 o leiaf o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus ac mae unrhyw gyfeiriad yn y Bennod hon at feddiannydd yn gyfeiriad at feddiannydd y cyfryw ddaliad.
7 

(1) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiad y disgwylir i bob haid fridio o 250 o leiaf o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus gyrraedd y daliad.
(2) Rhaid ei hysbysu o leiaf ddwy wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i'r haid gyrraedd.
8 

(1) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o'r dyddiad y mae'n disgwyl i bob haid fridio ar y daliad—
(a) symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy; a
(b) cyrraedd diwedd y gylchred gynhyrchu.
(2) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o leiaf ddwy wythnos cyn bod disgwyl i'r haid fridio symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy.
9 

(1) Rhaid i'r meddiannydd gymryd samplau o bob haid fridio ar y daliad ar yr adegau a ganlyn—
(a) pan fo'r adar yn yr haid yn gywion;
(b) pan fo'r adar yn yr haid yn bedair wythnos oed;
(c) dwy wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i'r haid ddechrau dodwy neu symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy; ac
(ch) bob ail wythnos yn ystod y cyfnod dodwy.
(2) Rhaid i'r gwaith samplu o dan baragraff 1(a) i (c) gael ei wneud yn unol ag Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn a rhaid i waith samplu o dan baragraff 1(ch) gael ei wneud yn unol â phwynt 2.2.2.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (samplu rheolaidd a digymell gan y gweithredydd).
10 

(1) Rhaid i'r meddiannydd anfon y samplau a gymerir o dan erthygl 9 i labordy a gymeradwywyd at ddibenion profi am bresenoldeb salmonela.
(2) Rhaid iddo anfon y samplau o fewn—
(a) 24 o oriau ar ôl eu cymryd; neu
(b) o fewn 48 o oriau ar ôl eu cymryd os yw'n gosod y samplau mewn oergell ar dymheredd rhwng 1° a 4° C cyn gynted ag y bo'n ymarferol iddo wneud hynny ar y diwrnod y'u cymerir.
(3) Rhaid iddo sicrhau bod y samplau'n cael eu nodi cyn iddynt gael eu hanfon er mwyn galluogi'r labordy a gymeradwywyd i gadarnhau—
(a) enw'r meddiannydd;
(b) cyfeiriad y daliad lle y cedwir yr haid fridio y daeth y samplau ohoni;
(c) y math o samplau;
(ch) y dyddiad y cymerwyd y samplau;
(d) dull adnabod yr haid fridio y daeth y samplau ohoni;
(dd) oed yr haid fridio y daeth y samplau ohoni;
(e) p'un ai haid o ddodwywyr fridwyr neu o fridwyr cig yw'r haid fridio y daeth y samplau ohoni; ac
(f) statws yr haid fridio y daeth y samplau ohoni yn y pyramid bridio.
11 

(1) Rhaid i'r meddiannydd—
(a) cadw cofnod o'r wybodaeth a geir yn Atodlen 3, paragraff 1, mewn cysylltiad â phob sampl a gymerir yn unol ag erthygl 9; a
(b) erbyn 30 Mehefin a 31 Rhagfyr bob blwyddyn, roi i Weinidogion Cymru yr wybodaeth honno mewn cysylltiad â samplu yr ymgymerir ag ef yn y chwe mis cyn ei hysbysu.
(2) Rhaid iddo gadw'r cofnod ym (1)(a) am ddwy flynedd ar ôl y dyddiad y cymerwyd y sampl.
12 

(1) Rhaid i'r meddiannydd gadw cofnod o'r wybodaeth yn Atodlen 3, paragraff 2, mewn cysylltiad â symud i'r daliad neu o'r daliad unrhyw ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus neu eu cywion neu eu hwyau.
(2) Rhaid iddo gadw'r cofnod am ddwy flynedd ar ôl dyddiad symud y ffowls.
PENNOD 2
13 

(1) Rhaid i'r person â gofal labordy a gymeradwywyd sicrhau bod y gwaith o archwilio samplau a anfonwyd iddo o dan erthygl 10 yn dechrau o fewn 48 o oriau ar ôl i'r samplau hynny ddod i law.
(2) Rhaid iddo sicrhau—
(a) bod y samplau'n cael eu paratoi fel a ganlyn—
(i) rhaid paratoi leinin blychau cywion yn unol ag Atodlen 4 i'r Gorchymyn hwn;
(ii) rhaid paratoi samplau o swabiau o esgidiau yn unol â phwynt 3.1.2 yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn; a
(iii) rhaid paratoi unrhyw samplau eraill o ysgarthion yn unol â phwynt 3.1.3 o'r Atodiad hwnnw;
(b) bod y samplau'n cael eu profi am salmonela yn unol â'r dull a geir ym mhwynt 3.2 o'r Atodiad hwnnw; ac
(c) bod adroddiad ysgrifenedig ar ganlyniad unrhyw brawf ar unrhyw sampl yn cael ei roi i'r meddiannydd a anfonodd y sampl cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
PENNOD 3
14 
Ni chaiff neb roi unrhyw asiant gwrthficrobaidd i unrhyw aderyn mewn haid fridio o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus fel dull penodol o reoli salmonela a hynny'n groes i Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn 1177/2006 (defnyddio asiantau gwrthficrobaidd).
15 
Ni chaiff neb roi unrhyw frechlyn salmonela byw i unrhyw aderyn mewn haid fridio o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus yn groes i Erthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn 1177/2006 (defnyddio brechlynnau).
RHAN 4
16 

(1) Rhaid i feddiannydd deorfa sydd â chyfanswm capasiti deor o 1000 neu fwy o wyau ac y mae ynddi ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus neu eu hwyau gadw cofnod—
(a) o'r wybodaeth a geir yn Atodlen 3, paragraff 3, mewn cysylltiad â symud unrhyw wyau ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus i'r ddeorfa ac oddi yno; a
(b) o'r wybodaeth geir yn Atodlen 3, paragraff 4, mewn cysylltiad â symud unrhyw gywion ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus o'r ddeorfa.
(2) Rhaid iddo gadw'r cofnod am ddwy flynedd ar ôl dyddiad symud y cywion.
17 
Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofnod o dan y Gorchymyn hwn ei ddangos i un o arolygwyr neu o swyddogion Gweinidogion Cymru pan ofynnir iddo wneud hynny ar unrhyw adeg resymol a rhaid iddo ganiatáu gwneud copi o'r cofnod neu o ddarn ohono.
18 
Rhaid i berson beidio ag ymyrryd â sampl neu beidio â gwneud unrhyw beth iddo sy'n debygol o effeithio ar ganlyniad unrhyw brawf y mae'n ofynnol ei wneud o dan y Gorchymyn hwn, ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer yn y Gorchymyn hwn.
19 
Os bydd unrhyw berson yn methu â chymryd unrhyw gamau o dan y Gorchymyn hwn, caiff arolygydd gymryd y cyfryw gamau neu beri iddynt gael eu cymryd, a bydd yn bosibl i Weinidogion Cymru adennill ei dreuliau y mae'n rhesymol iddo eu tynnu oddi wrth y person sydd wedi methu â chydymffurfio.
20 

(1) Mae'r Gorchymyn hwn i gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, y bydd y Gorchymyn hwn yn cael ei orfodi gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.
21 
Caiff Gorchymyn Heidiau Bridio Dofednod a Deorfeydd 1993 ei ddirymu o ran Cymru.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig, un o Wenidogion Cymru.
13 Mehefin 2007
ATODLEN 1
Erthyglau 4 a 5
1 
Yr wybodaeth sydd i'w rhoi yw'r canlynol—
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y meddiannydd;
(b) cyfeiriad a Rhif ffôn y ddeorfa;
(c) capasiti deor y ddeorfa; ac
(ch) rhywogaeth y dofednod a gaiff eu deor yn y ddeorfa.
2 
Yr wybodaeth sydd i'w rhoi yw'r canlynol—
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y daliad;
(b) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y meddiannydd a'r person sydd piau pob haid fridio ar y daliad;
(c) nifer yr heidiau bridio ar y daliad;
(ch) dull adnabod pob haid fridio ar y daliad;
(d) y rhywogaethau ym mhob haid fridio ar y daliad;
(dd) nifer y dofednod ym mhob haid fridio ar y daliad;
(e) p'un ai ddodwywyr fridwyr neu fridwyr cig yw'r dofednod ym mhob haid fridio ar y daliad; ac
(f) statws pob haid fridio ar y daliad yn y pyramid bridio.
ATODLEN 2
Erthygl 9(2)
1 

(1) Mae'r samplau canlynol i'w cymryd pan fo'r adar yn gywion—
(a) 1 leinin blychau cywion, hyd at uchafswm o 10, ar gyfer pob 500 o gywion a ddanfonir o'r ddeorfa; a
(b) carcas pob cyw, o bob deorfa, hyd at uchafswm o 60, sydd wedi marw erbyn cyrraedd y daliad.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “leinin blychau cywion” (“chick box liner”) yw unrhyw ddeunydd a ddefnyddir i leinio blwch neu gynhwysydd arall y caiff cywion eu cludo ynddo o'r ddeorfa i'r daliad.
2 

(1) Mae'r samplau canlynol i'w cymryd o bob haid o adar pedair wythnos oed a phob haid ddwy wythnos cyn i'r haid ddechrau dodwy neu symud ymlaen i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy—
(a) swabiau o isafswm o ddau bâr o esgidiau; neu
(b) sampl gyfansawdd o ysgarthion.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “sampl gyfansawdd o ysgarthion” (“a composite faeces sample”) yw sampl o ysgarthion sy'n nifer o samplau unigol sydd wedi'u cyfrifo'n unol â'r Tabl canlynol, ac y mae pob un ohonynt yn pwyso nid llai nag 1 gram, ac sydd wedi'u cymryd o safle a ddewiswyd ar hap i gynrychioli'r adeilad neu'r grwp o adeiladau ar y daliad lle y cymerwyd y sampl.
Mae nifer y safleoedd lle y mae samplau ar wahân o ysgarthion i'w cymryd er mwyn gwneud sampl gyfansawdd fel a ganlyn—

Nifer yr adar a gedwir yn yr adeilad Nifer y samplau o ysgarthion sydd i'w cymryd yn yr adeilad
1—24 Nifer sy'n hafal i nifer yr adar, hyd at uchafswm o 20
25—29 20
30—39 25
40—49 30
50—59 35
60—89 40
90—199 50
200—499 55
500 neu fwy 60
ATODLEN 3
Erthyglau 11, 12 a 16
1 
Yr wybodaeth sydd i'w chofnodi yw'r canlynol—
(a) y math o sampl a gymerir;
(b) y dyddiad y cymerwyd y sampl;
(c) dull adnabod yr haid fridio y daeth y sampl ohoni;
(ch) oed yr haid fridio y daeth y sampl ohoni;
(d) y labordy a gymeradwywyd lle yr anfonwyd y sampl; ac
(dd) canlyniad unrhyw brawf ar unrhyw sampl y rhoddwyd adroddiad arno i'r meddiannydd yn unol ag erthygl 13(2)(c).
2 
Yr wybodaeth sydd i'w chofnodi yw'r canlynol—
(a) dyddiad symud;
(b) nifer y ffowls domestig, y cywion neu'r wyau a symudir;
(c) oed y ffowls domestig neu'r cywion a symudir;
(ch) yn achos symud haid fridio gyfan o ffowls domestig, dull adnabod yr haid honno;
(d) manylion adnabod yr adeilad neu'r grŵ p o adeiladau lle y gosodwyd unrhyw ffowls domestig, cywion neu wyau a symudwyd i'r daliad, neu y symudwyd ffowls domestig, cywion neu wyau ohono o'r daliad;
(dd) yn achos unrhyw ffowls domestig, cywion neu wyau a symudwyd i'r daliad, y cyfeiriad y symudwyd hwy ohono i'r daliad; ac
(e) yn achos unrhyw ffowls domestig, cywion neu wyau a symudwyd o'r daliad, y cyfeiriad y symudwyd hwy iddo.
3 
Yr wybodaeth sydd i'w chofnodi yw'r canlynol—
(a) dyddiad symud;
(b) nifer yr wyau a symudwyd;
(c) cyfeiriad y mangreoedd y symudwyd yr wyau ohonynt, yn achos wyau a symudwyd i'r ddeorfa; ac
(ch) cyfeiriad y mangreoedd y symudwyd yr wyau iddynt, yn achos wyau a symudwyd o'r ddeorfa.
4 
Yr wybodaeth sydd i'w chofnodi yw'r canlynol—
(a) dyddiad symud;
(b) nifer y cywion a symudwyd; ac
(c) cyfeiriad y mangreoedd y symudwyd y cywion iddynt.
ATODLEN 4
Erthygl 13(2)(a)(i)
Rhaid paratoi leinin blychau cywion fel a ganlyn—
(a) cyfran o isafswm o 1 gram i'w chymryd o ran wedi'i baeddu ar bob leinin; a
(d) rhaid i'r cyfrannau o wahanol leininau gael eu gwasgu gyda'i gilydd a'u rhoi mewn Dwr Pepton Byfferog (BPW) ar raddfa o nid mwy nag 1 gram o leinin i bob 10 ml o BPW.