
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007.
(2) Daw erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Ionawr 2007.
(3) Daw erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn a'r Atodlen iddo i rym ar 31 Ionawr 2007.
(4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Dynodir camp sy'n ymddangos yn y rhestr o gampau a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn “gamp berthnasol” at ddibenion adran 80(8A) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
3 
Diwygir Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion (Cymru) 2006 fel a ganlyn—
(a) yn y testun Cymraeg yn y pennawd i erthygl 5 yn lle “2006” rhodder “2007”;
(b) yn y testunau Cymraeg a Saesneg yn y geiriau agoriadol yn erthygl 5 yn lle “2006” rhodder “2007”;
(c) yn y testunau Cymraeg a Saesneg o'r pennawd i erthygl 6 yn lle “2006” rhodder “2007”;
(ch) yn y testunau Cymraeg a Saesneg yn y geiriau agoriadol yn erthygl 6 yn lle “2006” rhodder “2007”;
(d) yn y testun Cymraeg yn lle'r pennawd I erthygl 7 rhodder—“
 Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw erthygl 2 o Orchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 a'r Atodlen'r Gorchymyn hwnnw i rym”;
(dd) yn y testun Saesneg yn lle'r pennawd i erthygl 7 rhodder—“
 Provisions of the 2005 Act coming into force on the date on which article 2 of, and the Schedule to, the Statutory Nuisances (Miscellaneous Provisions) (Wales) Order 2007 come into force”;
(e) yn y testun Cymraeg yn ngeiriau agoriadol erthygl 7 yn lle'r geiriau “Gorchymyn Niwsansau Statudol (Goleuo Artiffisial) (Dynodi Campau Perthnasol) (Cymru) 2006” rhodder “erthygl 2 o Prchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 a'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw”;
(f) yn y testun Saesneg yng ngeiriau agoriadol erthygl 7 rhodder y geiriau “article 2 of, and the Schedule to, the Statutory Nuisances (Miscellaneous Provisions) (Wales) Order 2007” yn lle'r geiriau “the Statutory Nuisance (Artificial Lighting) (Designation of Relevant Sports) (Wales Order 2006”;
(ff) yn y testun Cymraeg o erthygl 10(1) yn lle “â rheoliad” rhodder “ag erthygl”;
(g) yn nhestun Saesneg erthygl 10(1) yn lle “regulation” rhodder “article”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Ionawr 2007
YR ATODLEN
Erthygl 2
1 
Pêl-droed Americanaidd
2 
Saethyddiaeth
3 
Pêl-droed (Socer) (Rheolau'r Gymdeithas Bêl droed)
4 
Athletau
5 
Pêl-droed Rheolau Awstralia
6 
Badminton
7 
Pêl fas
8 
Pêl fasged
9 
Biathlon
10 
Bobsledio
11 
Bowls
12 
Camogie
13 
Canwio
14 
Criced
15 
Croquet
16 
Cwrlo
17 
Seiclo
18 
Marchogyddiaeth
19 
Pêl-droed Gwyddelig
20 
Golff
21 
Gymnasteg
22 
Pêl-law
23 
Hoci
24 
Rasio Ceffylau
25 
Chwarae hyrli
26 
Hoci Iâ
27 
Sglefrio ar Iâ
28 
Lacrosse
29 
Luge
30 
Pentathlon Modern
31 
Marchogaeth Beic Modur
32 
Campau Moduro
33 
Pêl-rwyd
34 
Wal Ddringo tu allan
35 
Polo
36 
Camp Olwynion Troed
37 
Rownderi
38 
Rhwyfo
39 
Rygbi'r Gynghrair
40 
Rygbi'r Undeb
41 
Hwylio
42 
Saethu
43 
Camp Byrddau Sgrialu
44 
Sgio
45 
Eirafyrddio
46 
Pêl feddal
47 
Nofio (gan gynnwys Deifio)
48 
Tennis
49 
Triathlon
50 
Tynnu Rhaff
51 
Pêl foli