
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Ionawr 2007.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002.
2 
Diwygir y prif Reoliadau yn unol â rheoliadau 3 i 5.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2001/15”, ar ôl “Cyfarwyddeb 2004/5/EC” mewnosoder “a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2006/34/EC”.
4 
Yn Atodlen 1 (sylweddau y ceir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol at fwyd DMN dynodedig)—
(a) yn yr Adran sy'n ymwneud â Chategori 1 (fitaminau), yn lle'r pennawd “FOLIC ACID” rhodder “FOLATE”, ac o dan y pennawd (diwygiedig) hwnnw mewnosoder ar y diwedd “— calcium-L-methylfolate”;
(b) yn yr Adran sy'n ymwneud â Chategori 2 (mwynau), o dan y pennawd “IRON” mewnosoder ar y diwedd “— ferrous bisglycinate”.
5 
Yn Atodlen 2 (sylweddau ychwanegol y ceir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol at fwydydd at ddibenion meddygol arbennig) mewnosoder ar y dechrau—“
magnesium L-aspartate”.
6 

(1) I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, diwygir Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddibenion Maethol Penodol (Cymru a Lloegr) 2002 yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 6 (cymhwyso amrywiol ddarpariaethau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990) hepgorer y geiriau “, unless the context otherwise requires,”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Ionawr 2007