
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2007, deuant i rym ar 6 Ebrill 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003 diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 5.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2002/46” mewnosoder ar y diwedd “, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/37/EC sy'n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran cynnwys sylweddau penodol”.
4 
Yn Atodlen 1 (fitaminau a mwynau y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd), yn Adran 1 (fitaminau), yn lle “Asid ffolig” rhodder “Ffolad”.
5 
Yn Atodlen 2 (ffurf ar sylweddau fitamin a mwyn y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd)—
(a) yn adran A (fitaminau), yn eitem 10 yn lle'r pennawd “ASID FFOLIG” rhodder “FFOLAD”, ac o dan y pennawd (diwygiedig) hwnnw rhodder ar y diwedd “(b) calsiwm L-methylffolad”;
(b) yn adran B (mwynau) o flaen “Carbonad cwprig” mewnosoder “Bisglycinad fferus”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007