
RHAN 1
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2007 ac maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn ac eithrio pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “a ariennir yn gyhoeddus” (“publicly-funded”) yw yn cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau ailadroddus o'r cronfeydd cyhoeddus, ac mae ymadroddion perthynol i'w dehongli yn unol â hyn;
 mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr ystyr a roddir i “qualified teacher” yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002;
 ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw'r corff llywodraethu neu'r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;
 ystyr “benthyciad” (“loan”), ac eithrio lle nodir fel arall, yw benthyciad yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, gan gynnwys y llog sy'n crynhoi ar y benthyciad ac unrhyw gosbau neu daliadau sy'n codi mewn cysylltiad ag ef;
 ystyr “benthyciad at ffioedd coleg” (“college fee loan”) yw benthyciad yn unol â rheoliadau a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 22 o'r Ddeddf mewn perthynas â'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan fyfyriwr i goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt;
 ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad o dan Ran 6 o'r Rheoliadau hyn;
 ystyr “benthyciwr” (“borrower”) yw person y mae benthyciad wedi'i roi iddo;
 ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw'r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;
 ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 neu Erthygl 44 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972;
 ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian sy'n cael ei ddarparu gan Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys cronfeydd sy'n cael eu darparu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “cwrs addysg uwch” (“higher education course”) yw cwrs y cyfeirir ato yn Atodlen 2 neu gwrs i ôl-raddedigion neu gwrs arall y mae ei safon yn uwch na safon cwrs gradd gyntaf;
 mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf oni nodir yn wahanol ac nid yw'n cynnwys cynllun hyfforddi athrawon wedi'i seilio ar gyflogaeth;
 ystyr “cwrs carlam” (“accelerated course”) yw cwrs y mae'r sefydliad sy'n ei ddarparu yn ei gwneud yn ofynnol fel rheol i'r personau sy'n ei gymryd fod yn bresennol (boed ar fangre'r sefydliad ynteu mewn man arall) am gyfnod o 40 wythnos o leiaf yn y flwyddyn derfynol, a hwnnw'n gwrs sy'n para am ddwy flwyddyn academaidd;
 ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs dynodedig amser-llawn a ddarperir gan Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt ac —
(i) sydd wedi'i restru yn rheoliad 5(5);
(ii) sy'n arwain at gymhwyster gweithiwr cymdeithasol; neu
(iii) y mae gan fyfyriwr hawl, mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs, i gael taliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr neu fwrsari gofal iechyd yn yr Alban y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr;
 ystyr “cwrs dynodedig” (“designated course”) yw cwrs a ddynodwyd gan rheoliad 5 neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 5;
 ystyr “cwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion” (“flexible postgraduate ITT course”) yw cwrs ôl-radd o hyfforddiant cychwynnol athrawon, y mae ei hyd a'i batrwm yn cael eu pennu drwy gyfeirio at brofiad ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr cymwys ac sydd wedi'i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion;
 ystyr “cwrs ôl-radd dynodedig” (“designated postgraduate course”) yw cwrs sydd wedi'i ddynodi o dan reoliad 75 neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 75;
 ystyr “cwrs ôl-radd presennol” (“present postgraduate course”) yw'r cwrs ôl-radd dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef;
 ystyr “cwrs penben” (“end-on course”) yw —
(a) cwrs gradd gyntaf amser-llawn (heblaw cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs amser-llawn sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 ac y mae'r myfyriwr wedi cael dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005 neu 2006 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o'r rhain ar ei gyfer;
(b) cwrs gradd anrhydedd amser-llawn sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaenol amser-llawn ac y mae'r myfyriwr wedi cael dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005 neu 2006 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o'r rhain ar ei gyfer;
(c) cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n dechrau cyn 1 Medi 2006 nad yw'n para am fwy na dwy flynedd (gan fynegi hyd cwrs rhan-amser mewn modd sy'n gyfartal i hyd y cwrs amser-llawn sy'n cyfateb iddo) a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd gyntaf ac y mae'r myfyriwr wedi cael dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005 neu 2006 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o'r rhain ar ei gyfer;
 ystyr “cwrs presennol” (“present course”) yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef;
 ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig” (“designated part-time course”) yw cwrs sydd wedi'i ddynodi gan reoliad 63 neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 63;
 ystyr “cwrs rhan-amser presennol” (“present part-time course”) yw'r cwrs rhan-amser dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef;
 mae i “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);
 ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud ac i fyw'n ddilyffethair yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;
 ystyr “cyfnodau o brofiad gwaith” (“periods of work experience”) yw —
(a) cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy'n gysylltiedig ag astudiaethau amser-llawn mewn sefydliad ond mewn man y tu allan i'r sefydliad hwnnw;
(b) cyfnodau pryd y caiff myfyriwr ei gyflogi ac y bydd yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae'r myfyriwr yn ei hastudio at ei gwrs (ar yr amod bod y cyfnod o breswylio yn y wlad honno yn un o ofynion ei gwrs a bod astudio un neu fwy o ieithoedd modern yn cyfrif am nid llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);
 ystyr “cyfraniad” (“contribution”) yw cyfraniad myfyriwr cymwys wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 53 ac Atodlen 5;
 ystyr “Cyngor Ymchwil” (“Research Council”) yw unrhyw un o'r cynghorau ymchwil canlynol —
(a) Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau,
(b) Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol,
(c) Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol,
(ch) Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol,
(d) Y Cyngor Ymchwil Feddygol,
(dd) Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol,
(e) Cyngor Ymchwil Ffiseg Ronynnol a Seryddiaeth;
 ystyr “cymorth” (“support”) yw cymorth ariannol ar ffurf grant neu fenthyciad sy'n cael eu rhoi gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
 ystyr “cyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd” (“former Metropolitan Police District”) yw —
(a) Llundain Fwyaf, heb gynnwys dinas Llundain, y Deml Fewnol a'r Deml Ganol;
(b) yn sir Essex, yn nosbarth Epping Forest —
 ardal cyn ddosbarth trefol Chigwell,
 plwyf Waltham Abbey;
(c) yn sir Hertfordshire —
 ym mwrdeistref Broxbourne, ardal cyn ddosbarth trefol Cheshunt,
 dosbarth Hertsmere,
 yn nosbarth Welwyn Hatfield, plwyf Northaw; ac
(ch) yn sir Surrey —
 ym mwrdeistref Elmbridge, ardal cyn ddosbarth trefol Esher,
 bwrdeistrefi Epsom ac Ewell a Spelthorne,
 yn nosbarth Reigate a Banstead, ardal cyn ddosbarth trefol Banstead;
 ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion rheoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 sy'n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro neu athrawes gymwysedig tra bo'n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol a gynhelir, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfnod yn y flwyddyn honno —
(a) sy'n dechrau ar 1 Ionawr ac sy'n diweddu ar 31 Mawrth;
(b) sy'n dechrau ar 1 Ebrill ac sy'n diweddu ar 30 Mehefin;
(c) sy'n dechrau ar 1 Gorffennaf ac sy'n diweddu ar 31 Awst; neu
(ch) sy'n dechrau ar 1 Medi ac sy'n diweddu ar 31 Rhagfyr;
 ystyr “Deddf 1962” (“the 1962 Act”) yw Deddf Addysg 1962;
 ystyr “dyfarniad statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd y Ddeddf neu Ddeddf 1962, neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs sy'n cael ei dalu o'r cronfeydd cyhoeddus;
 ystyr “dyfarniad trosiannol” (“transitional award”) yw dyfarniad a wnaed o dan Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 1998 heblaw hen ddyfarniad;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
 ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990, Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990, Deddf Addysg (Yr Alban) 1980 a rheoliadau a wnaed o dan y Deddfau hynny neu'r Gorchymyn hwnnw, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 a rheoliadau a wnaed o dan y Gorchymyn hwnnw neu'r Ddeddf a rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno;
 mae i “ffioedd” yr ystyr a roddir i “fees” yn adran 41(1) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac eithrio mewn cyfeiriadau at ffioedd coleg;
 ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan Lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951 fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967 ac mae unrhyw gyfeiriad at blentyn i ffoadur yn cynnwys cyfeiriad at lysblentyn;
 ystyr “grant at gostau byw” (“grant for living costs”) (heb ddim mwy) yw grant o dan unrhyw rai o ddarpariaethau Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn;
 ystyr “grant newydd at ffioedd” (“new fee grant”) yw grant o dan reoliad 18;
 ystyr “y Gymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw tiriogaeth Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o bryd i'w gilydd;
 ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n deillio o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;
 mae “hen ddyfarniad” (“old award”) yn ddyfarniad o fewn ystyr “award” yn Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003;
 mae i “incwm yr aelwyd”, “incwm aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir iddynt yn Atodlen 5;
 ystyr “lwfans gofal iechyd yr Alban” (“Scottish healthcare allowance”) yw unrhyw lwfans o dan adrannau 73(f) a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 a roddwyd mewn perthynas â pherson sy'n bresennol ar gwrs sy'n arwain at gymhwyster mewn proffesiwn gofal iechyd heblaw fel doctor meddygol neu ddeintydd;
 ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd —
(a) wedi'i ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi'i gysylltu yn rhesymegol â hwy; a
(b) yn honni ei fod wedi'i ymgorffori neu wedi'i gysylltu felly er mwyn cael ei ddefnyddio i sefydlu bod y cyfathrebiad neu'r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu'r data yn gyflawn, neu'r ddau;
 mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;
 ystyr “myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd” (“new system eligible student”) yw myfyriwr cymwys—
(a) nad yw'n fyfyriwr cymwys o dan yr hendrefn; a
(b) sydd naill ai—
(i) yn dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac yn parhau i fynychu'r cwrs ar ôl 31 Awst 2007; neu
(ii) yn dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2007.
 ystyr “myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn” (“old system eligible student”) yw myfyriwr cymwys —
(a) a ddechreuodd ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006 ac sy'n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2007,
(b) sy'n fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd mewn perthynas â'r cwrs presennol,
(c) a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 os yw'r cwrs hwnnw yn gwrs penben (ac eithrio cwrs o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (c) o'r diffiniad o “cwrs penben” yn y rheoliad hwn) sy'n dilyn ymlaen ar ôl cwrs
(i) y dechreuodd arno cyn 1 Medi 2006; neu
(ii) y dechreuodd arno cyn 1 Medi 2007 ac yr oedd, mewn perthynas â'r cwrs, yn fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd, neu
(ch) a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, oddi ar gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno
(i) cyn 1 Medi 2006; neu,
(ii) cyn 1 Medi 2007 ac yr oedd, mewn perthynas â'r cwrs, yn fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd;
 ystyr “myfyriwr cymhwysol” (“qualifying student”) yw person sy'n bodloni'r amodau ym mharagraff 2 o Atodlen 4;
 ystyr “myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 1 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi yn 6 wythnos o leiaf ond yn llai na 10 wythnos;
 ystyr “myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 2 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi yn 10 wythnos neu fwy;
 y mae i “myfyriwr ôl-raddedig cymwys” (“eligible postgraduate student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 74;
 mae i “myfyriwr rhan-amser cymwys” (“eligible part-time student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 62;
 ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person
(a) a hysbyswyd gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei adnabod fel ffoadur;
(b) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny (ac na ddirymwyd y cyfryw ganiatâd); ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan roddwyd iddo ganiatâd i ddod i mewn ac i aros;
 ystyr “Rheoliadau 1998” (“the 1998 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1998;
 ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1999;
 ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2000;
 ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2001;
 ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2002;
 ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 fel y'u diwygiwyd dim ond gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2003 a Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Chymorth i Fyfyrwyr) (Y Swistir) 2003;
 ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau 2003 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2004, Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 2) 2004, Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 3) 2004, Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 4) 2004) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2005) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Rhif 2) 2005);
 ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) 2005, Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Rhif 2) 2005, Rheoliadau Mabwysiadu a Phlant (Diwygiadau Amrywiol) 2005) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) 2006);
 ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006;
 ystyr “sefydliad preifat” (“private institution”) yw sefydliad nad yw'n cael ei ariannu'n gyhoeddus;
 ystyr “un o wladolion y GE” yw un o wladolion un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd;
 ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw; ac
 ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir.
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
(a) mae cwrs yn “gwrs rhyngosod”(“sandwich course”) —
(i) os nad yw'n gwrs y cyfeirir ato ym mharagraff 4 o Atodlen 2;
(ii) os yw'n cynnwys cyfnodau o astudio amser-llawn mewn sefydliad am yn ail â chyfnodau o brofiad gwaith; a
(iii) gan gymryd y cwrs yn ei gyfanrwydd, os yw'r myfyriwr yn bresennol ar y cyfnodau o astudio amser-llawn am nid llai na 18 wythnos ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd;
(b) er mwyn cyfrifo presenoldeb y myfyriwr, trinnir y cwrs fel pe bai'n dechrau gyda'r cyfnod cyntaf o astudio amser-llawn ac yn diweddu gyda'r cyfnod olaf o'r fath; ac
(c) os ceir cyfnodau o astudio amser-llawn am yn ail â phrofiad gwaith yn ystod unrhyw wythnos ar y cwrs, mae'r dyddiau o astudio amser-llawn yn cael eu hadio at ei gilydd ac at unrhyw wythnosau o astudio amser-llawn wrth bennu nifer yr wythnosau o astudio amser-llawn ym mhob blwyddyn.
(3) Ac eithrio yn achos rheoliad 31 (grant at deithio), mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “bresenoldeb” myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig yn cynnwys ymgymryd â chwrs drwy ddysgu o hirbell os nad yw'r myfyriwr cymwys yn gallu bod yn bresennol yn gorfforol am ei fod yn anabl.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd” (“gap-year student”) yw myfyriwr cymwys y mae paragraffau (5) neu (6) yn gymwys iddo ac sy'n dechrau ar gwrs dynodedig (“y cwrs presennol”) ar neu ar ôl 1 Medi 2006.
(5) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys —
(a) a oedd wedi cael cynnig lle, ar neu cyn 1 Awst 2005, p'un ai yn amodol ar ennill cymwysterau penodedig ai peidio, ar y cwrs presennol neu gwrs tebyg, a
(b) sy'n dechrau ar flwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.
(6) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys —
(a) a oedd wedi cael cynnig lle ar gwrs dynodedig (p'un ai yn yr un sefydliad â'r cwrs presennol ai peidio) y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw yn dechrau cyn 1 Medi 2006,
(b) na allai dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd iddo gymhwyster penodedig neu safon benodedig;
(c) a apeliodd yn erbyn y penderfyniad i beidio dyfarnu'r cymhwyster neu'r safon iddo;
(ch) os caniatawyd yr apêl ar ôl y dyddiad diwethaf y gallai'r myfyriwr fod wedi derbyn y cynnig,
(d) os cafodd gynnig lle ar y cwrs presennol o ganlyniad i ganiatáu'r apêl honno, ac
(dd) os dechreuodd blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs perthnasol ar ôl 31 Awst 2006 ond cyn 1 Medi 2007.
(7) At ddibenion paragraff (5)(a) mae cwrs (“y cwrs gwreiddiol”) yn debyg i'r cwrs presennol —
(a) os yw'n ymddangos i gorff llywodraethu'r sefydliad sy'n darparu'r cwrs presennol fod cynnwys y cwrs, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yr un fath â chynnwys y cwrs gwreiddiol, a
(b) ac eithrio pan nad yw'r cwrs gwreiddiol yn cael ei ddarparu mwyach, os yw'r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fyddai wedi darparu'r cwrs gwreiddiol.
(8) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y cwrs dynodedig a bennir” (“specified designated course”) yw'r cwrs presennol yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10).
(9) Os yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs presennol o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol oddi ar gwrs (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, y cwrs cychwynnol yw'r cwrs dynodedig a bennir.
(10) Os yw'r cwrs presennol yn gwrs penben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef (“y cwrs blaenorol”). Os yw'r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs penben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs penben mewn perthynas ag ef.
(11) Yn y Rheoliadau hyn, mae'r ymadrodd “myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd” (“student who qualifies for a new fee grant”) mewn perthynas â chwrs dynodedig ac unrhyw gyfeiriad at fyfyriwr nad oes ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd, i'w dehongli yn unol â rheoliad 18.
(12) Yn y Rheoliadau hyn, mae i'r ymadrodd “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd, yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 18.
(13) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o'r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—
(a) y cwrs presennol; neu
(b) a diystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn syth cyn ymgymryd â'r cwrs presennol,
i'w ystyried yn berson sy'n preswylio'n arferol yn y lle y mae wedi symud ohono.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5), dirymir y Rheoliadau canlynol mewn perthynas â Chymru ar 1 Medi 2007 —
(a) Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006; a
(b) Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006.
(2) Mae Rheoliadau 2003 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.
(3) Mae Rheoliadau 2004 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.
(4) Mae Rheoliadau 2005 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.
(5) Mae Rheoliadau 2006 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.
(6) At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i'w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at —
(a) y Cynulliad Cenedlaethol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(1) o'r Ddeddf; neu
(b) y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o'r Ddeddf
(7) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 p'un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2007.
(8) Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn —
(a) os yw person yn bresennol ar gwrs y rhoddwyd dyfarniad trosiannol iddo mewn perthynas ag ef; neu
(b) os na roddwyd dyfarniad o dan Ddeddf 1962 mewn perthynas â'r cwrs ond y byddai dyfarniad trosiannol wedi'i roi i'r person pe bai wedi gwneud cais am ddyfarniad o dan Ddeddf 1962 a phe na bai ei adnoddau wedi bod yn fwy na'i anghenion,
mae'r person yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhannau 4 a 5 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs dilynol y byddai'r dyfarniad (a roddwyd neu a fyddai wedi'i roi o dan Ddeddf 1962) wedi'i drosglwyddo iddo pe bai dyfarniadau trosiannol yn darparu ar gyfer taliadau ar ôl blwyddyn gyntaf cwrs, ond oni bai bod paragraff (9) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf benthyciad o dan Ran 6 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau'r hawl i gael cymorth o dan y Rhan honno.
(9) Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, os cafodd unrhyw berson fenthyciad neu os oedd yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs o dan Reoliadau 1998, mae'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhan 6 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu ag unrhyw gwrs dynodedig dilynol y bydd yn dechrau arno (gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn union ar ôl rhoi'r gorau i'r cwrs hwnnw, ond oni bai bod paragraff (8) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf grant o dan Rannau 4 a 5 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau perthnasol yr hawl i gael cymorth o dan Rannau 4 a 5.
RHAN 2
4 

(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.
(2) Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig —
(a) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, wrth asesu cais y person am gymorth, yn penderfynu ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a
(b) os nad yw'r person wedi'i hepgor gan baragraff (3).
(3) Ni fydd person yn fyfyriwr cymwys —
(a) os oes hen ddyfarniad wedi'i roi i'r person hwnnw mewn perthynas â phresenoldeb y person ar y cwrs;
(b) os yw'r person yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs o dan Ddeddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990 neu Orchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990;
(c) os rhoddwyd neu os talwyd i'r person mewn perthynas â'i bresenoldeb ar y cwrs —
(i) bwrsari gofal iechyd nad yw ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person; neu
(ii) unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992;
(ch) os yw'r person wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(d) os yw'r person wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu
(dd) os yw'r person, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(4) At ddibenion paragraffau (3)(ch) a (3)(d), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a roddwyd o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(5) Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud —
(a) cyn 25 Medi 1991, a
(b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur
y mae paragraff 3(d) yn gymwys.
(6) Rhaid i fyfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn perthynas ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000 beidio, ar unrhyw un adeg, â bod â hawl i gael cymorth —
(a) at fwy nag un cwrs dynodedig;
(b) at gwrs dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;
(c) at gwrs dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig.
(7) Er gwaethaf paragraff (3), ac yn ddarostyngedig i baragraffau (12) a (13), mae person yn fyfyriwr cymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn os yw'n bodloni'r gofynion ym mharagraff (8), (9) neu (10).
(8) Yr amodau yn y paragraff hwn yw —
(a) bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf ;
(b) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol; ac
(c) nad yw statws y person wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.
(9) Yr amodau yn y paragraff hwn yw —
(a) bod y cwrs presennol yn gwrs penben y mae'r person yn ei ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;
(b) bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef;
(c) mai dim ond ar y sail bod y myfyriwr wedi cwblhau'r cwrs y daeth y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r cwrs yn is-baragraff (b) i ben; ac
(ch) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (b).
(10) Yr amodau yn y paragraff hwn yw —
(a) bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu o'r blaen fod y person —
(i) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig; neu
(ii) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig heblaw'r cwrs presennol,
(b) bod statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(c) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (a); ac
(ch) nad yw statws y person fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.
(11) Mae person y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon ei fod yn dod o fewn paragraff 4 neu 5 o Ran 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2006 yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ac nad yw wedi'i hepgor gan baragraff (3) uchod yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig (o fewn ystyr y Rheoliadau hyn), er nad yw'n dod o fewn y ddarpariaeth gyfatebol a geir ym mharagraff 4 neu 5 o Ran 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(12) Os bydd—
(a) y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i ffoadur—
(i) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef neu mewn cysylltiad â chais mewn perthynas â chwrs rhan-amser dynodedig y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol;
(ii) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a
(b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(13) Os bydd—
(a) y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson â hawl i ddod i mewn neu i aros neu yn rhinwedd bod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i'r cyfryw berson—
(i) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef neu mewn cysylltiad â chais mewn perthynas â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol; neu
(ii) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a
(b) y cyfnod y caniateir i'r person â hawl i ddod i mewn neu i aros aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ac, ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd honno, na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(14) Nid yw paragraffau (12) a (13) yn gymwys pan fydd y myfyriwr wedi cychwyn ar y cwrs y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef ei fod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn fyfyriwr cymwys neu'n fyfyriwr cymhwysol, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.
5 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 4 os yw —
(a) wedi'i grybwyll yn Atodlen 2;
(b) yn un o'r canlynol —
(i) cwrs amser-llawn;
(ii) cwrs rhyngosod; neu
(iii) cwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
(c) yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac
(ch) yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
(2) Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.
(3) At ddibenion paragraff (1) —
(a) mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;
(b) bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac
(c) ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
(4) Bernir bod cwrs y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol hyd yn oed —
(a) os yw'r cwrs yn arwain at ddyfarnu gradd neu gymhwyster arall cyn y radd neu'r cymhwyster cyfatebol; a
(b) os yw rhan o'r cwrs yn ddewisol.
(5) Mae paragraff (4) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy'n arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirluniau, dylunydd tirluniau, rheolwr tirluniau, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.
(6) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 4(1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).
6 

(1) Mae myfyriwr cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig hyd oni fydd y statws yn dod i ben yn unol â'r rheoliad hwn neu reoliad 4.
(2) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”) yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr yn cwblhau'r cwrs dynodedig ynddi.
(3) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i OD+R+1 y mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac nad yw wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys.
(4) Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (6), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (OD+R+1)−PC y mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac sydd wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys, ac eithrio—
(a) nad oes unrhyw ddidyniad sy'n cyfateb i PC yn gymwys yn achos myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon; a
(b) bod un flwyddyn ychwanegol yn cael ei hadio yn achos myfyriwr cymwys na chwblhaodd yn llwyddiannus y cwrs blaenorol diweddaraf oherwydd rhesymau personol anorchfygol.
(5) Mae paragraff (6) yn gymwys —
(a) i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs penben o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) o'r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2;
(b) i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd —
(i) sydd wedi cwblhau cwrs amser-llawn a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2;
(ii) sydd ar gwrs gradd gyntaf amser-llawn (heblaw gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a
(iii) nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol;
(c) i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd —
(i) sydd wedi cwblhau gradd sylfaenol amser-llawn;
(ii) sydd ar gwrs gradd anrhydedd amser-llawn na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol; a
(iii) nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol; ac
(ch) i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy'n fyfyriwr ar gwrs penben o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau (a) a (b) o'r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2.
(6) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd neu grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (D + X) − Pr C y mae myfyriwr cymwys y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gymwys.
(7) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n parhau yn gymwys.
(8) Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (9), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo yn gymwys.
(9) Dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs pellach am y nifer o flynyddoedd sy'n hafal i (A+R+1)−Y−Z y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo ac sy'n dechrau blwyddyn academaidd lawn gyntaf cwrs pellach y mae'n trosglwyddo iddo o dan reoliad 8 ar ôl 1 Medi 2007 yn gymwys.
(10) Mewn unrhyw achos lle mae nifer y blynyddoedd academaidd y mae grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw ar gael ar eu cyfer yn unol â'r rheoliad hwn yn llai na nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol, blynyddoedd diweddaraf y cwrs presennol yw'r blynyddoedd academaidd y mae'r myfyriwr yn gymwys ynddynt i gael grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw.
(11) Yn y rheoliad hwn —
(a) A yw nifer y blynyddoedd academaidd o 31 Awst 2006 sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol neu, yn achos myfyriwr sy'n trosglwyddo, y cwrs blaenorol;
(b) D yw 3 neu nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio cyfnod arferol y cwrs, p'un bynnag yw'r mwyaf;
(c) OD yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol;
(ch) PC yw nifer y blynyddoedd y bu'r myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs blaenorol;
(d) X yw 1 pan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn llai na thair blynedd a 2 pan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn dair blynedd;
(dd) R yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n cael eu hailadrodd ar y cwrs presennol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 a'r rheini'n gyfnodau o ailadrodd y blynyddoedd academaidd blaenorol nad oedd y myfyriwr cymwys yn gallu eu cwblhau'n llwyddiannus oherwydd rhesymau personol anorchfygol;
(e) PrC yw'r nifer o flynyddoedd academaidd a dreuliodd y myfyriwr ar y cwrs rhagarweiniol ac eithrio unrhyw flynyddoedd yn ailadrodd astudiaethau am resymau personol anorchfygol;
(f) Y yw nifer blynyddoedd y cwrs presennol, neu'r cwrs blaenorol yn achos myfyriwr sy'n trosglwyddo, ac y penderfynwyd mewn perthynas â'r cwrs hwnnw cyn 1 Medi 2006 o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf nad oedd cymorth ar gael;
(ff) Z yw nifer y blynyddoedd academaidd a dreuliwyd ar gwrs blaenorol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;
(g) ystyr “myfyriwr sy'n parhau” (“continuing student”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn a ddechreuodd y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006;
(ng) ystyr “myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon” (“teacher training student”) yw myfyriwr sy'n bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon os nad yw cyfnod y cwrs yn para'n hwy na 2 flynedd (gan fynegi cyfnod cwrs rhan-amser yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i gwrs amser-llawn) ac nad yw'r myfyriwr yn athro neu athrawes gymwysedig.
(h) ystyr “myfyriwr sy'n trosglwyddo” (“transferring student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau'r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2007 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf oddi ar gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr hwnnw arno cyn 1 Medi 2007.
(12) Wrth gyfrifo nifer y blynyddoedd at ddibenion y rheoliad hwn, trinnir presenoldeb am ran o flwyddyn academaidd fel blwyddyn academaidd gyfan.
(13) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y bydd yn penderfynu arno.
(14) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cymhwystra i gael grantiau a benthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw heblaw yn unol â pharagraffau (3) i (11).
(15) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr cymwys —
(a) yn tynnu'n ôl o'i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosi neu lle na fydd yn trosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 70(1); neu
(b) yn rhoi'r gorau i'w gwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(16) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(17) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau —
(a) terfynu'r cyfnod cymhwystra;
(b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth; neu
(c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordal y caniateir ei adennill o dan reoliad 60.
(18) Yn y rheoliad hwn cwrs a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 ac yr ymgymerir ag ef cyn ymgymryd â chwrs gradd amser-llawn (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon) neu gwrs gradd sylfaenol yr ymgymerir ag ef cyn ymgymryd â chwrs gradd anrhydedd amser-llawn, yn ôl y digwydd, yw “cwrs rhagarweiniol” (“preliminary course”).
7 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), nid oes gan fyfyriwr cymwys sydd wedi ennill gradd anrhydedd yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol neu gwrs rhan-amser dynodedig hawl i gael grant na benthyciad at ffioedd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 hawl i gael benthyciad at gostau byw os yw wedi ennill gradd anrhydedd yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol neu gwrs rhan-amser dynodedig.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon os nad yw cyfnod arferol y cwrs yn para'n hwy na 2 flynedd (gan fynegi cyfnod arferol cwrs rhan-amser yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i gwrs amser-llawn) ac nad yw'r myfyriwr cymwys yn athro neu athrawes gymwysedig.
(4) Os bernir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl oherwydd rheoliadau 5(4) a 5(5) a'i fod yn arwain at ddyfarnu gradd anrhydedd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig i fyfyriwr cymwys cyn y radd derfynol neu'r cymwysterau cyfatebol, nid yw'r myfyriwr cymwys yn cael ei rwystro rhag bod â hawl i gael cymorth o dan baragraff (1) neu (2) mewn perthynas ag unrhyw ran o'r cwrs sengl yn rhinwedd y ffaith iddo gael y radd anrhydedd honno.
(5) Nid yw paragraff (2) yn gymwys —
(a) os yw'r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol;
(b) os yw'r myfyriwr cymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm neu lwfans gofal iechyd yr Alban y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs presennol; neu
(c) os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 6, mae cwrs blaenorol yn unrhyw gwrs y bu'r myfyriwr yn bresennol arno cyn y cwrs presennol ac sy'n bodloni'r amodau ym mharagraff (7).
(7) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw bod y cwrs yn gwrs addysg uwch a ddarparwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig ac —
(a) bod y sefydliad hwnnw'n cael ei ariannu'n gyhoeddus pan ddarparwyd y cwrs; neu
(b) bod unrhyw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarniad o unrhyw ddisgrifiad a oedd ar gael mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs i dalu ffioedd wedi'i dalu o'r cronfeydd cyhoeddus neu o gronfeydd a oedd i'w priodoli i'r cronfeydd cyhoeddus gan unrhyw berson neu gorff, cyhoeddus neu breifat.
(8) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 6, ystyr “cyfnod arferol y cwrs” (“ordinary duration of the course”) yw nifer y blynyddoedd academaidd y byddai myfyriwr safonol yn eu cymryd i gwblhau'r cwrs dynodedig ac ystyr “myfyriwr safonol” (“standard student”) yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un —
(a) sydd wedi dechrau'r cwrs dynodedig ar yr un dyddiad â'r myfyriwr cymwys o dan sylw;
(b) nad yw wedi'i esgusodi o unrhyw ran o'r cwrs am ei fod wedi bod yn bresennol ar gwrs arall;
(c) na fydd yn ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs; ac
(ch) nad yw'n absennol o'r cwrs heblaw yn ystod gwyliau.
(9) Yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig, mae paragraffau (7) ac (8) o reoliad 23 yn estyn i'r grantiau at gostau byw y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny ddarpariaethau'r rheoliad hwn sy'n ymwneud â'r hawl i gael benthyciadau at ffioedd a grantiau at ffioedd.
8 

(1) Os yw myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i'r cwrs hwnnw —
(a) os caiff gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;
(b) os yw wedi'i fodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac
(c) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.
(2) Y seiliau trosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a) bod y myfyriwr cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau bod yn bresennol ar gwrs arall yn y sefydliad;
(b) bod y myfyriwr cymwys yn dechrau bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall gyda chydsyniad awdurdod academaidd y sefydliad hwnnw;
(c) ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall;
(ch) ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu
(d) ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael, mewn cysylltiad â'r cwrs y bydd yn trosglwyddo iddo, y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo'r hawl i'w gael, mewn perthynas â'r cwrs y bydd yn trosglwyddo oddi arno, am weddill y flwyddyn academaidd y bydd yn trosglwyddo ynddi.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.
(5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol asesu'r cymorth a roddir mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo ohono ond yn gwneud hynny cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno, wneud cais, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo, am grant neu fenthyciad arall o'r math y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ohono oni ddarperir fel arall.
RHAN 3
9 

(1) Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth neu beidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
10 

(1) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas â hi.
(2) Nid yw'r rheol gyffredinol ym mharagraff (1) yn gymwys —
(a) os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 14 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd;
(b) os yw'r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 21 neu reoliad 22 neu fenthyciad at gyfraniad at ffioedd o dan reoliad 20 neu fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 38 neu fenthyciad at ffioedd coleg o dan reoliad 52 ac Atodlen 4 neu os yw'n ceisio am swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 21(6) neu 21(8), swm ychwanegol o fenthyciad at gyfraniad at ffioedd o dan reoliad 20(5), neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 22(3), neu swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 50(3) neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd coleg o dan reoliad 52 ac Atodlen 4 paragraff 9(2) ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi;
(c) os yw'r ceisydd yn gwneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gyfraniad at ffioedd o dan reoliad 20(4) neu swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 50(1), ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r cais yn cyfeirio ati neu o fewn cyfnod o un mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y caiff y ceisydd hysbysiad ynglŷn â'r uchafswm wedi'i gynyddu, p'un bynnag yw'r olaf;
(ch) os yw'r ceisydd yn gwneud cais am grant o dan reoliad 24, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;
(d) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddo.
11 

(1) Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.
RHAN 4
PENNOD 1
12 

(1) Ni chaiff cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.
(2) Er mwyn derbyn benthyciad o dan y Rheoliadau hyn rhaid i'r myfyriwr ymrwymo i gontract gyda'r Cynulliad Cenedlaethol ar delerau i'w penderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) At ddibenion cyfrifo swm y cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon, nid yw sefydliad sy'n darparu cyrsiau a ddynodir gan reoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Dawnsio a Drama) 1999 i'w ystyried yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus am ddim rheswm ond am ei fod yn derbyn cyllid cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992.
13 
Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 14 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —
(a) caiff myfyriwr fod â hawl i gael grantiau a benthyciadau o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
(b) nid yw'r grantiau a'r benthyciadau hyn ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
14 
Y digwyddiadau yw —
(a) bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
(b) bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(c) bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;
(ch) bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;
(d) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(dd) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(e) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir.
PENNOD 2
15 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â'r ffioedd am flwyddyn academaidd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Pennir swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 16 neu 17.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn perthynas â blwyddyn academaidd —
(a) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;
(b) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;
(c) os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS ac —
(i) bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a
(ii) bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(ch) os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-radd hyblyg.
16 

(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant at ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw'r swm lleiaf o'r isod—
(a) £1,225; a
(b) y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (7), swm y grant at ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn yr achosion ym mharagraff (3) yw'r lleiaf o'r canlynol—
(a) £610, a
(b) y swm sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.
(3) Y canlynol yw'r achosion—
(a) blwyddyn derfynol y cwrs os yw fel rheol yn ofynnol i'r flwyddyn honno gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;
(b) mewn perthynas â chwrs rhyngosod, blwyddyn academaidd —
(i) pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos; neu
(ii) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;
(c) mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs sy'n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos;
(ch) mewn perthynas â chwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad dros y môr, blwyddyn academaidd—
(i) pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
(ii) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu
(d) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis a ddechreuodd cyn 1 Medi 2001.
(4) Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,195.
(5) Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £4,445.
(6) Caniateir didynnu swm o'r grant at ffioedd y penderfynir arno o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 54.
(7) Swm sylfaenol y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad cyhoeddus yw'r lleiaf o'r symiau canlynol, sef £1,150 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—
(a) os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;
(b) os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac
(c) os nad yw unrhyw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys.
(8) Swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad cyhoeddus yw'r lleiaf o'r symiau canlynol, sef £610 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—
(a) os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;
(b) os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac
(c) os bod un neu fwy o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys.
(9) Pan gyfrifir cyfraniad sy'n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o swm y grant at ffioedd a benderfynir o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 54.
17 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw'r lleiaf o'r canlynol—
(a) £1,150; a
(b) y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.
(2) Yn achos cwrs dynodedig ym Mhrifysgol Buckingham, swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw £2,905.
18 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am grant newydd at ffioedd o swm nad yw'n fwy na'r uchafswm sydd ar gael (yn unol â pharagraff (3) neu (4), yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig cymhwysol, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Nid oes grant newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd —
(a) os yw'r myfyriwr yn gymwys mewn perthynas â'r flwyddyn honno i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;
(b) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;
(c) os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS ac —
(i) bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a
(ii) bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(ch) os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-radd hyblyg.
(3) Uchafswm y grant sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i geisydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig cymhwysol os nad yw'r un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys yw £1,845 neu y gwahaniaeth rhwng £1,225 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, p'un bynnag yw'r lleiaf.
(4) Uchafswm y grant sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o'r fath o dan y rheoliad hwn i geisydd os yw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys yw £925 neu y gwahaniaeth rhwng £610 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, p'un bynnag yw'r lleiaf.
(5) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd” (“student who qualifies for a new fee grant”), mewn perthynas â chwrs dynodedig cymhwysol, yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd-sy'n berson y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs dynodedig ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.
(6) Yn y Rheoliadau hyn, nid yw myfyriwr a grybwyllir ym mharagraff (5) yn gymwys ar gyfer grant newydd at ffioedd os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod oddi tano yw paragraff 9.
(7) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr y mae ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd, yw cwrs dynodedig sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad a ariannir yn gyhoeddus yng Nghymru.
PENNOD 3
19 

(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig o dan y Rhan hon ar yr amod nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor rhag bod â hawl gan y paragraff canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd —
(a) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;
(b) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;
(c) os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS ac —
(i) bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a
(ii) bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(ch) os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-radd hyblyg.
20 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig—
(a) os yw'n gymwys i gael grant at ffioedd mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno neu os byddai wedi bod yn gymwys pe byddai wedi gwneud cais am y grant (hyd yn oed pe byddai'r swm wedi bod yn ddim); ac
(b) os darperir y cwrs dynodedig gan neu ar ran sefydliad a oedd yn cael ei ariannu'n gyhoeddus ar 1 Awst 2005.
(2) Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais am grant at ffioedd ac am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd, swm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na'r swm a ddidynnwyd o'i grant at ffioedd yn unol â rheoliad 54.
(3) Os benthyciad at gyfraniad at ffioedd yw'r unig gymorth at ffioedd y mae myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, swm y benthyciad hwnnw mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano, a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na £1,225 neu, os oes unrhyw rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys, £610.
(4) Caiff myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gyfraniad at ffioedd —
(i) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd (gan gynnwys rhoi swm pan na roddwyd dim ynghynt) sydd wedi'i hysbysu i'r myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr neu fel arall; a
(ii) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i'r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn —(aa) methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad at gyfraniad at ffioedd y mae ganddo hawl i'w gael; neu(bb) rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.
(5) Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (4), o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi'i gynyddu.
(6) Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wedi gwneud cais am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.
21 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Rhaid i swm benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol —
(a) £3,070 neu, os oes un o'r amgylchiadau ym mharagraff (3) yn gymwys, £1,535; a
(b) y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(3) Yn yr achosion a bennir yn rheoliad 16(3), uchafswm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,535.
(4) Os caiff statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys ei drosglwyddo o un cwrs dynodedig i un arall o dan y Rheoliadau hyn a bod un o'r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys, caiff y myfyriwr fenthyg swm ychwanegol ar ffurf benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo iddo.
(5) Yr amgylchiadau yw —
(a) bod y ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn trosglwyddo iddo yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr wedi trosglwyddo ohono; a
(b) nad yw blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn trosglwyddo iddo yn dechrau ar ddyddiad diweddarach na blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr wedi trosglwyddo oddi arno.
(6) Os yw paragraff (5)(a) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr hwnnw'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na swm sy'n hafal i'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno, llai swm unrhyw fenthyciad at ffioedd y mae'r myfyriwr hwnnw wedi'i godi mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae wedi trosglwyddo oddi arni.
(7) Os yw paragraff 5(b) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol —
(a) £3,070 neu, os oes un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys, £1,535; a
(b) y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(8) Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.
(9) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr os oes ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd a bod y cwrs yn gwrs dynodedig cymhwysol.
22 

(1) Caiff myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am fenthyciad mewn perthynas â mynychu'r cwrs dynodedig cymhwysol.
(2) Uchafswm y benthyciad sydd ar gael o dan y rheoliad hwn yw'r lleiaf o'r canlynol —
(a) £1,225 neu, pan fydd unrhyw un neu rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys, £610; a
(b) gweddill y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr a swm sy'n hafal i'r grant newydd at ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn honno neu mewn cysylltiad â hi fel arall wedi i ddidynnu oddi wrtho.
(3) Os yw'r myfyriwr wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm hwnnw.
(4) Os yw statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys yn cael ei drosglwyddo o gwrs dynodedig cymhwysol i gwrs dynodedig cymhwysol arall o dan y Rheoliadau hyn a bod un o'r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys, caiff y myfyriwr fenthyg swm ychwanegol ar ffurf benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.
(5) Yr amgylchiadau yw —
(a) bod y ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys wedi trosglwyddo ohono; a
(b) nad yw blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo yn dechrau ar ddyddiad diweddarach na blwyddyn academaidd y cwrs y mae wedi trosglwyddo ohono.
(6) Pan fo paragraff (5)(a) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys ei fenthyg mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na swm hafal i'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno llai swm unrhyw fenthyciad at ffioedd y mae wedi'i gymryd ac/neu unrhyw grant newydd at ffioedd y mae wedi'i dderbyn mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae wedi trosglwyddo ohoni.
(7) Pan fo paragraff (5)(b) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys ei fenthyg mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—
(a) £3,070 neu, pan fo un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys, £1,535; a
(b) gweddill y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr llai swm hafal i'r grant newydd at ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi fel arall.
RHAN 5
23 

(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon ar yr amod —
(a) nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor rhag bod â hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a
(b) bod y myfyriwr yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol y mae'n gwneud cais amdano.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd —
(a) pryd y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr;
(b) pryd y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr; neu
(c) ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn, gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu, yn llai na 6 wythnos.
(4) Nid yw paragraff (3)(c) yn gymwys at ddibenion rheoliad 24.
(5) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.
(6) At ddibenion paragraff (5), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw —
(a) gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;
(b) gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy'n ymwneud â gofal plant a phersonau ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy'n darparu cyfleusterau neu sy'n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;
(c) gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu'r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;
(ch) ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr sy'n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu
(d) gwasanaeth di-dâl gydag —
(i) Awdurdod Iechyd neu Awdurdod Iechyd Strategol a sefydlwyd yn unol ag adran 8 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (“Deddf 1977”) neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o'r Ddeddf honno neu yn unol ag adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Fwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 16BA o Ddeddf 1977 neu yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Fwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 16 BA Ddeddf 1977;
(ii) Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978; neu
(iii) Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 .
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan reoliad 35, 36 neu 37 mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.
(8) Nid yw paragraff (7) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol yw —
(a) ei fod yn cymryd rhan yng nghynllun gweithredu'r Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS a bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(b) bod y cwrs gradd yn gwrs HCA hyblyg.
(9) Ym mharagraff (7) ystyr “cymorth perthnasol” (“relevant support”), yn achos grant o dan reoliad 35, yw grant at ffioedd, neu, yn achos grant o dan reoliad 36 neu 37, benthyciad at ffioedd.
(10) Os daw myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (11), caiff y myfyriwr fod â hawl i gael grant penodol yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(11) Y digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (10) yw —
(a) bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
(b) bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(c) bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(ch) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(d) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(dd) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir.
24 

(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei ysgwyddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig.
(3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol—
(a) £12,425 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
(b) £4,910 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;
(c) y gwariant ychwanegol sy'n cael ei ysgwyddo —
(i) yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad,
(ii) yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad dros y môr neu er mwyn bod yn bresennol yn Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis;
(ch) £1,645 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.
(5) Os yw'r myfyriwr cymwys wedi cael taliadau i helpu gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn cysylltiad â'r cwrs yn rhinwedd y ffaith bod ganddo ddyfarniad trosiannol, mae uchafswm y grant o dan baragraff (4)(b) yn cael ei ostwng yn ôl swm y taliadau hynny.
(6) Uchafswm y grant o dan baragraffau (4)(a) a (4)(ch) yw £9,325 a £1,230, yn y drefn honno —
(a) os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon; a
(b) os yw cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn mewn unrhyw flwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw, (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn llai na 6 wythnos.
25 

(1) Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol —
(a) grant dibynyddion mewn oed;
(b) grant gofal plant;
(c) lwfans dysgu rhieni.
(2) Nodir amodau'r hawl i gael pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 26 i 29.
(3) Caniateir didynnu swm o unrhyw un o elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliad 54.
26 

(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â dibynnydd i fyfyriwr cymwys sydd naill ai —
(a) yn bartner i'r myfyriwr cymwys; neu
(b) yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr cymwys nad yw ei incwm net yn fwy na £3,615.
(3) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 29, a'r swm sylfaenol yw —
(a) £2,515; neu
(b) os yw'r person y mae'r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,515 sydd ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan reoliad 29 yn cael ei ostwng o hanner —
(a) os yw partner y myfyriwr cymwys —
(i) yn fyfyriwr cymwys; neu
(ii) yn dal dyfarniad statudol; a
(b) os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw â hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.
27 

(1) Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant mewn perthynas â chostau gofal plant sy'n gostau rhagnodedig a dynnir mewn perthynas â phob plentyn dibynnol yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant gofal plant mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae'n tynnu costau gofal plant rhagnodedig ynddi a hynny ar gyfer —
(a) plentyn sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd; neu
(b) plentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996 a'i fod o dan 17 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr neu bartner y myfyriwr wedi dewis cael yr elfen gofal plant o'r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002.
(4) Nid yw myfyriwr cymwys yn gymwys i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r costau gofal plant rhagnodedig y mae'n eu tynnu'n cael eu talu neu os ydynt i'w talu gan y myfyriwr i'w bartner mewn perthynas â—
(a) ei blentyn; neu
(b) plentyn ei bartner.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw —
(a) ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o gostau gofal plant rhagnodedig, hyd at uchafswm o £153 yr wythnos; neu
(b) ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o gostau gofal plant rhagnodedig, hyd at uchafswm o £259.25 yr wythnos,
ac eithrio nad oes gan y myfyriwr hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n syrthio o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.
(6) Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant —
(a) mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a
(b) os yw wythnos y caiff costau gofal plant rhagnodedig eu tynnu mewn perthynas â hi yn syrthio'n rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan iddi, mae uchafswm wythnosol y grant yn cael ei gyfrifo drwy luosi'r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (4) â chyfrannedd y nifer o ddyddiau yn yr wythnos honno sy'n syrthio o fewn y flwyddyn academaidd o'i chymharu â nifer y dyddiau mewn wythnos.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “costau gofal plant rhagnodedig” (“prescribed childcare charges”) yw costau gofal plant o ddisgrifiad a ragnodir at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002.
28 

(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o blant dibynnol.
(2) Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 29, a'r swm sylfaenol yw £1,435.
29 

(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliadau 26 i 28 yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben, swm sy'n hafal i (A — B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol —
(a) i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 26;
(b) i ostwng swm sylfaenol y grant gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 27; ac
(c) i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 28.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w chael yn daladwy.
(3) Os yw (A — B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.
(4) Rhaid gostwng swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 26(4).
(5) Rhaid gostwng swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 27(6).
(6) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.
(7) Yn y rheoliad hwn —
(a) A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a
(b) B yw
(i) £1,000 os nad oes gan y myfyriwr cymwys blentyn dibynnol;
(ii) £3,300 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
(iii) £4,405 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;
(iv) £4,405 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn;
(v) £5,510 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
(8) Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd —
(a) bod nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;
(b) bod person yn dod yn ddibynnydd i'r myfyriwr cymwys neu'n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;
(c) bod y myfyriwr cymwys yn dod yn rhiant unigol neu'n peidio â bod yn rhiant unigol;
(ch) bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 23(11).
(9) Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhieni yn daladwy, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol —
(a) faint o ddibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;
(b) pwy yw'r dibynyddion hynny;
(c) a yw'r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.
(10) Swm y grant ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni wedi'u cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.
(11) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu'r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.
(12) Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw —
(a) yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (8)(ch), chwarter sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ddigwydd heblaw chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol;
(b) fel arall, chwarter heblaw'r chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
30 

(1) Yn rheoliadau 25 i 29 —
(a) ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;
(b) ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
(c) ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr heblaw plentyn y myfyriwr, partner neu gyn bartner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil nad yw'n preswylio fel arfer gyda'r myfyriwr);
(ch) mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);
(d) yn ddarostyngedig i is-baragraffau (f), (ff) ac (g) ac (ng) ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol —
(i) priod myfyriwr cymwys;
(ii) partner sifil myfyriwr cymwys;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod i'r myfyriwr hwnnw os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 5 a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r myfyriwr cymwys os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 5 a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(dd) mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto os yw'r plant hynny'n dibynnu ar y myfyriwr;
(e) ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;
(f) nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (d) yn cael ei drin fel partner —
(i) os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr cymwys, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhoi'r gorau i fyw gyda'i gilydd fel arfer; neu
(ii) os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;
(ff) at ddibenion is-baragraff (c), mae person yn cael ei drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (d) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 5; ac
(g) at ddibenion is-baragraffau (dd) a (e), mae person yn cael ei drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (d) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar ei gwrs neu'r ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 5.
(ng) at ddibenion rheoliad 27 —(aa) nid yw is-baragraff (ff) yn gymwys; a(bb) mae person i'w drin fel pe bai'n bartner pe byddai'n bartner o dan is-baragraff (f) pe na bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'n byw gydag ef yn arferol yn dod o fewn paragraff (2)(1)(a) o Atodlen 5.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu —
(a) unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
(b) budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(c) unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
(ch) unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(d) yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989;
(dd) unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno; ac
(e) unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002.
(3) Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) wedi'i ostwng yn ôl —
(a) swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu
(b) unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) At ddibenion paragraff (2), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn, mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn.
31 

(1) Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy'n mynychu cwrs mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth (y mae rhan hanfodol ohono'n gyfnod o astudio ar ffurf hyfforddiant clinigol) mewn perthynas â'r gwariant rhesymol y mae'n orfodol iddo ei dynnu mewn blwyddyn academaidd at ddiben mynychu mewn cysylltiad â'i gwrs unrhyw ysbyty neu fangre arall yn y Deyrnas Unedig (nad yw'n rhan o'r sefydliad) lle y darperir cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant clinigol a hynny ac eithrio gwariant a dynnir at ddiben cyfnod o astudio preswyl heb fod yn y sefydliad.
(2) Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy'n mynychu sefydliad tramor neu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis fel rhan o'i gwrs mewn perthynas â'r costau teithio y mae'n orfodol iddo eu tynnu ym mhob chwarter cymhwysol.
32 

(1) Mae swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 31(1) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i'r gwariant rhesymol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ei dynnu at y dibenion a nodir yn y rheoliad hwnnw llai £290.
(2) Swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 31(2) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfanswm y costau teithio y mae'n orfodol i'r myfyriwr cymwys eu tynnu ym mhob chwarter cymhwysol llai £290.
(3) Mae myfyriwr cymwys—
(a) sy'n gymwys i gael grant o dan reoliad 31(2); a
(b) sy'n rhesymol yn tynnu unrhyw wariant wrth yswirio yn erbyn atebolrwydd o ran cost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig i unrhyw salwch neu anaf corfforol a gaiff ei beri neu y dioddefir ohono yn ystod y cyfnod y mae'r myfyriwr yn mynychu'r sefydliad tramor neu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis,
yn gymwys i gael grant ychwanegol o dan y rheoliad hwn sy'n hafal i'r swm a dynnir.
33 
Caniateir gwneud didyniad o grant o dan reoliadau 30 i 32 yn unol â Rhan 9.
34 
At ddibenion y Rhan hon—
(a) o ran unrhyw gyfeiriad at wariant a dynnir at ddiben mynychu sefydliad neu gyfnod o astudio—
(i) mae'n cynnwys gwariant cyn ac ar ôl mynychu felly; a
(ii) nid yw'n cynnwys unrhyw wariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef o dan reoliad 24.
(b) ystyr “chwarter cymhwysol” (“qualifying quarter”) yw chwarter y mae myfyriwr cymwys yn treulio o leiaf hanner cyfnod y chwarter hwnnw yn mynychu, fel rhan o'i gwrs, sefydliad tramor neu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis;
(c) ystyr “costau teithio” (“travel expenses”) yw gwariant rhesymol ar deithio o fewn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi at ddibenion mynychu fel rhan o gwrs dynodedig sefydliad tramor neu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis.
35 

(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant addysg uwch mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu hysgwyddo er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael grant addysg uwch oni bai ei fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004.
(3) Uchafswm y grant addysg uwch sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,000.
(4) Mae gan fyfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant addysg uwch hawlogaeth i gael swm fel a ganlyn —
(a) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £16,355 neu lai, mae ganddo hawlogaeth i gael uchafswm y grant sydd ar gael;
(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £16,355 ac nad yw'n fwy na £22,340, mae'r myfyriwr yn cael swm sy'n hafal i M-A, pan fo M yn £1,000 ac A yn £1 am bob £6.30 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £16,355; ac
mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy nag £22,340, nid oes grant yn daladwy o dan y rheoliad hwn.
36 

(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cynhaliaeth mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cynhaliaeth os oes ganddo hawl i gael grant cymorth arbennig.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant cynhaliaeth oni bai ei fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2006.
(4) Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw —
(a) yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,380;
(b) yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,765; ac
(c) yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,765.
(5) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno —
(a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,920 neu lai, mae'n cael £1,380;
(b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £17,920 ond heb fod yn fwy na £27,160, mae'n cael swm sy'n hafal i M-(A/2) pan fo M yn £1,380 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,920; ac
(c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,160, mae'n cael £610.
(6) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,920 neu lai, mae'n cael £2,765;
(b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £17,920 ond heb fod yn fwy na £27,160, mae'n cael swm sy'n hafal i M-A pan fo M yn £2,765 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,920; ac
(c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,160, mae'n cael £1,225.
(7) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,920 neu lai, mae'n cael £2,765;
(b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £17,920 ond heb fod yn fwy na £27,160, mae'n cael swm sy'n hafal i M-A pan fo M yn £2,765 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,920; ac
(c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,160 ond heb fod yn fwy na £38,325, mae'n cael swm sy'n hafal i RM-A, pan fo RM yn £1,225 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,160;
(ch) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £38,325 nid oes grant cynhaliaeth yn daladwy.
37 

(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cymorth arbennig mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu cost llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu hysgwyddo er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
(2) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw'n syrthio o fewn categori rhagnodedig o berson at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992, neu os ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n atebol i wneud taliadau mewn perthynas ag annedd a ragnodwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o'r Ddeddf honno.
(3) Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—
(a) yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,380;
(b) yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,765; ac
(c) yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,765.
(4) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,920 neu lai, mae'n cael £1,380;
(b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £17,920 ond heb fod yn fwy na £27,160, mae'n cael swm sy'n hafal i M-(A/2) pan fo M yn £1,380 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,920; ac
(c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,160, mae'n cael £615.
(5) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno —
(a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,920 neu lai, mae'n cael £2,765;
(b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £17,920 ond heb fod yn fwy na £27,160, mae'n cael swm sy'n hafal i M-A pan fo M yn £2,765 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,920; ac
(c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,160, neu os yw'r myfyriwr wrth wneud cais am y grant yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae'n cael £1,225.
(6) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno —
(a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,920 neu lai, mae'n cael £2,765;
(b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £17,920 ond heb fod yn fwy na £27,160, mae'n cael swm sy'n hafal i M-A pan fo M yn £2,765 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,920;
(c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,160 ond heb fod yn fwy na £38,325, mae'n cael swm sy'n hafal i RM-A, pan fo RM yn £1,225 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,160;
(ch) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £38,325, nid oes grant cymorth arbennig yn daladwy.
RHAN 6
38 

(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r myfyriwr yn bodloni'r amod ym mharagraff (2) ac nad yw'n cael ei hepgor gan baragraff (3) neu reoliad 7.
(2) Yr amod yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
(4) Mae myfyriwr cymwys o dan yr hen system sy'n dod o fewn paragraff (a) neu (ch)(i) o'r diffiniad o “myfyriwr cymwys o dan yr hen system” yn rheoliad 2 yn gymwys i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â mynychu cwrs dynodedig os yw o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.
39 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (heblaw blwyddyn derfynol cwrs carlam), yw—
(a) i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,495;
(b) i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,320;
(c) i fyfyriwr yng nghategori 3, £5,380;
(ch) i fyfyriwr yng nghategori 4, £5,380;
(d) i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,510.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs carlam yw —
(a) i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,160;
(b) i fyfyriwr yng nghategori 2, £5,755;
(c) i fyfyriwr yng nghategori 3, £4,680;
(ch) i fyfyriwr yng nghategori 4, £4,680;
(d) i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,180.
40 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn, heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, pan fo incwm yr aelwyd yn fwy na £38,810.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yn hafal i(X-Y)—Os
 X
(i) i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,495;
(ii) i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £6,320;
(iii) i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £5,380;
(iv) i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £5,380;
(v) i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,510;
 Y yw swm y grant cynhaliaeth.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam yn hafal i(X-Y)—Os
 X
(i) i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,160;
(ii) i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £5,755;
(iii) i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £4,680;
(iv) i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £4,680;
(v) i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,180;
 Y yw swm y grant cynhaliaeth.
(4) Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw'r canlynol
(a) os oes gan y myfyriwr hawl o dan reoliad 36 i gael swm o grant cynhaliaeth nad yw'n fwy na £1,225, swm y grant cynhaliaeth sy'n daladwy;
(b) os oes gan y myfyriwr hawl o dan reoliad 36 i gael swm o grant cynhaliaeth sy'n fwy na £1,225, £1,225; ac
(c) os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy, dim.
41 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr math 1 a myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon pan fo incwm yr aelwyd yn fwy na £38,810.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yw —
(a) i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,495;
(b) i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,320;
(c) i fyfyriwr yng nghategori 3, £5,380;
(ch) i fyfyriwr yng nghategori 4, £5,380;
(d) i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,510.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs (heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yw —
(a) i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,160;
(b) i fyfyriwr yng nghategori 2, £5,755;
(c) i fyfyriwr yng nghategori 3, £4,680;
(ch) i fyfyriwr yng nghategori 4, £4,680;
(d) i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,180.
42 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs (heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yw —
(a) os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(a) neu 23(3)(b) —
(i) i fyfyriwr yng nghategori 1, £1,660;
(ii) i fyfyriwr yng nghategori 2, £3,105;
(iii) i fyfyriwr yng nghategori 3, £2,210;
(iv) i fyfyriwr yng nghategori 4, £2,210;
(v) i fyfyriwr yng nghategori 5, £2,210;
(b) os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(c) neu 23(5) —
(i) i fyfyriwr yng nghategori 1, £1,660;
(ii) i fyfyriwr yng nghategori 2, £3,105;
(iii) i fyfyriwr yng nghategori 3, £2,645;
(iv) i fyfyriwr yng nghategori 4, £2,645;
(v) i fyfyriwr yng nghategori 5, £2,210;
(c) os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd swm hafal iX-Ypan fo—
 X—
(i) i fyfyriwr yng nghategori 1, yn £2,620;
(ii) i fyfyriwr yng nghategori 2, yn £4,740;
(iii) i fyfyriwr yng nghategori 3, yn £4,035;
(iv) i fyfyriwr yng nghategori 4, yn £4,035;
(v) i fyfyriwr yng nghategori 5, yn £3,385;
 Y yw'r swm a bennir ym mharagraff (ch).
(d) y swm penodedig yw —
(i) £610 os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan yw'n gwneud cais am grant cynhaliaeth ac sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth o £610;
(ii) £1,225 os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan yw'n gwneud cais am grant cynhaliaeth ac sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth o £1,225;
(iii) dim pan nad yw'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyffordd neu pan nad yw'n fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam yw —
(a) os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(a) neu 23(3)(b) —
(i) i fyfyriwr yng nghategori 1, £1,260;
(ii) i fyfyriwr yng nghategori 2, £2,375;
(iii) i fyfyriwr yng nghategori 3, £1,720;
(iv) i fyfyriwr yng nghategori 4, £1,720;
(v) i fyfyriwr yng nghategori 5, £1,720;
(b) os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(c) neu 23(5) —
(i) i fyfyriwr yng nghategori 1, £1,260;
(ii) i fyfyriwr yng nghategori 2, £2,375;
(iii) i fyfyriwr yng nghategori 3, £1,930;
(iv) i fyfyriwr yng nghategori 3, £1,930;
(v) i fyfyriwr yng nghategori 3, £1,720;
(c) os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd swm hafal iX-Ypan fo—
 X
(i) i fyfyriwr yng nghategori 1, yn £2,370;
(ii) i fyfyriwr yng nghategori 2, yn £4,315;
(iii) i fyfyriwr yng nghategori 3, yn £3,510;
(iv) i fyfyriwr yng nghategori 4, yn £3,510;
(v) i fyfyriwr yng nghategori 5, yn £3,135;
 Y yw'r swm a bennir ym mharagraff (ch).
(ch) y swm penodedig yw—
(vi) £610 os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan yw'n gwneud cais am grant cynhaliaeth ac sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth o £610;
(vii) £ 1,225 os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan yw'n gwneud cais am grant cynhaliaeth ac sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth o £1,225;
(viii) dim pan nad yw'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi neu pan nad yw'n fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.
43 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw myfyriwr cymwys yn preswylio yng nghartref ei rieni a bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni nad yw'n rhesymol disgwyl, o dan yr holl amgylchiadau, i rieni'r myfyriwr gynnal y myfyriwr oherwydd oedran, analluedd neu fel arall ac y byddai'n briodol i swm y benthyciad sy'n daladwy i fyfyriwr mewn categori heblaw categori 1 fod yn gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw, rhaid trin y myfyriwr fel pe na bai'n preswylio yng nghartref ei rieni.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2004.
(3) Os yw myfyriwr cymwys yn aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai ei urdd, trinnir y myfyriwr fel pe bai'n preswylio yng nghartref ei rieni.
44 
Yn ddarostyngedig i reoliad 48, mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o'r flwyddyn academaidd ac nid yw'n daladwy mewn perthynas â'r chwarter y mae'r hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
45 

(1) Os yw myfyriwr cymwys yn syrthio i fwy nag un o'r categorïau yn rheoliad 42 yn ystod y flwyddyn academaidd —
(a) uchafswm y benthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad at gostau byw am bob chwarter y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy;
(b) uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn syrthio i'r categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd; ac
(c) yn ddarostyngedig i baragraff (2), y categori sy'n gymwys i chwarter yw —
(i) y categori y mae'r myfyriwr yn syrthio iddo am y cyfnod hwyaf yn y chwarter hwnnw; neu
(ii) os yw'r myfyriwr yn syrthio i fwy nag un categori am gyfnod cyfartal yn y cyfnod hwnnw, y categori sydd â'r gyfradd uchaf o fenthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd.
46 

(1) Os yw myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2), gall fod gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at gostau byw, mewn perthynas â'r chwarteri hynny o'r flwyddyn academaidd honno y mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â hwy ac sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (2) ddigwydd.
(2) Y digwyddiadau yw —
(a) bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
(b) bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i 1;
(c) bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(ch) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(d) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(dd) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd ynddi.
(4) Uchafswm y benthyciad at gostau byw sy'n daladwy yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad am bob chwarter y mae gan y myfyriwr hawl i gael cymorth mewn perthynas â hwy o dan y rheoliad hwn.
(5) Uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn syrthio i'r categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd.
47 

(1) Os yw'n ofynnol i fyfyriwr cymwys fod yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod sy'n fwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd, rhaid codi uchafswm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 39 i 41 am bob wythnos neu bob rhan o wythnos o bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd honno y tu hwnt i 30 wythnos a 3 diwrnod fel a ganlyn:
(a) i fyfyriwr yng nghategori 1, codiad o £52;
(b) i fyfyriwr yng nghategori 2, codiad o £100;
(c) i fyfyriwr yng nghategori 3, codiad o £110;
(ch) i fyfyriwr yng nghategori 4, codiad o £110;
(d) i fyfyriwr yng nghategori 5, codiad o £79.
(2) Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod heb fod yn llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, codir swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 39 i 41 am bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).
(3) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys yn achos myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng
48 

(1) Caniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn neu fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn o'r benthyciad at gostau byw yn unol â rheoliad 54.
(2) Ni chaniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng o dan reoliad 54.
49 

(1) Yn y Rhan hon —
(a) mae myfyriwr yng nghategori 1 os yw'r myfyriwr yn preswylio yng nghartref ei rieni tra bydd yn bresennol ar y cwrs dynodedig neu os yw'n aelod o urdd grefyddol ac yn byw yn un o dai'r urdd honno;
(b) mae myfyriwr yng nghategori 2 os nad yw yng nghategori 1 a'i fod yn bresennol ar un neu fwy o'r canlynol —
(i) cwrs ym Mhrifysgol Llundain;
(ii) cwrs mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd; neu
(iii) cwrs rhyngosod mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr cymwys ymgymryd â phrofiad gwaith neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r profiad gwaith hwnnw neu'r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle neu safleoedd sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd;
(c) mae myfyriwr yng nghategori 3 os nad yw'r myfyriwr yng nghategori 1 ac os yw'r myfyriwr yn mynychu sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs;
(ch) mae myfyriwr yng nghategori 4 os nad yw'r myfyriwr yng nghategori 1 a'i fod yn mynychu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis;
(d) mae myfyriwr yng nghategori 5 os nad yw yng nghategorïau 1 i 4.
(dd) ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennir;
(e) “myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn” (“new system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng;
(f) “myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn” (“old system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn heblaw myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng;
(ff) “myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng” (“student with reduced entitlement”) yw myfyriwr cymwys —
(i) nad yw'n gymwys i gael grant at gostau byw neu gostau eraill mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd yn rhinwedd rheoliad 23(3)(a) neu 23(3)(b);
(ii) nad yw'n gymwys i gael grant at gostau byw mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd yn rhinwedd rheoliad 23(3)(c) na 23(5); neu
(iii) sydd, wrth wneud cais am fenthyciad at gostau byw, yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd; neu
(iv) os un flwyddyn academaidd yn unig yw hyd cwrs i raddedigion neu ar lefel ôl-radd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, nid yw'r flwyddyn honno i gael ei thrin fel y flwyddyn derfynol.
RHAN 7
50 

(1) Caiff myfyriwr cymwys wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw —
(a) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad at gostau byw sydd wedi'i hysbysu i'r myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd (gan gynnwys cynnydd i fyny o ddim byd) o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr neu fel arall; a
(b) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i'r myfyriwr cymwys —
(i) methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad neu swm y benthyciad y mae ganddo hawl i'w gael; neu
(ii) rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.
(2) Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (1), o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi'i gynyddu.
(3) Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn ei achos ef.
51 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd a fydd yn arwain at gyfradd ganrannol flynyddol o dâl a bennir yn unol â Rheoliadau Credyd Defnyddwyr (Cyfanswm y Tâl am Gredyd) 1980 sy'n hafal i'r cynnydd canrannol rhwng y mynegai prisiau manwerthu pob eitem a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Mawrth 2006 a'r mynegai a gyhoeddwyd ganddi ar gyfer Mawrth 2007.
(2) Os yw'r gyfradd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn fwy na'r gyfradd sydd am y tro wedi'i phennu at ddibenion unrhyw esemptiad sydd wedi'i roi yn rhinwedd adran 16(5)(b) o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974 mae benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd sydd wedi'i phennu felly.
(3) Cyfrifir llog ar y prifswm sy'n weddill bob dydd ac mae'n cael ei ychwanegu at y prifswm bob mis.
(4) Y mynegai prisiau y mae adran 22(8) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw iddo wrth ragnodi cyfradd llog benthyciadau yw'r mynegai prisiau manwerthu pob eitem a grybwyllir ym mharagraff (1).
RHAN 8
52 
Mae benthyciad at ffioedd coleg ar gael i fyfyriwr cymwys yn unol ag Atodlen 4.
RHAN 9
53 

(1) Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 5, os oes unrhyw swm o gwbl.
(2) At ddibenion arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Ddeddf a'r rheoliadau a wnaed odani, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys roi o bryd i'w gilydd unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr.
54 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i swm sy'n hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan Atodlen 5 gael ei gymhwyso nes ei ddihysbyddu yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael fel a ganlyn —
(a) yn gyntaf, i ostwng GFF;
(b) yn ail, i ostwng ADG;
(c) yn drydydd, i ostwng CCG;
(ch) yn bedwerydd, i ostwng PLA;
(d) yn bumed, i ostwng LLC i ddim llai na'r lefel isaf am y flwyddyn academaidd;
(dd) yn chweched, i ostwng GFT.
(2) Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn —
(a) pan fo'r grant at ffioedd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliadau 16(1) a 16(7),
(i) mae GFF yn £1,225; a
(ii) y swm sy'n weddill ar ôl didynnu'r cyfraniad o GFF yw swm y grant at ffioedd sy'n daladwy;
(b) pan fo rheoliad 16(3)(a) neu (c) yn gymwys
(i) GFF yw £610; a
(ii) y swm sy'n weddill ar ôl didynnu'r cyfraniad o GFF yw swm y grant at ffioedd sy'n daladwy;
(c) pan fo rheoliad 16(3)(b), (ch) neu (d) yn gymwys neu fod yr amgylchiadau cyfatebol o dan reoliad 17(3) yn gymwys—
(i) GFF yw £610; a
(ii) gostyngir £610 ar y cyfraniad cyn iddo gael ei gymhwyso yn erbyn GFF;
(ch) pan fo'r cwrs dynodedig yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw cwrs ar gyfer gradd gyntaf) —
(i) GFF yw dim;
(ii) nid oes gostyngiad ar swm y grant at ffioedd a gyfrifir o dan reoliadau 16 a 17; a
(iii) mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG;
(d) Pan nad oes gan y myfyriwr hawl i gael grant at ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd yn rhinwedd y ffaith ei fod yn cymryd rhan yn y rhaglen ERASMUS —
(i) GFF yw dim;
(ii) gostyngir £1,225 ar y cyfraniad; a
(iii) mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG;
(dd) pan nad oes gan y myfyriwr hawl i gael grant at ffioedd am unrhyw reswm arall, GFF yw dim ac mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG.
(3) Yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, GFF yw dim ac mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG.
(4) Yn y rheoliad hwn —
(a) ADG yw swm y grant dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 26;
(b) CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 27;
(c) PLA yw swm y lwfans dysgu rhieni, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir o dan reoliad 28 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans);
(ch) LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae gan y myfyriwr cymwys, heblaw myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng, hawl i'w gael o dan Ran 6;
(d) GFT yw swm y grant at deithio y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliad 31, os oes unrhyw swm o gwbl;
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw —
(a) £2,620, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;
(b) £4,740, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;
(c) £4,035, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;
(ch) £4,035, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;
(d) £3,385, yn achos myfyriwr yng nghategori 5;
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os yw'r flwyddyn academaidd o dan sylw yn flwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs carlam, y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw —
(a) £2,370, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;
(b) £4,315, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;
(c) £3,510, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;
(ch) £3,510, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;
(d) £3,135, yn achos myfyriwr yng nghategori 5.
(7) Os oes categorïau gwahanol yn gymwys o dan reoliad 42 ar gyfer gwahanol chwarteri o'r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (5) a (6) yw cyfanswm y symiau a bennir o dan baragraff (8) ar gyfer pob un o'r tri chwarter y mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.
(8) Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter o dan y paragraff hwn yw traean o'r swm ym mharagraff (5) neu (6) sy'n cyfateb i'r gyfradd sy'n gymwys ar gyfer y chwarter.
(9) Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £610 o swm y benthyciad at gostau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £38,810.
(10) Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £1,225 o swm y benthyciad at gostau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £38,810.
(11) Mae i gategorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 49.
RHAN 10
55 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael i'r sefydliad y mae'r myfyriwr yn atebol i'w dalu pan gaiff y Cynulliad Cenedlaethol gais am daliad oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd i'r awdurdod academaidd —
(a) nid cyn diwedd cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd; ac, yn achos grant yn unig,
(b) nid hwyrach na 10 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod yn is-baragraff (a), neu yn ddi-oed ar ôl i gais dilys am daliad ddod i law, os yw hynny yn hwyrach.
(3) Os yw asesu cyfraniad y myfyriwr neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad dros dro.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad at ffioedd mewn rhandaliadau.
(5) Os yw asesu cyfraniad myfyriwr o dan yr hen drefn neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad a thaliad dros dro.
(6) Ni chaniateir talu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—
(a) os bydd y myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs cyn diwedd cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd; a
(b) os yw'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd yn daladwy mewn perthynas â hi neu o gwbl.
56 

(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan Ran 5 yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae o'r farn eu bod yn briodol
(2) Mae'n ofynnol i sefydliad anfon cadarnhad o bresenoldeb at y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth o dan Ran 5 mewn rhandaliadau, rhaid iddo beidio â gwneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 i fyfyriwr cymwys cyn i'r cadarnhad ddod i law onid oes eithriad yn gymwys.
(4) Mae eithriad yn gymwys—
(a) pan fo lwfans myfyrwyr anabl yn daladwy, ac yn yr achos hwnnw caniateir talu'r grant arbennig hwnnw cyn i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol; neu
(b) pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu y byddai'n briodol oherwydd amgylchiadau eithriadol i wneud taliad a chadarnhad o bresenoldeb heb eto ddod i law.
(5) Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 5.
(6) Mae taliadau cymorth o dan Ran 5 i'w gwneud yn y cyfryw ddull ag y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn briodol a chaiff y Cynulliad ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar ei gyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y caniateir gwneud taliadau iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.
(7) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.
(8) Pan fydd cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu—
(a) swm pob grant at gostau byw a chostau eraill y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael ac a fyddai'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol pe na byddai cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys wedi dod i ben (y “cyfanswm”); a
(b) faint o'r cyfanswm sy'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod sy'n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys i ben (y “swm rhannol”).
(9) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
(10) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi talu grant at gostau byw a chostau eraill mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys i ben a bod taliad yn fwy na swm rhannol y grant hwnnw—
(a) caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin y tâl dros ben fel gordal o'r grant hwnnw
(b) os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny caiff estyn cyfnod cymhwystra'r myfyriwr mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chaiff benderfynu bod cyfanswm y grant yn ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.
(11) Os yw taliad grant at gostau byw a chostau eraill mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol i'w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y'i telir, swm y grant hwnnw sy'n ddyledus yw'r swm rhannol onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod yn briodol i estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol neu'n briodol i benderfynu bod cyfanswm y grant hwnnw'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.
(12) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn ddyledus mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn yr amgylchiadau i gyd i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod o absenoldeb.
(13) Wrth benderfynu p'un a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (12) mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a'r caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na fyddai'r cymorth yn cael ei dalu.
(14) Nid ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu mynychu oherwydd salwch ac os nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 o ddiwrnodau.
(15) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl iddo wneud unrhyw daliad o gymorth o dan Ran 5 neu Ran 6, yn penderfynu swm y grant at gostau byw a chostau eraill y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—
(a) os penderfyniad i gynyddu swm y grant hwnnw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael yw'r penderfyniad rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r swm ychwanegol yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn eu bod yn briodol;
(b) os penderfyniad i ostwng swm y grant hwnnw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael yw'r penderfyniad rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dynnu i ffwrdd swm y gostyngiad o swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu;
(c) os yw swm y gostyngiad yn fwy na swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim a chaiff y balans ei dynnu i ffwrdd o unrhyw grant arall at gostau byw a chostau eraill y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd;
(ch) gellir adennill unrhyw ordal sy'n weddill yn unol â rheoliad 60 .
57 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad o ran unrhyw fenthyciad fod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.
(2) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gosod amod o dan baragraff (1), rhaid iddo beidio â gwneud unrhyw daliad o ran y benthyciad i'r myfyriwr cymwys cyn iddo gael ei fodloni bod y myfyriwr wedi cydymffurfio â'r amod hwnnw.
(3) Er gwaethaf paragraff (2), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os yw wedi'i fodloni y byddai'n briodol iddo wneud taliad o'r fath o achos amgylchiadau eithriadol, wneud taliad benthyciad i fyfyriwr cymwys heb fod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â'r amod a osodwyd o dan baragraff (1).
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i geisydd, fyfyriwr cymwys ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad drwy fodd arbennig.
(5) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gofyn am gytundeb o ran y modd yr ad-delir o dan y rheoliad hwn, caiff gadw unrhyw daliad benthyciad yn ôl hyd oni fo'r person yn darparu yr hyn y gofynnwyd amdano.
58 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ofyn i geisydd am wybodaeth y mae o'r farn ei bod yn ofynnol ar gyfer adennill benthyciad.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ofyn i geisydd am gael gweld ei gerdyn adnabod dilys, ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae'n un o'i dinasyddion neu ei dystysgrif geni.
(3) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gofyn am wybodaeth neu ddogfennau o dan y rheoliad hwn, caiff gadw'n ôl unrhyw daliad benthyciad hyd oni fydd y person yn darparu'r hyn y gofynnwyd amdano neu hyd onid yw'n darparu eglurhad boddhaol am beidio â chydymffurfio â'r cais.
59 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan Ran 8 mewn rhandaliadau.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan Ran 6 ar y cyfryw adegau ag y mae o'r farn eu bod yn briodol.
(3) Mae'n ofynnol i sefydliad anfon cadarnhad o bresenoldeb at y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf, neu pan fydd wedi penderfynu peidio â thalu cymorth o dan Ran 6 drwy randaliadau, wneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 i'r myfyriwr cymwys hyd oni fydd cadarnhad o bresenoldeb wedi dod i law oddi wrth y sefydliad perthnasol onid oes eithriad yn gymwys.
(5) Mae eithriad yn gymwys os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu y byddai'n briodol, o achos amgylchiadau eithriadol, iddo wneud taliad heb i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law.
(6) Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd gan y myfyriwr, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 6.
(7) Mae taliadau cymorth o dan Ran 6 i'w gwneud yn y cyfryw fodd ag y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn briodol a chaiff ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod y rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar ei gyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.
(8) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 5 neu o dan Ran 6 a bod myfyriwr sy'n gymwys i gael benthyciad at gostau byw o dan Ran 6 yn gwneud cais am fenthyciad o'r fath neu'n gwneud cais am swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad hwnnw neu'r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae o'r farn eu bod yn briodol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i gais boddhaol ddod i law.
(9) Yn ddarostyngedig i reoliad 8, nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.
(10) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn ddyledus mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod rhan ohono, oni fyddai'n briodol, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, yn yr holl amgylchiadau, i gymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod o absenoldeb.
(11) Wrth benderfynu p'un a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (10) mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw iddynt yn cynnwys y rhesymau am absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a'r caledi ariannol y byddai peidio â thalu'r myfyriwr yn ei achosi.
(12) Ni ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu mynychu oherwydd salwch ac os nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 o ddiwrnodau.
(13) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl iddo wneud unrhyw daliad benthyciad at gostau byw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o dan Ran 6, yn gwneud penderfyniad bod y swm o fenthyciad at gostau byw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael yn llai na'r swm a benderfynwyd yn flaenorol naill ai drwy adolygiad o asesiad dros dro neu fel arall —
(a) rhaid iddo dynnu i ffwrdd o unrhyw swm o fenthyciad at gostau byw sydd ar ôl i'w dalu y cyfryw swm ag y mae ei angen er mwyn sicrhau nad yw'r myfyriwr yn benthyg swm o fenthyciad at gostau byw sy'n fwy na'r swm y mae'n gymwys i'w gael;
(b) os yw'r swm sydd i'w dynnu i ffwrdd yn fwy na'r swm o fenthyciad at gostau byw sydd ar ôl i'w dalu, gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim;
(c) gellir adennill unrhyw ordal yn unol â rheoliad 60.
60 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordal o grant neu fenthyciad at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Rhaid i fyfyriwr cymwys, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo wneud hynny, ad-dalu unrhyw swm a delir i'r myfyriwr o dan Ran 5 neu 6 ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na'r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth arno o dan Ran 5 neu 6.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adennill gordal o unrhyw grant at gostau byw a chostau eraill onid yw o'r farn nad yw'n briodol iddo wneud hynny.
(4) Mae taliad o unrhyw grant at gostau byw a chostau eraill a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordal os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.
(5) Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (6) neu (7), mae gordal o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.
(6) Yr amgylchiadau yw—
(a) mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr cymwys;
(b) mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben neu fe'i terfynir o dan reoliad 6 ar ôl y dyddiad perthnasol; ac
(c) nid yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn i'w gyfnod cymhwystra ddod i ben neu cyn iddo gael ei derfynu.
(7) Yr amgylchiadau yw—
(a) mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys yn dod i ben neu fe'i terfynir o dan reoliad 6 ar ôl y dyddiad perthnasol; a
(b) gwneir taliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben neu iddo gael ei derfynu.
(8) Os oes gordal o grant at gostau byw myfyrwyr anabl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordal os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny.
(9) Caniateir adennill unrhyw ordal o unrhyw grant o dan Ran 5 ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau —
(a) drwy dynnu i ffwrdd y gordal o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b) drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordal ag sydd ar gael iddo.
(10) Caniateir adennill unrhyw ordal o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd os ym marn y Cynulliad Cenedlaethol —
(a) bod y gordal wedi digwydd o ganlyniad i fethiant ar ran y myfyriwr i ddarparu'n brydlon wybodaeth a allai effeithio ar b'un a yw'n gymwys ai peidio i gael benthyciad neu ar y swm o fenthyciad y mae'n gymwys i'w gael; neu
(b) bod unrhyw wybodaeth y mae'r myfyriwr wedi'i ddarparu yn anghywir mewn manylyn perthnasol; neu
(c) bod y myfyriwr wedi methu â darparu gwybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.
(11) Pan fo modd adennill gordal o fenthyciad at gostau byw yn unol â pharagraff (4), caniateir ei adennill ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau —
(a) drwy dynnu i ffwrdd y gordal o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b) drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordal ag sydd ar gael iddo.
(12) Pan na fo modd adennill gordal o dan baragraff (4), caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu i ffwrdd y gordal o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o'r Ddeddf.
(13) Yn y rheoliad hwn “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
61 

(1) Yn y Rhan hon—
(a) ystyr “cadarnhad o bresenoldeb” (“attendance confirmation”) yw—
(i) cadarnhad gan y sefydliad fod y myfyriwr wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd—(aa) pan fo'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf;(bb) pan fo gan y myfyriwr anabledd; ac(cc) pan fo'r myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs ond nad yw'n mynychu'r cwrs (ni waeth a yw'r rheswm am beidio â mynychu'n ymwneud â'i anabledd ai peidio);
(ii) cadarnhad gan y sefydliad fod y myfyriwr wedi ymgyflwyno yn y sefydliad ac wedi dechrau mynychu'r cwrs—(aa) pan fo'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf;(bb) pan na fo'r myfyriwr wedi cael ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad; ac(cc) pan na fo is-baragraff (i)(cc) yn gymwys;
(iii) cadarnhad gan y sefydliad fod y myfyriwr wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd—(aa) pan fo'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig a hynny heb fod am y tro cyntaf; neu(bb) pan fo'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf ar ôl iddo gael ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o gwrs arall yn yr un sefydliad;
(b) ystyr “cyfnod talu” (“payment period”) yw cyfnod y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn talu mewn perthynas ag ef y cymorth perthnasol o dan Ran 5 neu Ran 6 neu y byddai wedi talu'r cyfryw gymorth pe na bai cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys wedi dod i ben.
RHAN 11
62 

(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi.
(2) Mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig —
(a) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wrth iddo asesu cais y myfyriwr am gymorth yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a
(b) os nad yw'r person wedi'i hepgor gan baragraff (3).
(3) Nid yw person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys —
(a) os rhoddwyd neu os talwyd i'r person hwnnw mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs rhan-amser —
(i) bwrsari gofal iechyd p'un a yw swm y bwrsari hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person neu beidio;
(ii) unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992; neu
(iii) lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person hwnnw neu beidio;
(b) os yw'r person hwnnw wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c) os yw'r person hwnnw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;
(ch) os yw'r person hwnnw, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth; neu
(d) yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw'n garcharor sy'n bwrw dedfryd o gaethiwed.
(4) Nid yw paragraff (3)(d) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn mynd i'r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu'n cael ei ryddhau o'r carchar ar ôl bwrw dedfryd o'r fath.
(5) At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(6) Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud —
(a) cyn 25 Medi 1991, a
(b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y bydd paragraff 3(c) yn gymwys.
(7) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 65(1)(b) neu reoliad 66 os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.
(8) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth —
(a) o dan reoliad 65(1)(a) oni bai ei fod yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig yng Nghymru neu Loegr; neu
(b) o dan reoliad 65(1)(b) neu 66 oni bai ei fod yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig yn y Deyrnas Unedig.
(9) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 65 os yw wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser am gyfanswm o wyth mlynedd academaidd a'i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (10).
(10) Y benthyciadau a'r grantiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) yw —
(a) benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi'i roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b) benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi'i roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser gan yr Adran Cyflogi a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998; neu
(c) benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser a roddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980.
(11) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 65 os oes ganddo radd gyntaf oddi wrth sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.
(12) At ddibenion paragraff (11), nid yw gradd yn cael ei thrin fel gradd gyntaf —
(a) os yw'n radd (heblaw gradd anrhydedd) sydd wedi'i dyfarnu i fyfyriwr rhan-amser cymwys sydd wedi cwblhau'r modiwlau, yr arholiadau neu'r dulliau asesu eraill sy'n angenrheidiol at gwrs ei radd gyntaf;
(b) os ymgymerwyd â'r cwrs mewn sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig; ac
(c) os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i gofrestru i barhau â'r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ar ôl i'w radd gael ei dyfarnu er mwyn sicrhau gradd anrhydedd pan gwblheir y modiwlau, yr arholiadau neu'r dulliau asesu eraill sy'n angenrheidiol.
(13) Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (15) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —
(a) gall myfyriwr fod â hawl i gael grant mewn perthynas â ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
(b) nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(14) Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e) neu (f) o baragraff (15) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —
(a) gall myfyriwr fod â hawl i gael grant at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a
(b) nid oes grant at lyfrau, teithio a gwariant arall ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(15) Y digwyddiadau yw —
(a) bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs rhan-amser dynodedig;
(b) bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(c) bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;
(ch) bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;
(d) bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(dd) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(e) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(f) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir.
(16) Er gwaethaf paragraff (2), mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (17) neu (18).
(17) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—
(a) bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs rhan-amser dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) nad yw statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i derfynu.
(18) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—
(a) bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu o'r blaen fod y person —
(i) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig; neu
(ii) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig heblaw'r cwrs rhan-amser dynodedig presennol;
(b) bod statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(c) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (a); ac
(ch) nad yw statws y person fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.
(19) Os bydd—
(a) y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs rhan-amser presennol; a
(b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(20) Os bydd—
(a) y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs rhan-amser presennol; a
(b) y cyfnod y caniateir i'r person â hawl i ddod i mewn neu i aros aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ac, ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd honno, os na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(21) Nid yw paragraffau (19) a (20) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys neu'n fyfyriwr cymwys, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.
(22) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl, ar unrhyw un adeg, i gael cymorth—
(a) at fwy nag un cwrs rhan-amser dynodedig;
(b) at gwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig;
(c) at gwrs rhan-amser dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig.
63 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae cwrs rhan-amser yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 62 —
(a) os yw'n gwrs a grybwyllir yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon;
(b) os yw'n para am o leiaf un flwyddyn academaidd;
(c) os yw fel arfer yn bosibl gorffen y cwrs mewn dim mwy na dwywaith y cyfnod y mae fel arfer ei angen i gwblhau cwrs amser-llawn cyfatebol;
(ch) os yw'n cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac
(d) nad yw wedi'i ddynodi gan neu o dan reoliad 5.
(2) Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs rhan-amser dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.
(3) Nid yw cwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn gwrs rhan-amser dynodedig.
(4) At ddibenion paragraff (1) —
(a) mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;
(b) bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac
(c) ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
(5) At ddibenion paragraff (1)(c)—
(a) ystyr “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r cwrs dan sylw;
(b) ystyr “cyfnod sy'n ofynnol fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw—
(i) os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, y cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr amser-llawn safonol i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol pe rhoddid iddo 120 o bwyntiau credyd ym mhob blwyddyn academaidd;
(ii) os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, y cyfnod y byddai myfyriwr amser-llawn safonol yn ei gymryd i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;
(c) “myfyriwr amser-llawn safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr y cymerir—
(i) ei fod wedi dechrau cwrs amser-llawn cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs o dan sylw;
(ii) nad yw wedi'i esgusodi rhag dilyn unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn cyfatebol;
(iii) nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn cyfatebol; a
(iv) nad yw wedi bod yn absennol o'r cwrs amser-llawn cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.
(6) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 62(1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi gan baragraff (1).
64 

(1) Mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig hyd onid yw'r statws yn dod i ben yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliadau 4 a 6.
(2) Y cyfnod y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw ei statws yw'r “cyfnod cymhwystra”.
(3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”) ym mharagraff (2) yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau ei gwrs rhan-amser dynodedig ynddi.
(4) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr rhan-amser cymwys —
(a) yn tynnu'n ôl o'i gwrs rhan-amser dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu lle na fydd yn trosglwyddo neu yn trosi ei statws o dan reoliad 69 neu 70; neu
(b) yn rhoi'r gorau i'w gwrs rhan-amser dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(5) Mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd berthnasol pan na all y myfyriwr rhan-amser cymwys gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 69(1)(c).
(6) At ddibenion paragraff (5) ystyr “blwyddyn academaidd berthnasol” (“relevant academic year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae'n dod yn amhosibl i'r myfyriwr yn ystod y flwyddyn neu ar ei diwedd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 69(1)(c) hyd yn oed os bydd yn dwysáu ei astudiaethau.
(7) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(8) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr rhan-amser cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau —
(a) terfynu'r cyfnod cymhwystra;
(b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth;
(c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordal y caniateir ei adennill o dan reoliad 73.
(9) Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben—
(a) cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau'r cwrs rhan-amser dynodedig ynddi; a
(b) ac eithrio o dan baragraff (5),
caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu, neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y mae'n penderfynu arno.
65 

(1) At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw —
(a) grant mewn perthynas â ffioedd nad yw'n fwy na'r lleiaf o'r symiau canlynol —
(i) y grant sylfaenol, a
(ii) y “ffioedd gwirioneddol” (“actual fees”), sef swm y ffioedd a godir mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs rhan-amser dynodedig; a
(b) grant nad yw'n fwy na £1,000 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â'r cwrs rhan-amser dynodedig.
(2) Mae'r grant sylfaenol yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw'r astudio.
 Cyfrifir pa mor ddwys yw'r astudio fel a ganlyn a'i fynegi fel canranPTFT×100os
 PT yw nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu uned arall sydd i'w dyfarnu i'r myfyriwr rhan-amser cymwys gan yr awdurdod academaidd os bydd yn cwblhau'n llwyddiannus y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi;
 FT yw—
(a) os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, 120;
(b) os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu uned arall y byddai'n ofynnol i fyfyriwr amser-llawn safonol eu hennill ym mhob blwyddyn academaidd er mwyn iddo gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol o fewn y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs hwnnw.
(3) At ddibenion paragraff (2)—
(a) mae “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) a “myfyriwr amser-llawn safonol” (“standard full-time student”) i'w dehongli; ac
(b) mae “y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“the period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) i'w gyfrifo
yn unol â rheoliad 70.
(4) Y “grant sylfaenol” (“basic grant”) yw —
(a) £605 os yw dwysedd yr astudio yn llai na 60 y cant (“lefel 1”);
(b) £725 os yw dwysedd yr astudio yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant (“lefel 2”);
(c) £905 os yw dwysedd yr astudio yn 75 y cant neu'n fwy (“lefel 3”).
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), mae swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn —
(a) mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ei bartner hawlogaeth ar ddyddiad ei gais —
(i) o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 i gael cymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor; neu
(ii) o dan Ran 1 o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995 i gael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 i gael lwfans y fargen newydd;
(b) os yw'r incwm perthnasol yn llai na £15,715, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;
(c) os yw'r incwm perthnasol yn £15,715, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai nag uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a);
(ch) os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £15,715 ond yn llai na £23,700, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw'r swm a bennir yn unol â pharagraff (6);
(d) os yw'r incwm perthnasol yn £23,700, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw £50;
(dd) os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £23,700 ond yn llai na £24,315, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ac nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a);
(e) os yw'r incwm perthnasol yn £24,315 neu fwy ond yn llai na £26,260, nid oes cymorth ar gael o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw'r swm sy'n weddill ar ôl didynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) £1 am bob £2.00 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £24,315;
(f) os yw'r incwm perthnasol yn £26,260, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw £50;
(ff) os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £26,260, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1).
(6) Os yw paragraff (5)(ch) yn gymwys, pennir swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) drwy ddidynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) un o'r symiau canlynol —
(a) £50 plws £1 arall am bob £15.92, £12.79 neu £9.94 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £15,715 yn ôl a yw dwysedd yr astudio ar lefel 1, 2 neu 3, yn y drefn honno; neu
(b) os yw'r grant sylfaenol yn fwy na'r ffioedd gwirioneddol, swm sy'n hafal i'r hyn sy'n weddill ar ôl didynnu o'r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng y grant sylfaenol a'r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn Rhif negyddol ac os felly mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) yn daladwy).
(7) At ddibenion y rheoliad hwn —
(a) ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;
(b) ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;
(c) ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;
(ch) ystyr “y flwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi;
(d) ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw geisiadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;
(dd) mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (8);
(e) yn ddarostyngedig i is-baragraff (f), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol —
(i) priod myfyriwr rhan-amser cymwys;
(ii) partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi ac os dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(f) nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (e) yn cael ei drin fel partner —
(i) os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhoi'r gorau i fyw gyda'i gilydd fel arfer; neu
(ii) os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser;
(ff) mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;
(8) At ddibenion y rheoliad hwn —
(a) yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), mae incwm perthnasol myfyriwr rhan-amser cymwys yn hafal i'w adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai —
(i) £2,000 mewn perthynas â'i bartner;
(ii) £2,000 mewn perthynas â'r unig blentyn neu'r plentyn hynaf sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner; a
(iii) £1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner;
(b) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na'i adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu fwy, caiff asesu adnoddau ariannol y myfyriwr hwnnw o dan is-baragraff (a) drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol;
(c) ystyr adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys mewn blwyddyn ariannol yw cyfanswm ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â chyfanswm yr incwm am y flwyddyn honno sydd gan unrhyw berson sydd ar ddyddiad y cais am gymorth yn bartner i'r myfyriwr.
(9) Yn y rheoliad hwn ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig a bennir” (“specified designated part-time course”) yw'r cwrs y mae'r person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs rhan-amser dynodedig presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad o'r statws hwnnw neu fwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o gwrs rhan-amser (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir yw'r cwrs cychwynnol.
66 

(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl yn unol â'r Rhan hon i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei ysgwyddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.
(2) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol —
(a) £9,325 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
(b) £4,910 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;
(c) y gwariant ychwanegol sy'n cael ei ysgwyddo —
(i) yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad;
(ii) yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad dros y môr neu er mwyn bod yn bresennol yn Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis;
(ch) £1,230 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.
67 

(1) Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs rhan-amser dynodedig drwy gwblhau ffurflen gais ar y cyfryw ffurf ag y byddo'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani a'i chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid anfon gyda'r cais—
(a) datganiad a gwblhawyd gan yr awdurdod academaidd; a
(b) y cyfryw ddogfennaeth ychwanegol ag y byddo'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani.
(3) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas â hi.
(4) Nid yw'r rheol gyffredinol ym mharagraff (2) yn gymwys —
(a) os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (15) o reoliad 62 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda'r dyddiad y mae'r digwyddiad yn digwydd;
(b) os yw'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan reoliad 66, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol; neu
(c) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddo.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth neu beidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
68 

(1) Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r awdurdod academaidd priodol, ar gais y ceisydd, gwblhau'r datganiad y cyfeirir ato yn rheoliad 67 (2) ar y ffurf y gofynnir amdani gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Nid yw'n ofynnol i awdurdod academaidd gwblhau datganiad os nad yw'n gallu rhoi'r cadarnhad gofynnol.
(4) Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—
(a) pan fo'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r cwrs rhan-amser dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—
(i) sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
(ii) sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf ddwy o wythnosau o'r cwrs rhan-amser dynodedig;
(b) mewn unrhyw achos arall, datganiad—
(i) sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
(ii) sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—
(a) swm y ffioedd a godir mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi;
(b) pa mor ddwys yw'r astudio; a
(c) nodyn ardystio gan yr awdurdod academaidd ei fod o'r farn—
(i) mai cwrs rhan-amser dynodedig yw'r cwrs;
(ii) y bydd yn bosibl i'r ceisydd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 63(5)(b) .
(6) At ddibenion paragraff (5)(c)(ii) rhaid i'r awdurdod academaidd roi sylw i—
(a) unrhyw gynnydd ym mha mor ddwys y byddai angen astudio er mwyn i'r ceisydd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 63(5)(b);
(b) unrhyw rannau o'r cwrs y mae wedi bod yn ofynnol i'r ceisydd eu hailadrodd.
69 

(1) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys i'r cwrs hwnnw —
(a) os caiff gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny;
(b) os yw wedi'i fodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac
(c) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.
(2) Y seiliau trosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —
(a) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig arall yn y sefydliad;
(b) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn sefydliad arall; neu
(c) ar ôl iddo ddechrau cwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.
(5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno wneud cais am grant arall o dan reoliad 65(1)(b) neu reoliad 66 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.
(6) Os yw myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 65(1)(a) mewn perthynas â'r blynyddoedd academaidd y mae'n trosglwyddo iddynt neu oddi wrthynt yw swm y cymorth at ffioedd sydd ar gael mewn cysylltiad â'r cwrs mwyaf dwys o ran ei astudio fel y diffinnir yn rheoliad 65.
70 

(1) Os yw myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo —
(a) os caiff gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny; a
(b) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.
(2) Os yw'r myfyriwr, cyn cwblhau'r cwrs dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc neu bynciau sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 63(1)(b) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr yn para am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dynodedig y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi arno.
(3) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) —
(a) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr o dan reoliad 24 mewn rhandaliadau o bryd i'w gilydd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;
(b) mae uchafswm y grant y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 66 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr o'r fath mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno;
(c) os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr o dan reoliad 24 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo yn unol â rheoliad 66 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 24, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac
(ch) os oedd y myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais, am fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu'r uchafswm wedi'i gynyddu yr oedd ganddo hawlogaeth i'w gael, caiff wneud cais am y benthyciad hwnnw neu'r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) mae uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad hwnnw am y flwyddyn academaidd yn cael ei ostwng yn unol â'r paragraff hwnnw.
(4) Os yw'r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hi, mae uchafswm y benthyciad neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad (yn ôl fel y digwydd) yn cael ei ostwng o ddau draean, ac os yw'r cais yn cael ei wneud yn ystod ail chwarter y flwyddyn honno mae'r swm hwnnw'n cael ei ostwng o un traean.
(5) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo —
(a) os caiff gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a
(b) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.
(6) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5) —
(a) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr yn unol â rheoliad 66 mewn rhandaliadau o bryd i'w gilydd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys;
(b) rhaid i unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ynddi gael ei anwybyddu wrth bennu swm y cymorth y gall fod ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;
(c) mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 7 neu 8 y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, mewn cysylltiad â chwrs dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr o'r fath mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno; ac
(ch) os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr yn unol â rheoliad 66 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo o dan reoliad 24 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 66 ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.
71 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan reoliad 66 ac o dan reoliad 65(1)(b) a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol ac wrth arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn fe gaiff, os nad oes modd gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr, wneud asesiad dros dro o'r cymorth sy'n daladwy.
(2) Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr rhan-amser cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, beidio â gwneud unrhyw daliad grant at lyfrau, teithio a gwariant arall neu'r grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 cyn i'r datganiad y cyfeirir ato yn rheoliad 67(2) ddod i law onid oes eithriad yn gymwys.
(4) Mae eithriad yn gymwys—
(a) os yw grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 yn daladwy ac yn yr achos hwnnw caniateir talu'r grant arbennig hwnnw cyn i'r datganiad ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol;
(b) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu y byddai'n briodol o achos amgylchiadau eithriadol iddo wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.
72 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant mewn perthynas â ffioedd y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael o dan reoliad 65(1)(a) i'r awdurdod academaidd priodol ar ôl i gais dilys am daliad ddod i law.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau y mae'n credu eu bod yn addas.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y mae'n credu eu bod yn briodol.
73 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordal grant mewn perthynas â ffioedd o dan reoliad 65(1)(a) oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawl i'w gael o dan y Rhan hon.
(3) Caniateir i unrhyw ordal grant o dan y Rhan hon gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau —
(a) drwy dynnu'r gordal o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b) drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordal sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Mae taliad o grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordal os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.
(5) Y “dyddiad perthnasol (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
(6) Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (7) neu (8), ceir gordal o grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.
(7) Yr amgylchiadau yw—
(a) mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant myfyriwr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr rhan-amser cymwys;
(b) mae cyfnod cymhwystra myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a
(c) nid yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.
(8) Yr amgylchiadau yw—
(a) mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol;
(b) gwneir taliad grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben.
(9) Pan fo gordal o grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordal os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny.
RHAN 12
74 

(1) Mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl, yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi, i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol iddo ei ysgwyddo mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.
(2) Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig os yw'r person hwnnw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3) ac nad yw wedi'i hepgor gan baragraff (4).
(3) Yr amodau yw —
(a) bod y Cynulliad Cenedlaethol, wrth asesu cais person am gymorth, wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs ôl-radd dynodedig fod y person yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a
(b) bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r person ysgwyddo gwariant ychwanegol mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs oherwydd anabledd sydd ganddo.
(4) Nid yw person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys —
(a) os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs —
(i) bwrsari gofal iechyd;
(ii) unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992;
(iii) unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan Gyngor Ymchwil;
(iv) unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan ei sefydliad sy'n cynnwys unrhyw daliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a dynnwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu
(v) unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 sy'n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a dynnwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu
(b) os yw wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c) os yw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;
(ch) os yw'r person hwnnw, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(5) At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wneir o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau myfyrwyr.
(6) Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud —
(a) cyn 25 Medi 1991; a
(b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y bydd paragraff 4(c) yn gymwys.
(7) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.
(8) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon oni bai ei fod yn ymgymryd â'i gwrs yn y Deyrnas Unedig.
(9) Er gwaethaf paragraffau (3)(a) a (4), mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3)(b) a pharagraff (10) neu (11)—
(10) Yr amodau yw —
(a) bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs ôl-radd dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf ac nad yw'r statws hwnnw wedi dod i ben neu wedi'i derfynu;
(b) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ôl-radd dynodedig presennol; ac
(c) nad yw statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i derfynu.
(11) Yr amodau yw —
(a) bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu o'r blaen fod y person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig heblaw'r cwrs ôl-radd dynodedig presennol;
(b) bod statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(c) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs yn is-baragraff (a); ac
(ch) nad yw statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i derfynu.
(12) Os bydd—
(a) y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs ôl-radd presennol; a
(b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(13) Os bydd—
(a) y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs ôl-radd presennol; a
(b) y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i'r person â hawl i ddod i mewn neu i aros aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben, ac na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(14) Nid yw paragraffau (12) a (13) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau'r cwrs y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef ei fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn 1 Medi 2007.
(15) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol —
(a) mwy nag un cwrs ôl-radd dynodedig;
(b) cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dynodedig;
(c) cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig.
(16) Os digwydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (17) yn ystod blwyddyn academaidd—
(a) caiff myfyriwr fod yn gymwys i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a
(b) nid oes grant o'r math sydd ar gael o dan y Rhan hon ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd yn dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(17) Y digwyddiadau yw—
(a) mae cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;
(b) cydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu mae'n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(c) mae'r wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn un o'i dinasyddion yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd pan fo'r myfyriwr wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd trwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(ch) mae'r myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;
(d) daw'r myfyriwr yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Ran 2 o Atodlen 1; neu
(dd) daw'r myfyriwr yn blentyn i un o ddinasyddion y Swistir.
75 
Mae cwrs ôl-radd yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 74 —
(a) os yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu'n uwch i gael mynediad iddo fel rheol;
(b) os yw'n gwrs —
(i) sy'n para am o leiaf un flwyddyn academaidd; a
(ii) yn achos cwrs rhan-amser, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau'r cwrs mewn nid mwy na dwywaith y cyfnod sydd fel arfer yn ofynnol ar gyfer cwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;
(c) os yw'n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac
(ch) nad yw'n gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon neu gwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.
(2) At ddibenion paragraff (1) —
(a) mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;
(b) bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac
(c) ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
(3) At ddibenion paragraff (1)(b)(ii)—
(a) ystyr “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r cwrs o dan sylw;
(b) ystyr y “ cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw—
(i) os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, y cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr amser-llawn safonol i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol pe rhoddid iddo 120 o bwyntiau credyd ym mhob blwyddyn academaidd;
(ii) os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, y cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr amser-llawn safonol i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;
(4) ystyr “myfyriwr amser-llawn safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un —
(i) sydd wedi dechrau'r cwrs amser-llawn cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs o dan sylw;
(ii) nad yw wedi'i esgusodi o unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn gyfatebol;
(iii) nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn cyfatebol; ac
(iv) nad yw wedi bod yn absennol o'r cwrs amser-llawn cyfatebol heblaw yn ystod gwyliau.
(5) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 74, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).
76 

(1) Mae myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys hyd oni therfynir y statws yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliadau 4 a 6.
(2) Y cyfnod y bydd myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw'r statws yw'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).
(3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig.
(4) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys —
(a) yn tynnu'n ôl o'i gwrs ôl-radd dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosglwyddo neu lle na fydd yn trosglwyddo ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i gwrs arall o dan reoliad 77; neu
(b) yn rhoi'r gorau i'w gwrs ôl-radd dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(6) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau —
(a) terfynu'r cyfnod cymhwystra;
(b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant;
(c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordal y caniateir ei adennill o dan reoliad 82.
(7) Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar y dyddiad y daw'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig i ben neu cyn y dyddiad hwnnw, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnodau ag y bydd yn penderfynu arnynt.
77 

(1) Os yw myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo i gwrs ôl-radd arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i'r cwrs hwnnw —
(a) os caiff gais oddi wrth y myfyriwr ôl-raddedig cymwys am wneud hynny;
(b) os yw wedi'i fodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac
(c) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.
(2) Y seiliau trosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —
(a) bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig arall yn y sefydliad; neu
(b) bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn sefydliad arall gyda chydsyniad awdurdod academaidd y sefydliad hwnnw.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau i gael, mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.
(5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno wneud cais am grant arall o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.
78 

(1) Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am grant o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs ôl-radd dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.
(2) Rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael grant a swm y grant sy'n daladwy, os oes grant yn daladwy o gwbl.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd
(a) pa un a oes gan y ceisydd hawl i gael grant neu beidio;
(b) os oes gan y ceisydd hawl, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl; ac
(c) sut y dyrennir y swm hwnnw rhwng y mathau o wariant cymwys.
79 
Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.
80 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), grant o dan y Rhan hon yw unrhyw swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, i gynorthwyo gydag un neu fwy o fathau o wariant cymwys.
(2) Rhaid i'r grant beidio â bod yn fwy na £5,920 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.
(3) At ddibenion y Rhan hon, y canlynol yw'r “mathau o wariant cymwys” —
(a) gwariant ar gynorthwyydd nad yw'n gynorthwyydd meddygol;
(b) gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol; a
(c) gwariant ychwanegol a dynnir—
(i) o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben mynychu sefydliad;
(ii) o fewn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi at ddiben mynychu, fel rhan o'r cwrs, unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion mynychu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis.
81 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grant y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael o dan y Rhan hon a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol ac wrth arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn fe gaiff wneud taliadau dros dro hyd nes y ceir cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael.
(2) Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.
82 

(1) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon.
(2) Caniateir i unrhyw ordal grant o dan y Rhan hon gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau —
(a) drwy dynnu'r gordal o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b) drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordal sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Mae taliad grant o dan y Rhan hon a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordal os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.
(4) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
(5) Yn yr amgylchiadau ym mharagraffau (6) a (7), mae gordal o grant o dan y Rhan hon onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.
(6) Yr amgylchiadau yw—
(a) mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant o dan y Rhan hon i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr ôl-raddedig cymwys;
(b) mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac
(c) nid yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.
(7) Yr amgylchiadau yw—
(a) mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a
(b) gwneir taliad grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.
(8) Pan fo gordal o grant o dan y Rhan hon, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordal os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
ATODLEN 1
Rheoliadau 4, 52 ac Atodlen 4, 62 a 74
RHAN 1
1 

(1) At ddibenion yr Atodlen hon —
 ystyr “AEE” (“EEA”) yw Ardal Economaidd Ewropeaidd sef y Gymuned Ewropeaidd, Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Teyrnas Norwy a Thywysogaeth Liechtenstein;
 ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) yw —
(a) o ran gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunan-gyflogedig ffin yr AEE neu berson hunan-gyflogedig o'r AEE —
(i) ei briod neu ei bartner sifil;
(ii) ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu
(iii) perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
(b) o ran person cyflogedig o'r Swistir, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunan-gyflogedig ffin y Swistir neu berson hunan-gyflogedig o'r Swistir—
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;
(c) o ran gwladolyn o'r Gymuned Europeaidd sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 —
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd —
(aa) o dan 21 oed; neu
(bb) yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;
(ch) o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 —
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd —
(aa) o dan 21 oed; neu
(bb) yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;
(iii) perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
(d) o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9 —
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd —
(aa) o dan 21 oed; neu
(bb) yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;
 ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill ran, a Chydffederaswin y Swistir, o'r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
 ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd;
 ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE ” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr, heblaw gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
 ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE —
(e) sy'n weithiwr yng Nghymru; a
(f) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
 ystyr “gwladolyn o'r Deyrnas Unedig” (“United Kingdom national”) yw person sydd i'w drin fel gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Cytuniadau'r Gymuned;
 ystyr “gwladolyn o'r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth yn yr AEE heblaw'r Deyrnas Unedig;
 ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;
 ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
 ystyr “person cyflogedig o'r Swistir” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn o'r Swistir sy'n berson cyflogedig, heblaw person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
 ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn o'r Swistir sydd —
(a) yn berson cyflogedig yng Nghymru; a
(b) yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
 ystyr “person hunan-gyflogedig” (“self-employed person”) yw —
(c) o ran gwladolyn o'r AEE, person sy'n hunan-gyflogedig o fewn ystyr erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd; neu
(d) o ran gwladolyn o'r Swistir, person sy'n berson hunan-gyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
 ystyr “person hunan-gyflogedig o'r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunan-gyflogedig, heblaw person hunan-gyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
 ystyr “person hunan-gyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sydd —
(a) yn berson hunan-gyflogedig yng Nghymru; a
(b) yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
 ystyr “person hunan-gyflogedig o'r Swistir” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn o'r Swistir sy'n berson hunan-gyflogedig, heblaw person hunan-gyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
 ystyr “person hunan-gyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r Swistir sydd —
(a) yn berson hunan-gyflogedig yng Nghymru; a
(b) yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth EEA heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth EEA honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
 mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971.
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â gofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i'w ddehongli yn unol â hynny.
(3) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i gael ei drin fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir pe bai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod —
(a) y person hwnnw;
(b) ei briod neu ei bartner sifil;
(c) ei riant; neu
(ch) yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn ef neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn ôl fel y digwydd, y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir.
(4) At ddibenion is-baragraff (3), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn cynnwys —
(a) yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu'r llu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r cyfryw luoedd; a
(b) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth EEA neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir fel aelodau o'r cyfryw luoedd.
(5) At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal —
(a) nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd neu'r AEE; ond
(b) sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall, neu o'r ddwy, o'r ardaloedd hyn,
i'w hystyried fel pe bai wastad wedi bod yn rhan o'r AEE.
RHAN 2
2 

(1) Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs —
(a) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig heblaw am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b) yn preswylio fel arfer yng Nghymru;
(c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).
3 
Person —
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) mewn achos lle'r oedd y preswylio y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
4 

(1) Person —
(a) sy'n ffoadur;
(b) sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers iddo gael ei gydnabod yn ffoadur; ac
(c) sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) sy'n briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur;
(b) oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;
(c) sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly ers iddo gael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac
(ch) sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a) sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;
(b) ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches, oedd yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;
(c) oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;
(ch) sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly ers iddo gael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a
(d) sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
5 

(1) Person—
(a) â chaniatâd I ddod i mewn neu i aros—
(b) sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(c) sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) sy'n briod neu'n bartner sifil i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b) oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw ei gais am loches;
(c) sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a) sy'n blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy'n blentyn i briod neu i bartner sifil person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b) oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâ d i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;
(c) oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches;
(ch) sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
6 

(1) Person —
(a) sydd —
(i) yn weithiwr mudol o'r EEA neu yn berson hunan-gyflogedig o'r EEA;
(ii) yn berson cyflogedig o'r Swistir neu'n berson hunan-gyflogedig o'r Swistir;
(iii) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);
(iv) yn weithiwr ffin yr EEA neu yn berson hunan-gyflogedig ffin yr EEA;
(v) yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu'n berson hunan-gyflogedig ffin y Swistir; neu
(vi) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);
(b) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn syrthio o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).
7 
Person sydd —
(a) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar ryddid gweithwyr i symud, fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE .
8 

(1) Person —
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(b) sydd wedi ymadael â'r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(c) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau;
(ch) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr EEA neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson sydd â hawl i breswylio'n barhaol sydd yn y ddau achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir y mae'n wladolyn iddi neu y mae'r person y mae'n aelod o deulu gwladolyn iddi mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.
9 

(1) Person —
(a) sydd naill ai —
(i) yn wladolyn o'r GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu
(ii) yn aelod o deulu person o'r fath;
(b) sydd —
(i) yn mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru; neu
(ii) yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;
(c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).
(3) Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu gwladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.
10 

(1) Person —
(a) sy'n wladolyn o'r GE heblaw gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r GE heblaw gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.
11 
Person —
(a) sy'n blentyn i wladolyn o'r Swistir y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
ATODLEN 2
Rheoliadau 5 a 63
1 
Cwrs gradd gyntaf.
2 
Cwrs ar gyfer y Ddiploma Addysg Uwch.
3 
Cwrs ar gyfer Diploma Genedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol —
(a) Cyngor Addysg Busnes a Thechnegwyr; neu
(b) Awdurdod Cymwysterau'r Alban.
4 
Cwrs ar gyfer tystysgrif Addysg Uwch
5 
Cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.
6 
Cwrs o hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymuned.
7 
Cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy'n uwch na'r canlynol —
(a) yr arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu'r arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu
(b) yr arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Genedlaethol y naill neu'r llall o'r cyrff a grybwyllwyd ym mharagraff 3,nad yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.
8 
Cwrs sy'n darparu addysg (boed i baratoi at arholiad neu beidio) y mae ei safon —
(a) yn uwch na safon cyrsiau sy'n darparu addysg i baratoi at unrhyw un o'r arholiadau a grybwyllwyd ym mharagraff 7(a) neu (b) uchod; ond
(b) nad yw'n uwch na safon cwrs gradd gyntaf,ac nad oes angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.
ATODLEN 3
Rheoliadau 11, 68 a 79
1 
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod arno ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.
2 
Rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi gwybod ar unwaith i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhoi'r manylion iddo os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd —
(a) ei fod yn tynnu'n ôl o'i gwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno;
(b) ei fod yn trosglwyddo i unrhyw gwrs arall yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol;
(c) ei fod yn rhoi'r gorau i ymgymryd â'i gwrs ac nad yw'n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw'n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
(ch) ei fod yn absennol o'i gwrs am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
(d) bod y mis ar gyfer dechrau'r cwrs neu ei gwblhau yn newid;
(dd) bod ei gyfeiriad neu ei rif ffôn gartref neu yn ystod y tymor yn newid.
3 
Rhaid i'r wybodaeth a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn fod yn y ffurf y gofynnir amdani gan y Cynulliad Cenedlaethol ac, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, caniateir i lofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol fodloni'r gofyniad hwnnw.
ATODLEN 4
Rheoliad 52
1 
Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs cymhwysol yn unol â'r Atodlen hon.
2 
Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg os yw'n bodloni'r amodau canlynol—
(a) ei fod yn fyfyriwr cymwys na chafodd ei wahardd rhag bod â hawl gan baragraff 3;
(b) bod ganddo radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig;
(c) ei fod yn cymryd cwrs cymhwysol—
(i) sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac y bydd y myfyriwr yn parhau i'w fynychu ar ôl 31 Awst 2007; neu
(ii) sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2007;
(ch) ei fod yn aelod o goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu'n aelod o goleg ym Mhrifysgol Caergrawnt;
(d) ei fod o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cymhwysol; ac
(e) nad oes dim o'r amgylchiadau yn rheoliad 4(3) yn gymwys iddo.
3 
Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dod o fewn paragraff 9 o Ran 1 Atodlen 1 hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg o dan y Rheoliadau hyn os yw'n preswylio fel arfer yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
4 
Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff 5 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —
(a) gall myfyriwr gael yr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg yn unol â'r Atodlen hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
(b) nid oes benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
5 
Y digwyddiadau yw —
(a) bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b) bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;
(c) bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;
(ch) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(d) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;
(dd) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir.
6 
Mae benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd safonol ar y cwrs cymhwysol ac mewn perthynas ag un flwyddyn academaidd ar y cwrs cymhwysol nad yw'n flwyddyn academaidd safonol.
7 
Os caniateir i fyfyriwr cymhwysol astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o'r cwrs cymhwysol dros ddwy flwyddyn academaidd neu fwy, er mwyn penderfynu a oes gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg ar gyfer y blynyddoedd hynny, ymdrinnir â'r gyntaf o'r cyfryw flynyddoedd o astudio fel blwyddyn academaidd safonol ac ymdrinnir â'r blynyddoedd canlynol o'r fath fel blynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.
Yn yr Atodlen hon ystyr “blwyddyn academaidd safonol” (“standard academic year”) yw blwyddyn academaidd o'r cwrs cymhwysol y byddai person nad yw'n ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs ac a fyddai'n dechrau ar y cwrs ar yr un pwynt â'r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â hi.
8 

(1) Rhaid i swm y benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs cymhwysol beidio â bod yn fwy na swm sy'n hafal i'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan y myfyriwr i'w goleg neu i'w neuadd breifat barhaol mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.
(2) Os yw'r myfyriwr cymhwysol wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm sydd ar gael.
9 
Er gwaethaf rheoliad 8, os bydd myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo o un cwrs cymhwysol i gwrs cymhwysol arall—
(a) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymhwysol i'r cwrs arall ar gais y myfyriwr oni bai bod y cyfnod cymhwystra wedi dod i ben;
(b) os yw'r myfyriwr yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ar ôl gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg, telir y swm y gwnaed cais amdano i'r coleg neu'r neuadd breifat barhaol berthnasol mewn perthynas â'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo ar yr amod bod yr amodau ym mharagraff 11 wedi'u bodloni ac nad yw'n gallu sicrhau hawl i gael benthyciad arall at ffioedd coleg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno;
(c) os yw'r myfyriwr yn trosglwyddo ar ôl i'r benthyciad at ffioedd coleg gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, ni chaiff wneud cais am fenthyciad arall at ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs cymhwysol y mae'n trosglwyddo iddo.
10 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad at ffioedd coleg y mae gan fyfyriwr cymhwysol hawl i'w gael i'r coleg neu'r neuadd breifat barhaol y mae'r myfyriwr yn atebol i wneud y taliad iddo neu iddi.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad at ffioedd coleg mewn cyfandaliad unigol.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r benthyciad at ffioedd coleg—
(a) cyn ei fod wedi cael cais dilys am daliad oddi wrth y coleg neu'r neuadd breifat barhaol; a
(b) cyn bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.
(4) Mae'n ofynnol i goleg neu neuadd breifat barhaol anfon cadarnhad o bresenoldeb at y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw ffurf y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdani a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd nes ei fod wedi cael cadarnhad o bresenoldeb gan y coleg neu'r neuadd breifat berthnasol oni bai ei fod yn penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai'n briodol gwneud taliad heb gael cadarnhad o bresenoldeb. Yn y paragraff hwn mae i “cadarnhad o bresenoldeb” yr un ystyr ag yn rheoliad 53(20).
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â chwrs cymhwysol —
(a) os bydd y myfyriwr cymhwysol yn rhoi'r gorau i fynychu'r cwrs cyn i'r cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben; a
(b) os bydd y coleg neu'r neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau mynychu eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd coleg yn daladwy ar ei chyfer neu o gwbl.
11 
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordal benthyciad at ffioedd coleg oddi wrth y coleg neu'r neuadd breifat barhaol.
ATODLEN 5
Rheoliadau 16 a 53
1 
Yn yr Atodlen hon —
(a) ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;
(b) ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;
(c) ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;
(ch) ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;
(d) mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd”, (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;
(dd) ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 4 (yn achos myfyriwr cymwys), paragraff 5 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), paragraff 6 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff 7 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys newydd);
(e) ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), mewn perthynas â pharagraff 4, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae cais wedi'i wneud ar ei chyfer o dan reoliad 9 ac, mewn perthynas â pharagraff 5, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 5) â'r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell fel petai wedi'i gyfrifo at ddibenion —
(i) y Deddfau Treth Incwm;
(ii) deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu
(iii) os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth odani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5);
(f) mae i “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;
(g) ystyr “myfyriwr cymwys newydd” (“new eligible student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004;
(ng) ystyr “myfyriwr presennol” (“existing student”) yw myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys newydd;
(g) ystyr “myfyriwr sy'n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr cymwys sy'n rhiant i fyfyriwr cymwys;
(h) ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol —
(i) priod myfyriwr cymwys;
(ii) partner sifil myfyriwr cymwys;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil iddo os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(i) ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol heblaw rhiant arall i'r myfyriwr cymwys —
(i) priod rhiant myfyriwr cymwys;
(ii) partner sifil rhiant myfyriwr cymwys;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod iddo;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant;
(i) ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”), “mam” (“mother”) a “tad” (“father”) yn unol â hynny.
2 
Myfyriwr cymwys annibynnol yw myfyriwr cymwys ym mhob achos —
(a) lle mae'n 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;
(b) lle mae wedi bod yn briod neu lle mae mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;
(c) lle nad oes ganddo riant yn fyw;
(ch) lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni na ellir dod o hyd i'r naill neu'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt;
(d) lle nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;
(dd) pan yw wedi bod dan ofal awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 1989 a hynny drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn gorffen ar neu ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol o dan ofal neu reolaeth ei rieni;
(e) lle mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni naill ai —
(i) y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu
(ii) na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 8 neu 9;
(f) lle mae paragraff 5(9) yn gymwys a lle mae'r rhiant y barnodd y Cynulliad Cenedlaethol mai'r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);
(ff) lle mae'n aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai'r urdd honno;
(g) lle mae yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu
(ng) lle mae wedi'i gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn mae'n cael ei drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod —
(i) pan oedd yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);
(ii) pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;
(iii) pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau'r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn y budd-dal hwnnw;
(iv) pan oedd ganddo Efrydiaeth y Wladwriaeth neu ddyfarniad tebyg;
(v) pan oedd yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.
(2) Mae myfyriwr cymwys sy'n gymwys i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol o dan baragraff 2(1)(g) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw'r statws hwnnw tra pery'r cyfnod cymhwystra.
3 

(1) Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.
(2) Incwm yr aelwyd yw'r canlynol —
(a) yn achos myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol rhieni'r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5(9)) ac —
(i) yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner (heblaw partner o fewn ystyr paragraff 1(g)(iv)) rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9)); neu
(ii) yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9));
(b) yn achos myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu
(c) yn achos myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys.
(3) Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,075 yn cael ei ddidynnu —
(a) am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys; neu
(b) am bob plentyn heblaw'r myfyriwr cymwys sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr cymwys neu bartner rhiant y myfyriwr cymwys y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth.
(4) Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (b) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn ef neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau.
4 

(1) Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi'i ddidynnu eisoes wrth bennu'r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol —
(a) unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw'r tâl hwnnw'n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;
(b) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.
(2) Os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn syrthio odano a bod ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei anwybyddu yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei anwybyddu i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.
(3) Os yw'r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw —
(a) os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn;
(b) fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol  ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo.
5 

(1) Er mwyn pennu incwm trethadwy rhiant myfyriwr cymwys, rhaid i ddidyniadau y disgwylir eu gwneud neu esemptiadau a ganiateir —
(a) ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol tebyg;
(b) yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly yn unol â hwy; neu
(c) o dan is-baragraff (2).
beidio â chael eu gwneud neu eu caniatáu.
(2) Er mwyn pennu incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw rai o'r is-baragraffau canlynol —
(a) swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy'n ymwneud â phensiwn (nad yw'n bremiwm sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988, neu os yw'r incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.
(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a), ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm;
(c) yn achos myfyriwr sy'n rhiant neu riant myfyriwr cymwys y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,075.
(3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod incwm y rhiant yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am y flwyddyn ariannol gyfredol.
(4) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod incwm y rhiant mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am flwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr cymwys y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi drwy gymryd cyfartaledd incwm gweddilliol y rhiant am bob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n syrthio ynddynt fel ei incwm gweddilliol.
(5) Os yw rhiant y myfyriwr cymwys yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes neu broffesiwn y mae'n ei gynnal, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol flaenorol yn golygu'r cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol y mae cyfrifon yn cael eu cadw mewn perthynas ag ef sy'n ymwneud â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.
(6) Os yw rhiant myfyriwr cymwys yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n ffurfio rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth teth incwm Aelod-wladwriaeth arall dim ond am y rheswm —
(a) nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw ei incwm yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, os nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;
(b) nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw incwm y rhiant yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw'n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu
(c) bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae'r incwm ohonynt yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,
mae ei incwm trethadwy at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl fel y digwydd.
(7) Os yw incwm rhiant y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae'n cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm rhiant y myfyriwr cymwys at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi'i bennu yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn syrthio ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
(8) Os yw un o rieni'r myfyriwr cymwys yn marw naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi'i gymryd i ystyriaeth er mwyn pennu incwm yr aelwyd neu y byddai wedi'i gymryd i ystyriaeth felly, mae incwm yr aelwyd —
(a) os yw'r rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi; neu
(b) os yw'r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, yn gyfanswm y canlynol—
(i) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a
(ii) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir dryw gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol sy'n weddill ar ôl i'r rhiant arall farw.
(9) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r rhieni fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm p'un bynnag o'r rhieni y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu mai ef yw'r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.
(10) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r rhieni fel arfer yn byw gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at gyfanswm y canlynol —
(a) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan nad yw'r rhieni yn byw gyda'i gilydd fel hyn; a
(b) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir fel arall mewn perthynas â gweddill y flwyddyn berthnasol.
6 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o'r paragraff hwn a chan eithrio is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 5, mae incwm partner myfyriwr cymwys yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 5, gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys.
(2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r myfyriwr cymwys a'i bartner fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.
(3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r myfyriwr cymwys a'i bartner fel arfer yn byw gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei bennu drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu â hanner cant a dau ac wedi'u luosi â'r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner yn byw gyda'i gilydd fel arfer.
(4) Os oes gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.
7 
Mae incwm partner rhiant myfyriwr cymwys newydd y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd paragraff 3(2)(a) yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 6, gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr cymwys newydd, a chan ddehongli cyfeiriadau at y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at riant y myfyriwr cymwys newydd.
8 

(1) Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, neu sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol ac iddo bartner fel a ganlyn—
(a) mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £23,100 neu fwy, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob swm cyflawn o £9.50 sy'n codi incwm yr aelwyd yn uwch na £23,100; a
(b) mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £23,100, dim.
(2) Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol heb bartner fel a ganlyn—
(a) mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £10,755 neu fwy, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob swm cyflawn o £9.50 sy'n codi incwm yr aelwyd yn uwch na £10,755; a
(b) mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £10,755, dim.
(3) Rhaid i swm y cyfraniad sy'n daladwy o dan is-baragraff (1) neu (2) beidio â bod yn fwy na £7,610 mewn unrhyw achos.
(4) Caniateir addasu'r cyfraniad yn unol â pharagraff 10 neu 11.
(5) Pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £7,610.
(6) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a) os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys (ac eithrio myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd) mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried o dan baragraffau 5 a 7; neu
(b) os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.
9 

(1) Mewn perthynas â myfyriwr cymwys sy'n fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfraniad sy'n daladwy yw —
(a) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £38,810, £1 am bob swm cyflawn o £9.50 sy'n codi incwm yr aelwyd uwchlaw £38,810; a
(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £38,810 neu lai, dim.
(2) Rhaid i'r cyfaniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £5,910.
(3) Caniateir addasu'r cyfraniad yn unol â pharagraff 10 neu 11.
(4) Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £5,910.
(5) Mae'r is -baragraff hwn yn gymwys—
(a) os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys (ac eithrio myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn) mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried, o dan baragraffau 5 a 7; neu
(b) os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.
10 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol.
(2) Mae is-baragraffau (3) i (7) yn gymwys pan fo'r plant sy'n fyfyrwyr cymwys i gyd naill ai'n fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn neu i gyd yn fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd.
(3) Am unrhyw flwyddyn pan fo gan y canlynol ddyfarniad statudol ac eithrio dyfarniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (4)—
(i) mwy nag un o blant rhieni'r myfyriwr cymwys;
(ii) rhiant y myfyriwr cymwys; neu
(iii) partner rhiant y myfyriwr cymwys,y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys yw'r cyfryw gyfran o unrhyw gyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 ag y bydd y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl ymgynghori ag unrhyw awdurdod arall cysylltiedig yn ei hystyried yn gyfiawn o gymryd i ystyriaeth gymhwyso paragraff 7 o'r Atodlen hon i fyfyrwyr cymwys newydd a myfyrwyr presennol yn y drefn honno.
(4) Yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, am unrhyw flwyddyn y delir ynddi ddyfarniad sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Grantiau Gorfodol) 2003 neu adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 (a dim dyfarniad statudol arall) gan fwy nag un o blant rhieni'r myfyriwr cymwys, y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys yw swm sy'n hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 wedi'i rannu â nifer y plant sy'n dal dyfarniad statudol perthnasol.
(5) Os na fyddai'r cyfraniad, o ganlyniad i'r dosrannu o dan is-baragraff (4), yn cael ei ddileu drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys, cymhwysir gweddill y cyfraniad yn lle hynny—
(i) yn gyntaf mewn perthynas â'r dyfarniad statudol lleiaf (neu bob un dyfarniad statudol o'r fath) y caniateir i'r cyfraniad fod yn gymwys iddo; a
(ii) yna, yn nhrefn gynyddol maint, mewn perthynas â phob dyfarniad statudol sy'n weddill ac y caniateir i'r cyfraniad fod yn gymwys iddo, hyd oni ellir dosrannu balans y cyfraniad yn gyfartal heb fod unrhyw ran ohono'n weddill neu hyd oni na fydd yn weddill unrhyw ran o unrhyw ddyfarniad statudol na chymhwyswyd y cyfraniad iddi.
(6) Os —
(a) oes partner gan riant y myfyriwr cymwys yr asesir ei incwm o dan yr Atodlen hon;
(b) bydd cyfraniad yn cymryd i ystyriaeth incwm gweddilliol y rhiant hwnnw'n daladwy mewn perthynas â mwy nag un myfyriwr cymwys sy'n blentyn i naill ai'r rhiant hwnnw neu i'w bartner; a
(c) na fydd y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yr un fath yn mhob achos,
cyfrifir y cyfraniad mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys o dan is-baragraff (7).
(7) Os yw is-baragraff (6) yn gymwys, mae'r cyfraniad mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn swm hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 wedi'i rannu â nifer y myfyrwyr cymwys y cyfeirir atynt ym mharagraff (b) o is-baragraff (6) y mae cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â hwy ac os na ddiddymir y cyfraniad drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys, cymhwysir gweddill y cyfraniad yn yr un modd ag yn is-baragraff (5) i ddyfarniad statudol perthnasol y myfyrwyr cymwys ar eu haelwyd berthnasol.
(8) Os—
(a) bydd cyfraniad yn cymryd i ystyriaeth incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys yn daladwy mewn perthynas â mwy nag un myfyriwr cymwys sy'n blentyn i'r rhiant hwnnw neu i bartner y rhiant hwnnw; a
(b) nad yw'r swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yr un fath ym mhob achos oherwydd bod rhai o'r myfyrwyr cymwys yn fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn a rhai yn fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd,
cyfrifir y cyfraniad mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan is-baragraff (9).
(9) Pan fo is -baragraff (8) yn gymwys, bydd y cyfraniad mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn swm hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff (8) neu (9) wedi'i rannu â nifer y myfyrwyr cymwys y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) o is-baragraff (8) y mae cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â hwy a phan na ddiddymir y cyfraniad drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys, cymhwysir gweddill y cyfraniad yn yr un modd ag yn is-baragraff (5) i ddyfarniadau statudol perthnasol y myfyrwyr cymwys eraill o dan yr hen drefn pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn ac i grantiau statudol perthnasol y myfyrwyr cymwys eraill o dan y drefn newydd pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd.
(10) Pan fo cyfraniad sy'n cymryd i ystyriaeth incwm gweddilliol rhiant y myfyriwr cymwys yn daladwy mewn perthynas â mwy nag un o blant y rhiant hwnnw neu bartner y rhiant hwnnw, os oes partner, a bod incwm gweddilliol unrhyw fyfyriwr cymwys o'r fath yn fwy na dim, cyfrifir y cyfraniad mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yn unol â'r is-baragraffau canlynol—
(a) cyfrifir y cyfraniad mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys heb gyfeirio at baragraff 4 ond fel arall yn unol â'r Atodlen hon ac fe'i dosrennir rhwng pob myfyriwr cymwys yn unol â'r paragraff hwn;
(b) yna cymhwysir yn ychwanegol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys gyfraniad pellach o £1 am bob swm cyflawn o £9.50 sy'n codi'r swm a gyfrifir mewn perthynas â'r myfyriwr o dan baragraff (c) o'r is-baragraff hwn yn uwch na £23,100 pan fo'r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen system neu'n uwch na £38,810 pan fo'r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd;
(c) y swm y cyfeirir ato ym mharagraff (b) o'r is-baragraff hwn yw cyfanswm unrhyw symiau a gyfrifir o dan baragraffau 4, 5 a 7 (lle y bo'n briodol) o'r Atodlen hon gyda'r swm (os oes swm) sy'n peri bod cyfanswm y symiau a gyfrifir o dan baragraffau 5 a 7 yn uwch na £23,100 wedi'i ddidynnu pan fo'r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen system neu'n uwch na £38,810 pan fo myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd.
(11) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (12), at ddiben cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir i incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant, unrhyw swm sy'n weddill —
(a) os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i un myfyriwr cymwys yn unig a bod y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw'n fwy na'r dyfarniad statudol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw, y gwahaniaeth rhwng y cyfraniad hwnnw a'r dyfarniad statudol hwnnw; neu
(b) os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i fwy nag un myfyriwr cymwys, unrhyw swm sy'n weddill ar ôl dosrannu'r cyfraniad i'w blant o dan y paragraff hwn.
(12) Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner o fewn paragraff 1(i) o'r Atodlen hon, cyfrifir y symiau a gaiff eu hadio at ei incwm gweddilliol o dan is-baragraff (11) o'r paragraff hwn fel pe bai'r cyfraniad mewn perthynas â'i blant wedi'i asesu gan gymryd i ystyriaeth incwm partner y rhiant o dan baragraff 7, p'un a chyfrifwyd y cyfraniad ar y sail honno mewn gwirionedd ai peidio.
(13) Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd berthnasol” (“relevant household”) yw'r holl fyfyrwyr cymwys hynny y cyfrifir cyfraniad mewn perthynas â hwy drwy gyfeirio at yr un incwm o dan baragraffau 5 a 7.
11 

(1) Os oes cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 8 neu 9 mewn perthynas â myfyriwr cymwys annibynnol sydd â phartner, mae'r cyfraniad yn daladwy yn unol â'r is-baragraffau canlynol—
(a) am unrhyw flwyddyn y mae dyfarniad statudol heblaw dyfarniad y cyfeirir ato ym mharagraff (b) o'r is-baragraff hwn gan bartner y myfyriwr cymwys annibynnol, y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys annibynnol yw'r gyfran honno o unrhyw gyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 y mae'r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl ymgynghori ag unrhyw awdurdod arall sy'n ymwneud â'r mater o'r farn ei fod yn gyfiawn;
(b) yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, am unrhyw flwyddyn y delir ynddi mae ddyfarniad sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003 neu adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 (a dim unrhyw ddyfarniad statudol arall) gan bartner y myfyriwr cymwys annibynnol, mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys annibynnol yn swm sy'n hafal i hanner y cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9;
(c) pe na bai'r cyfraniad a gyfrifir, o ganlyniad i'r dyraniad o dan baragraff (b) o'r is-baragraff hwn, yn cael ei ddileu drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys annibynnol, mae gweddill y cyfraniad yn cael ei gymhwyso yn hytrach at ddyfarniad statudol perthnasol ei bartner os ydynt ill dau yn fyfyrwyr o dan yr hen drefn neu os ydynt ill dau yn fyfyrwyr o dan y drefn newydd.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), er mwyn cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir at incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant unrhyw swm sy'n weddill —
(a) os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i un myfyriwr cymwys yn unig a bod y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw yn fwy na'r dyfarniad statudol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw, y gwahaniaeth rhwng y cyfraniad hwnnw a'r dyfarniad statudol hwnnw; neu
(b) os yw myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i fwy nag un myfyriwr cymwys, unrhyw swm sy'n weddill ar ôl dosrannu'r cyfraniad i'w blant o dan yr Atodlen hon.
(3) Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner sydd hefyd yn fyfyriwr cymwys y cymerir ei incwm i ystyriaeth wrth asesu'r cyfraniad mewn perthynas â'r plant yn is-baragraff (2), ychwanegir hanner y swm a gyfrifir o dan is-baragraff (2) at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant.