
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2007.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2003.
2 

(1) Mae'r prif Reoliadau yn cael eu diwygio'n unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(b), hepgorer y geiriau “Awdurdod Iechyd” lle maent yn ymddangos y tro cyntaf.
(3) Yn rheoliad 4(3), hepgorer yr holl eiriau hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw ar ôl y geiriau “rhaid i'r cyrff cyfrifol gydweithredu â'r personau neu'r cyrff a restrir yn rheoliad 3(1)”.
(4) Yn rheoliad 5(2)(dd)(v), ar ôl y gair “llesiant” mewnosoder y geiriau “gan gynnwys anghydraddoldebau sy'n ymwneud â hil, anabledd, rhyw, iaith, oedran, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd a chred”.
(5) Yn rheoliad 6, hepgorer paragraffau (2) a (3).
(6) Mae rheoliad 7 yn cael ei ddiwygio'n unol â'r darpariaethau canlynol:
(a) ar ôl paragraff (1)(a), mewnosoder yr is-baragraff canlynol “(aa) cynlluniau plant a pobl ifanc o dan adran 26(1) o Ddeddf Plant 2004”;
(b) ym mharagraff (1)(c), yn lle'r geiriau “adran 28 o Ddeddf Iechyd 1999” rhodder “adran 17 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006”;
(c) ym mharagraff (2), hepgorer yr holl eiriau hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw ar ôl y geiriau “cynlluniau a restrir ym mharagraff (1) uchod”;
(ch) ym mharagraff (4), hepgorer yr holl eiriau hyd at ddiwedd y paragraff ar ôl y geiriau “fel rhan o'u dyletswydd i baratoi strategaeth”;
(d) ym mharagraff (5), hepgorer yr holl eiriau hyd at ddiwedd y paragraff ar ôl y geiriau “fel rhan o'u dyletswydd i baratoi strategaeth”.
(7) Yn rheoliad 10(4), rhodder y ffigur “3” yn lle'r ffigur “5”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007