
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 29 Mawrth 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y diffiniad o “NHS sight test fee” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997—
(a) yn lle “£50.77” rhodder “£52.04”; a
(b) yn lle “£18.39” rhodder “£18.85”;
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007