
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2007. Maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 28 Mawrth 2007.
2 
Mae'r offerynnau a ddisgrifir yn y golofn gyntaf a'r ail golofn o'r Atodlen yn cael eu dirymu i'r graddau a bennir yn y drydedd golofn o'r Atodlen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
YR ATODLEN
Rheoliad 2


Yr offeryn a ddirymir Y Cyfeirnod Graddau'r Dirymu
Rheoliadau Lles Da Byw (Llawdriniaethau a Waherddir) 1982 O.S. 1982/ 1884 Y cyfan o'r Rheoliadau.
Rheoliadau Lles Da Byw (Llawdriniaethaua Waherddir) (Diwygio) 1987 O.S. 1987/ 114 Y cyfan o'r Rheoliadau.
Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 O.S. 2001/ 2682 Paragraffau 8 a 9 o Atodlen 3D; a Pharagraffau 19 i 26 o Atodlen 6 .