
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru (Cyfansoddiad) 2006 a daw i rym pan ddaw Gorchymyn 2005 i rym.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw Asiantaeth yr Amgylchedd;
 ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995;
 ystyr “Gorchymyn 2005” (“the 2005 Order”) yw Gorchymyn Pwyllgorau Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru, Hafren-Trent a Gogledd-Orllewin Lloegr (Newid Ffiniau) 2005;
 ystyr “y pwyllgor” (“the committee”) yw Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru, sef y pwyllgor rhanbarthol amddiffyn rhag llifogydd a sefydlwyd gan adran 14 o Ddeddf 1995 ac y mae cynghorau'r bwrdeistrefi sirol a'r siroedd a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gynghorau cyfansoddol ohono.
2 

(1) Mae'r pwyllgor yn cynnwys y canlynol, ac ni chaiff yr un ohonynt fod yn aelod o'r Asiantaeth, hynny yw—
(a) cadeirydd a saith aelod arall wedi eu penodi gan y Cynulliad;
(b) dau aelod wedi eu penodi gan yr Asiantaeth; ac
(c) un aelod wedi ei benodi gan bob grwŵp a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen, neu ar ran bob grwŵp, y mae cynghorau'r siroedd a'r bwrdeistrefi sirol a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen yn gynghorau cyfansoddol ohono.
(2) Mae'r penodiadau o dan baragraff (1)(c) i gael eu gwneud gan y cynghorau ym mhob grwŵp yn gweithredu ar y cyd mewn perthynas â'r aelod a benodir dros y grwŵp hwnnw.
(3) Os digwydd na fydd y cynghorau a bennir yn unrhyw grwŵp yn yr Atodlen yn gallu gwneud penodiad o dan baragraff (1)(c), caiff y Cynulliad benodi aelod dros y grwŵp hwnnw ar ran y cynghorau hynny.
(4) Wrth benodi person i fod yn gadeirydd neu'n aelod o'r pwyllgor, rhaid i'r Cynulliad neu gyngor cyfansoddol, yn ôl y digwydd, ystyried y priodoldeb o benodi person sydd â phrofiad o fater, ac sydd wedi dangos gallu mewn mater sydd yn berthnasol i swyddogaethau'r pwyllgor.
3 
At ddibenion y penodiadau cyntaf a wneir gan bob grwŵp dan erthygl 2(1)(c) neu ar ran bob grwŵp o dan erthygl 2(3), mae paragraff 1 (3) o Atodlen 5 i Ddeddf 1995 (tymor swydd aelodau a benodir gan gynghorau cyfansoddol) yn effeithiol gyda'r addasiadau hyn—
(a) yn lle “June” rhodder “April”; a
(b) yn lle “a term of four years” rhodder “a term ending with 31 May 2010”.
4 
Dirymir Gorchymyn Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd (Rhanbarth Cymru) 1996.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
TLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2006
YR ATODLEN
(Erthygl 2)


Grwŵp Cynghorau Cyfansoddol
1 Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam
2 Ynys Môn, Conwy a Gwynedd
3 Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro
4 Bro Morgannwg a Chaerdydd
5 Abertawe, Castell-Nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr
6 Powys, Sir Fynwy a Thor-faen
7 Blaenau Gwent, Caerffili a Chasnewydd
8 Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf