
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pwŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru sydd—
(a) yn gynghorau sir neu'n gynghorau bwrdeistref sirol;
(b) yn awdurdodau Parciau Cenedlaethol; ac
(c) yn awdurdodau tân ac achub a sefydlwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), awdurdodir awdurdod gwerth gorau i wneud unrhyw beth at ddiben masnachol y mae wedi'i awdurdodi i'w wneud er mwyn cyflawni un o'i swyddogaethau cyffredin.
(2) Cyn arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod gwerth gorau—
(a) paratoi achos busnes i ategu arfer arfaethedig y pŵer hwnnw; a
(b) cymeradwyo'r achos busnes hwnnw.
(3) Rhaid i awdurdod gwerth gorau adennill costau unrhyw lety, nwyddau, gwasanaethau, staff neu unrhyw beth arall y mae'n ei gyflenwi i gwmni yn unol ag unrhyw gytundeb neu drefniant i hwyluso'r broses o arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1).
(4) Yn yr erthygl hon ystyr “achos busnes” yw datganiad cynhwysfawr ynghylch—
(a) amcanion y busnes;
(b) y buddsoddiad a'r adnoddau eraill sy'n ofynnol i sicrhau'r amcanion hynny;
(c) unrhyw risgiau y gallai'r busnes eu hwynebu a pha mor sylweddol yw'r risgiau hynny; ac
(ch) canlyniadau ariannol disgwyliedig y busnes, ynghyd ag unrhyw ddeilliannau perthnasol eraill y disgwylir i'r busnes eu sicrhau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2006