
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “awdurdod goruchwylio lleol” (“local supervising authority”) yw'r corff sy'n arfer swyddogaethau yn unol ag erthyglau 42(1)(b) a 43 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly” ) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “Gorchymyn 2004” (“the 2004 Order”) yw Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydliad, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004;
 ystyr “PIC” (“HPW”) yw'r corff a adwaenir fel Proffesiynau Iechyd Cymru (Health Professions Wales) ac a sefydlwyd gan Orchymyn 2004;
2 
Diddymir PIC.
3 
Mae Gorchymyn 2004 a Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2004 yn cael eu dirymu.
4 
Ar 1 Ebrill 2006—
(a) yn ddarostyngedig i is-baragraffau (b) ac (c) bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogi gyda PIC yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg;
(b) bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogi gyda PIC ac sy'n delio'n llwyr neu'n bennaf â swyddogaethau awdurdod goruchwylio lleol yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan y Cynulliad Cenedlaethol;
(c) bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogaeth gyda PIC ac sy'n delio'n llwyr neu'n bennaf â sicrhau ansawdd cyrsiau nyrsio a bydwreigiaeth naill ai ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan y Cynulliad Cenedlaethol.
5 
Ar 1 Ebrill 2006—
(a) yn ddarostyngedig i is-baragraffau (b) ac (c) bydd pob eiddo yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(b) bydd y les y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(c) bydd y cofnodion a ddelir gan PIC mewn perthynas ag arfer swyddogaeth dyfarndaliadau myfyrwyr a roddir o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus 1968 yn cael eu trosglwyddo i Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg.
6 

(1) Mae unrhyw hawl y gellid, yn union cyn 1 Ebrill 2006, ei gorfodi gan neu yn erbyn PIC yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Mae unrhyw rwymedigaeth sy'n codi o arfer ei swyddogaethau y gellid, yn union cyn 1 Ebrill 2006, ei gorfodi yn erbyn PIC, yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.
7 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i ddirwyn i ben faterion PIC gan gynnwys paratoi cyfrifon dyladwy PIC.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon y datganiad o gyfrifon i Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn 1 Hydref 2006.
(3) Rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol—
(a) archwilio ac ardystio cyfrifon a gyflwynir iddo o dan baragraff (2); a
(b) gosod copi ohonynt fel y'u hardystiwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd ag adroddiad arnynt.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2006
YR ATODLEN
Erthygl 5
Mangreoedd swyddfa ar ail lawr Golate House, Heol Eglwys Fair, Caerdydd a gynhwysir mewn les dyddiedig 9 Hydref 1997 ac a wnaed rhwng Dovey Estates Ltd(1) a Bwrdd Cenedlaethol Cymru dros Nyrsio Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru(2).
