
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Ymchwiliadau Safonau) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000; ac
 ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005.
2 
At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny—
(a) at swyddog safonau moesegol neu at y swyddog hwnnw yn gyfeiriad at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
(b) at Fwrdd Safonau Lloegr yn gyfeiriad at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
(c) at Loegr yn gyfeiriad at Gymru;
(ch) at adran 59 yn gyfeiriad at adran 69; a
(d) at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
3 
At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ddangosir yn yr Atodlen honno.
4 
At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau Deddf 2005 fel y'u rhestrir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ddangosir yn yr Atodlen honno.
5 
At ddibenion y gyfraith ddifenwi, bydd gan unrhyw ddatganiad (boed mewn ysgrifen neu ar lafar) a wneir gan—
(a) aelod o staff Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”); neu
(b) berson arall sy'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu'n cynorthwyo'r Ombwdsmonmewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran III o Ddeddf 2000 fraint absoliwt.
6 
Dirymir Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 .
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2006
ATODLEN 1
Erthygl 2


Adran Pwnc
Adran 60(1) Cynnal ymchwiliadau
Adran 61 Y weithdrefn mewn perthynas ag ymchwiliadau
Adran 62(1), (2), (3), (5), (6), (8), (9), (10) ac (11) Ymchwiliadau: darpariaethau pellach
Adran 63(3) Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth
ATODLEN 2
Erthygl 3
1 
Mae adran 60(4) o Ddeddf 2000 (Cynnal ymchwiliadau) yn gymwys fel petai'r canlynol yn cael ei roi yn lle'r is-adran honno—“
(4) The Public Services Ombudsman for Wales—
(a) may not at any time conduct an investigation under section 69 in relation to a member or co-opted member (or former member or co-opted member) of a relevant authority if, within the period of five years ending with that time, the Public Services Ombudsman for Wales has been a member or an officer of the authority or a member of any committee, sub-committee, joint committee or joint sub-committee of the authority;
(b) may, where that Ombudsman is precluded from conducting an investigation by paragraph (a), authorise any person to conduct such an investigation in relation to that member or co-opted member (or former member or co-opted member), to the extent so authorised, under paragraph 13 of Schedule 1 to the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005.”.
2 
Bydd adran 60(5) o Ddeddf 2000 (Cynnal ymchwiliadau) yn gymwys fel pe bai—
(a) y geiriau “Where the Public Services Ombudsman for Wales” yn cael eu rhoi yn lle “An ethical standards officer who”;
(b) y geiriau “section 69, the Public Services Ombudsman for Wales” yn cael eu rhoi yn lle “section 59”;
(c) y canlynol yn cael ei roi yn lle paragraff (a)—“
(a) must disclose the nature of the interest to—
(i) where section 69(1)(a) applies—(a) the person by whom the allegation is made; and(b) the member or co-opted member (or former member or co-opted member) against whom the allegation is made;
(ii) where section 69(1)(b) applies, the member or co-opted member (or former member or co-opted member) concerned; and
(iii) the relevant authority concerned;”;
(ch) ym mharagraff (b), “; and” yn cael ei roi yn lle'r atalnod llawn; a
(d) ar ôl paragraff (b) y canlynol yn cael ei roi—“
(c) may authorise any person to conduct such an investigation in relation to that matter (to the extent so authorised) under paragraph 13 of Schedule 1 to the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005.”.
3 
Bydd adran 60(6) o Ddeddf 2000 (Cynnal ymchwiliadau) yn gymwys fel pe bai—
(a) y geiriau “the Public Services Ombudsman for Wales” yn cael eu rhoi yn lle “an ethical standards officer”; a
(b) y geiriau “or paragraph 3(2) of Schedule 4 or any breach falling within paragraph 3(3) of that Schedule” yn cael eu hepgor.
4 
Bydd Adran 62(4) o Ddeddf 2000 (Ymchwiliadau: darpariaethau pellach) yn gymwys fel pe bai—
(a) y geiriau “The Public Services Ombudsman for Wales” yn cael eu rhoi yn lle “An ethical standards officer”;
(b) y geiriau “that Ombudsman” yn cael eu rhoi yn lle “such an officer”; ac
(c) ym mharagraff (a), y geiriau “the National Assembly for Wales or” yn cael eu rhoi ar ôl “the authority concerned and”.
5 
Bydd adran 63(1) o Ddeddf 2000 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai—
(a) y geiriau “by the Public Services Ombudsman for Wales” yn cael eu rhoi yn lle “by ethical standards officers”;
(b) ym mharagraff (a), y geiriau “, the Public Services Ombudsman for Wales” yn cael eu hepgor; ac
(c) ym mharagraff (f), y paragraff canlynol yn cael ei fewnosod—“
(g) the disclosure is for the purposes of an investigation or report of an investigation under Part 2 of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005.”.
6 
Bydd adran 63(2) o Ddeddf 2000 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai—
(a) y geiriau “The National Assembly for Wales” yn cael eu rhoi yn lle “The Secretary of State”;
(b) y gair “Wales” yn cael ei roi yn lle “England”;
(c) y geiriau “the Public Services Ombudsman for Wales” yn cael eu rhoi yn lle “any ethical standards officer”; ac
(ch) y geiriau “his or (as the case may be)” yn cael eu hepgor.
ATODLEN 3
Erthygl 4
1 
Bydd adran 26(2) o Ddeddf 2005 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai'r paragraff canlynol yn cael ei fewnosod ar ôl paragraff (j),—“
(k) for the purposes of an investigation and of any report to be made under section 69 of the Local Government Act 2000.”.