
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Iechyd Cymuned (Sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu Cynghorau Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chaerfyrddin/Dinefwr) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn:
 ystyr “aelodau” (“members”) yw aelodau, fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau, o'r Cynghorau;
 ystyr “y Cynghorau” (“the Councils”) yw Cyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chyngor Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr;
 ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2006.
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;
 mae i “Prif Swyddog” (“Chief Officer”) yr ystyr a roddir iddo yn y Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004;
 ystyr “Sir neu Fwrdeistref Sirol” (“County or County Borough”) yw Sir neu Fwrdeistref Sirol yng Nghymru fel a osodir yn Rhannau I a II o Atodlen 4 i Dddeddf Llywodraeth Leol 1972; ac
 ystyr “swyddogion” (“officers”) yw'r personau a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan reoliad 14 o'r Rheoliadau i weithredu fel swyddogion y Cynghorau.
2 

(1) Sefydlir Cyngor Iechyd Cymuned o'r enw Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin neu Carmarthenshire Community Health Council.
(2) Fe'i sefydlir ar gyfer Sir Gaerfyrddin fel y rhagnodir ar hyn o bryd yn Neddf Llywodraeth Leol 1972.
(3) Os caiff ffin Sir Gaerfyrddin fel y rhagnodir hi ar hyn o bryd yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 ei hamrywio, caiff ffin Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ei hamrywio'n unol â hynny.
(4) Nid yw paragraff (3) uchod yn gymwys os caiff Sir neu Fwrdeistref Sirol newydd ei chreu ar gyfer Sir Gaerfyrddin neu ran ohoni, os diddymir Sir Gaerfyrddin neu os caiff ei chyfuno gydag un neu fwy o Siroedd neu Fwrdeistrefi Sirol.
3 
Swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin yw—
(i) yr hyn a osodir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 7A i'r Ddeddf;
(ii) fel a nodir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn rheoliadau a wnaed yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 7A i'r Ddeddf; a
(iii) byddant yn cynnwys swyddogaethau y Cynghorau sy'n cael eu trosglwyddo i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin gan erthygl 4 isod.
4 
Ar y dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir holl swyddogaethau'r Cynghorau i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin.
5 

(1) Bydd aelodau'r Cynghorau yn trosglwyddo i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ar y dyddiad trosglwyddo ac yn dod yn aelodau o'r Cyngor hwnnw.
(2) Cyfnod swydd pob aelod o'r Cynghorau fel aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin fydd y cyfnod sy'n weddill o dymor swydd yr aelod hwnnw fel aelod o'r Cynghorau hynny.
6 
Bydd Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a phob swyddog arall sy'n darparu gwasanaethau i'r Cynghorau ac sy'n gyflogedig gan Fwrdd Iechyd Lleol Powys ar y dyddiad trosglwyddo yn darparu, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, wasanaethau i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin.
7 

(1) Rhaid i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ddarparu datganiadau o gyfrifon blynyddol am y cyfnod o ddyddiad y datganiad o gyfrifon blynyddol diwethaf a baratowyd gan y Cynghorau hyd y dyddiad trosglwyddo.
(2) Rhaid cyflwyno'r cyfryw gyfrifon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn dau fis o'r dyddiad trosglwyddo.
8 
Rhaid i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin gyflwyno adroddiadau, yn unol â rheoliad 16(1)(a), (b) ac (c) o'r Rheoliadau, ar gyfer pob un o'r Cynghorau erbyn 1 Medi 2006.
9 
Bydd unrhyw beth a wneir gan y Cynghorau neu o'u rhan wrth arfer swyddogaeth neu mewn cysylltiad â hi sydd yn rhinwedd y gorchymyn hwn yn dod yn swyddogaeth i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin, i'r graddau y mae hynny'n ofynnol i barhau ei effaith ar y dyddiad trosglwyddo neu ar ei ôl, yn cael effaith fel petai wedi cael ei wneud gan Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin neu o'i ran.
10 
Ar y dyddiad trosglwyddo diddymir y Cynghorau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2006