
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006.
2 
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.
3 
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.
4 
1 Ebrill 2006 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
5 
Hyd nes bod rheoliadau'n cael eu gwneud o dan adran 31 mewn perthynas â Chymru, mae'r cyfeiriad ym mharagraff 9 o Atodlen 2 at “any transfer of control authorised by regulations under section 31” i fod yn effeithiol fel pe bai'n gyfeiriad at “any transfer of control agreement under Schedule 13” o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2006
YR ATODLEN
Erthygl 4


Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 35 Staffio ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir
Adran 36 Staffio ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion arbennig sefydledig
Adran 37 Taliadau mewn perthynas â diswyddo, etc.
Adran 40 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym Diwygiadau i Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod Diddymiadau
Atodlen 2 Effaith atal dros dro cyllideb ddirprwyedig ar staffio
Atodlen 3 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym Diwygiadau i Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Atodlen 21, paragraff 30, paragraff 107, paragraff 110(3)(b) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau (f) a (k) o isadran (6) o adran 127 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraff 110(3)(c) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau (p) a (q) newydd isadran (6) o adran 127 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Atodlen 22, Rhan 3, diddymu— Diddymiadau
Deddf Diwygio Addysg 1988, adran 218(1)(d), 
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adrannau 54 i 57, adran 127(6)(f) a (k), 
Atodlenni 16 a 17, 
Deddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999, adran 40. 