
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Dileu Ffioedd) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000; ac
 ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Dirymir drwy hyn y canlynol—
(a) Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002;
(b) rheoliad 35 o Reoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004;
(c) rheoliad 34 o Reoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004;
(ch) rheoliad 28 o Reoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003;
(dd) rheoliad 51 o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003;
(e) rheoliad 33 o Reoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003;
(f) rheoliad 6 o Reoliadau Arolygu Ysgolion a Cholegau Preswyl (Pwerau a Ffioedd) (Cymru) 2002;
(ff) rheoliad 4 o Reoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002.
(g) rheoliad 14(a) o Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002.
3 

(1) At ddibenion adran 12(2), 16(3), 22(7)(i) o Ddeddf 2000 (ceisiadau am gofrestru), dim yw'r ffi ragnodedig ym mhob achos.
(2) At ddibenion adran 15(3) o Ddeddf 2000 (ceisiadau gan bersonau cofrestredig), dim yw'r ffi ragnodedig ym mhob achos.
4 

(1) At ddibenion adran 79F(1) a (2) o Ddeddf 1989 (caniatáu neu wrthod cofrestru), dim yw'r ffi ragnodedig ym mhob achos.
(2) At ddibenion paragraff 7 o Atodlen 9A i Ddeddf 1989 (ffioedd blynyddol), dim yw'r ffi ragnodedig.
5 
At ddibenion adran 94(7) o Ddeddf 2003 (adolygiadau ac ymchwiliadau), dim yw'r ffi benodedig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2006