
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 2004.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) 1 Medi 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn adran 25 o'r Ddeddf (Cydweithio i wella lles: Cymru) i rym.
(2) 1 Hydref 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn adran 31 o'r Ddeddf (Sefydlu Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant yng Nghymru).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2006