
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 1990” yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
2 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar 16 Mawrth 2006—
(a) adran 47 (diddymu'r gofyniad i gontractio swyddogaethau gwaredu gwastraff allan);
(b) adran 53 (y pŵer i awdurdodau casglu gwastraff ddefnyddio eu pwerau ymchwilio o dan adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i ymchwilio i ddigwyddiadau neu dramgwyddau o ran cyflawni unrhyw rai o'u swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf 1990);
(c) yn Atodlen 4 (mân ddiwygiad a diwygiadau canlyniadol), paragraff 4; ac
(ch) yn Rhan 4 (gwastraff) o Atodlen 5, y diddymiadau i Ddeddf 1990 ac eithrio'r diddymiad i adran 33 o'r Ddeddf honno.
3 
Daw cymaint o'r darpariaethau canlynol sy'n rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'n gosod dyletswydd arno i wneud neu ddarparu drwy reoliadau neu orchmynion, neu roi cyfarwyddiadau neu roi neu ddyroddi canllawiau, neu ddarparu o ran arfer unrhyw bŵer o'r fath neu gyflawni unrhyw ddyletswydd o'r fath, i rym ar 16 Mawrth 2006—
 adran 2;
 adran 6;
 adran 8;
 adran 10;
 adran 13;
 adran 17;
 adran 19;
 adran 20;
 adran 24;
 adran 28;
 adran 30;
 adrannau 37 a 38:
 adrannau 45 a 46;
 adran 48;
 adran 52;
 adrannau 55 i 60;
 adran 67;
 adrannau 73 i 75;
 adran 82;
 adrannau 96 i 98;
 adran 101; ac
 adrannau 103 a 104.
4 
Daw darpariaethau canlynol Deddf 2005 i rym pan ddaw Rheoliadau Tir a Halogwyd (Cymru) 2006 i rym—
(a) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 104 (diwygio trefniadau ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau adfer a gyflwynir o dan adran 78E o Ddeddf 1990); a
(b) Rhan 10 o Atodlen 5 (diddymiadau).
5 

(1) Serch eu diddymu gan adran 47 o Ddeddf 2005 a Rhan 4 o Atodlen 5 iddi, mae adran 32 (fel y'i darllenir gydag adran 30(5)) o Ddeddf 1990 a Rhan 2 o Atodlen 2 iddi yn parhau i gael effaith at ddibenion rheoleiddio—
(a) gweithgareddau cwmni a ffurfiwyd gan awdurdod gwaredu gwastraff neu y bu gan awdurdod gwaredu gwastraff ran yn ei ffurfio at ddibenion casglu gwastraff, neu waredu, cadw neu drin gwastraff, pan fydd y cwmni'n parhau o dan reolaeth yr awdurdod gwaredu gwastraff ar 16 Mawrth 2006; a
(b) swyddogaethau awdurdod gwaredu gwastraff mewn cysylltiad â chwmni o'r fath cyhyd ag y pery'r cwmni o dan reolaeth yr awdurdod.
(2) Ym mharagraff (1), mae i “awdurdod gwaredu gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste disposal authority” yn adran 30(2) o Ddeddf 1990 ac mae i “rheolaeth” yr ystyr a roddir i “control” yn adran 32(11) o'r Ddeddf honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mawrth 2006