
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2006; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 16 Mawrth 2006.
2 

(1) Diwygier Rhan VIII o Atodlen 1 i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005  yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Ar ôl paragraff 3 mewnosoder—“
3A 
Penderfyniad y Comisiwn 2005/760/EC ynghylch mesurau gwarchod penodol mewn perthynas â ffliw adar pathogenig iawn mewn trydydd gwledydd penodol ar gyfer mewnforio adar dof (OJ Rhif L285, 28.10.2005, t.60) (i'r graddau y mae'n ymwneud â chynhyrchion sy'n deillio o'r adar hynny), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/862/EC (OJ Rhif L317, 3.12.2005, t.19).”.
(3) Yn lle paragraff 18 rhodder—“
18 
Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid nas bwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 416/2005 (OJ Rhif . L66, 12.3.2005, t.10), ac fel y'i darllenir gyda Phenderfyniad y Comisiwn 2005/760/EC, fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/862/EC (OJ Rhif L317, 3.12.2005, t.19 ).”.
3 
Dirymer Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2005
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mawrth 2006